Skip page header and navigation

Mae Aimee Williams, myfyriwr BA Drama Gymhwysol blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi lansio menter llesiant arloesol ar gyfer myfyrwyr ar Gampws Caerfyrddin. 

An image of Aimee sitting in a field

Wedi’i sbarduno gan ei brwdfrydedd dros wella llesiant myfyrwyr, datblygodd a hwyluso “WonderWorld” yn rhan o’i phrosiect terfynol. Mae’r lle unigryw hwn yn gwahodd myfyrwyr i fyd dychmygol o chwarae rôl a drama, wedi’i ysbrydoli gan Dungeons and Dragons ac yn defnyddio technegau drama gymhwysol megis Drama Proses a Mantell yr Arbenigwr.

Am chwe wythnos, ymgasglodd myfyrwyr yn wythnosol mewn stiwdio ddrama i gychwyn ar anturiaethau dychmygol. Fe wnaethon nhw greu bydoedd, datrys problemau, ac ennill darnau arian gyda’i gilydd wrth fyfyrio ar themâu o WonderWorld a oedd yn cynnig canfyddiadau i’w bywydau go iawn.

Meddai Aimee:

“Rwy’n hapus i rannu bod cyfanswm o 16 o fyfyrwyr wedi cymryd rhan mewn un neu ragor o’r gweithdai hyn. Mynegodd llawer ohonyn nhw fod eu llesiant cyffredinol wedi gwella o ganlyniad, ac roedden nhw’n dymuno’n eiddgar bob sesiwn gweithdy ddydd Mawrth. Mae’n bwysig nodi bod rhai myfyrwyr yn ymwybodol o’r gweithdai ond nad oedden nhw’n gallu dod oherwydd asesiadau parhaus, gan fod y prosiect wedi dechrau yn ystod y tymor olaf. Nododd y myfyrwyr a gymerodd ran yn y gweithdai effaith gadarnhaol ar eu cyflwr meddyliol ac maen nhw hyd yn oed wedi gofyn i’r gweithdai hyn barhau yn y flwyddyn academaidd nesaf. Rwyf wedi derbyn yr adborth a ges i o bob sesiwn isod.”

Dyma rai o sylwadau’r myfyrwyr ar WonderWorld:

“Gweithdy wythnosol sy’n ddibynadwy ac sy’n teimlo’n gefnogol. Yn cefnogi llesiant drwy wirio sut rydych chi’n gwneud, sydd yn aml yn cael ei anwybyddu ond mae’r gweithdy hwn yn caniatáu i chi fod ar agor. Parth Dim Barnu.”

“Dihangfa hwyliog lle galla i fod yn fi fy hun a gwneud cysylltiadau newydd.”

“Gallu rhyddhau fy mhlentyn mewnol!”

“Dwi’n anghofio am straen fy modwl”

“Mae’n caniatáu i mi gael hoe rhag pryder a straen. Mae’n ffordd o wella gorffwys.”

“Fel person sydd â gorbryder, roedd hi’n help i mi adael i bethau dynnu fy sylw ac ymlacio. Hefyd, rwy’n credu bod yr ymdeimlad o gymuned yn rhoi endorffinau gan eich bod chi am weld pawb yn llwyddo ac mae ganddo ‘deimlad pawb ynddi gyda’i gilydd’ felly, mae’r gweithdy hwn yn helpu i beidio â theimlo’n unig, ac rydych chi’n ddiogel i rannu ac ymgolli.”

“Mae angen cysylltiad i godi’r emosiynau a’r awyrgylch ac yn y gweithdy hwn roeddwn i’n hoffi nad oes neb ar ei ben ei hun. Mae pawb wedi eu cynnwys. Wrth i ni ddod yn fwy dyfeisgar, rydyn ni’n dod i adnabod ein gilydd yn fwy. Wrth wneud y gweithgareddau hyn rydyn ni’n cyfathrebu ag eraill a allai fod y tu allan i gylchoedd cymdeithasol ac yn gweld gwahanol safbwyntiau sy’n wych. Mae cysylltiad ac adnabod pobl - mae’n golygu llawer.”

Bydd Aimee yn graddio eleni a bydd yn parhau â’i hastudiaethau yn Y Drindod Dewi Sant, gan gofrestru ar y cwrs newydd MA Theatr Gymhwysol: Cymuned, Addysg, Llesiant. Y cwrs ôl-raddedig arloesol hwn yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru, gan gynnig llwyfan i artistiaid newydd ac ymarferwyr sefydledig archwilio effaith gymdeithasol drama a theatr mewn lleoliadau anhraddodiadol.

Dywedodd Ali Franks, Rheolwr y cwrs Theatr Gymhwysol: Cymuned, Addysg, Lles yn Y Drindod Dewi Sant:

“Dyfeisiodd Aimee brosiect hynod unigryw yma, sy’n dangos pŵer theatr gymhwysol i ymgysylltu’n berffaith, gan ein galluogi i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gysylltu a chreu cymuned, ac effeithio ar ein hiechyd meddyliol ac emosiynol.”

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen MA Theatr Gymhwysol, e-bostiwch alison.franks@pcydds.ac.uk neu ewch i Raglen Theatr Gymhwysol PCYDDS.

Wrth i Aimee gychwyn ar ei thaith ôl-raddedig, mae’n bwriadu parhau â’i gweithdai llesiant wythnosol i gefnogi myfyrwyr. Os ydych chi’n fyfyriwr ar Gampws Caerfyrddin ac yr hoffech chi gymryd rhan yn WonderWorld, e-bostiwch alison.franks@pcydds.ac.uk  i gysylltu ag Aimee.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon