PCYDDS yn cynnal Cynhadledd Hinsawdd i Blant Caerfyrddin.
Fe wnaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gynnal Cynhadledd Hinsawdd i Blant Caerfyrddin ar ei champws yn ddiweddar. Bwriad y digwyddiad, a drefnwyd gan Gyngor Tref Caerfyrddin mewn cydweithrediad â’r brifysgol, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Menter Gorllewin Sir Gâr, oedd rhoi profiad dysgu gwerthfawr i’r plant.
Daeth disgyblion o Ysgol y Dderwen, Ysgol Llangynnwr, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Model, Ysgol Gynradd Myrddin, Ysgol Gatholig y Santes Fair, Ysgol Tre Ioan, Ysgol Bro Myrddin ac Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth i’r gynhadledd. Prif amcan y gynhadledd oedd codi ymwybyddiaeth ymhlith plant o sefyllfa bresennol yr hinsawdd, ac archwilio ffyrdd o fynd i’r afael â’r sefyllfa a’i gwella.
Drwy gydol y diwrnod, cynhaliwyd gweithdai amrywiol gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ynghyd â myfyrwyr a darlithwyr Blynyddoedd Cynnar, Plentyndod ac Ieuenctid PCYDDS. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys creu ‘celf sbwriel’ o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu, dysgu sut i leihau olion troed carbon a darganfod mwy sut mae cylch bywyd glöyn byw yn cael ei effeithio gan newid yn yr hinsawdd.
Dywedodd Dirprwy Faer Caerfyrddin, y Cynghorydd Heledd ap Gwynfor:
“Ges i’r fraint i daro i fewn i’r gynhadledd hinsawdd, a’r hyn wnaeth fy nharo i oedd yr egni a’r diddordeb byw oedd gan y plant yn eu hamgylchfyd a’u ymwybyddiaeth nhw o’u cyfraniad nhw ato.
“Rodd y plant mor awyddus i ddysgu a chael cymryd rhan. Mae hi mor bwysig cynnal sesiynau o’r fath er mwyn i bawb allu dysgu gan ein gilydd er mwyn creu cymuned, gwlad, a byd gwell a glanach i fyw ynddi
Ychwanegodd Sarah Jones o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru:
“Mae hi wedi bod yn wych ymgysylltu â phlant ysgolion lleol yn Sir Gâr yng Nghynhadledd Hinsawdd heddiw. Roedd hi’n wych gweld awch y plant am eisiau helpu ein hamgylchedd naturiol addasu i’n hinsawdd sy’n newid. Fe wnaethom ganolbwyntio ar sut mae ein hinsawdd sy’n newid yn effeithio ar gylch oes ein gloÿnnod byw a’n planhigion blodeuol.
“Yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, mae cadwraeth yn greiddiol i bopeth a wnawn ac roedd hi’n wych gweld y plant yn rhannu ein brwdfrydedd am hyn. Y newyddion da yw y gallwn helpu ein gloÿnnod byw a phryfed peillio eraill trwy hau hadau blodau gwyllt yng ngerddi ein hysgolion, ein parciau lleol a’n gerddi gartref. Gall y plant nawr fynd yn ôl i’w cymunedau lleol a rhannu pwysigrwydd cofnodi’r hyn a welwn yn ein hamgylchedd. Roedd hi hefyd yn gyffrous iawn cael y cyfle i sôn am ein prosiect newydd a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, sef Planhigion y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol.”
Meddai Kate Williams, Rheolwr Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd yn PCYDDS:
“Mae gan PCYDDS ymrwymiad dwfn i gynaliadwyedd. Mae cynnal 2il Gynhadledd Hinsawdd i Blant Caerfyrddin, a chroesawu ysgolion o bob rhan o Gaerfyrddin, yn enghraifft o’n hymroddiad. Trwy ein partneriaeth â Chyngor Tref Caerfyrddin, Menter Gorllewin Sir Gâr, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, a’n darlithwyr a’n myfyrwyr ymroddedig, roedd modd i ni ddod ynghyd i greu profiad sy’n rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i’n pobl ifanc fynd i’r afael â heriau byd-eang.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476