Y Drindod Dewi Sant yn cynnal digwyddiad allgymorth llwyddiannus i fyfyrwyr Coleg Castell-nedd Port Talbot
Yn ddiweddar, cynhaliodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ddigwyddiad allgymorth atyniadol yn adeilad IQ ar gampws y Glannau yn Abertawe. Croesawodd y digwyddiad grŵp o 30 o fyfyrwyr Blwyddyn 12 brwdfrydig o Goleg Castell-nedd Port Talbot, gyda’r nod o’u hysbrydoli a’u haddysgu am bynciau hanfodol ym maes Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol.
![a group shot of student taking part in the workshops](/sites/default/files/styles/media_item_uncropped/public/2024-06/1000014204.jpg?itok=HJ4aaCkd)
Prif nod y digwyddiad allgymorth oedd cyflwyno myfyrwyr Coleg Castell-nedd Port Talbot i bynciau peirianneg amgylcheddol ac ynni. Gan adeiladu ar lwyddiant ac adborth cadarnhaol y Diwrnod Gyrfaoedd Adeiladu a Pheirianneg Cynaliadwy blaenorol, nod y digwyddiad hwn oedd cynyddu diddordeb a dealltwriaeth myfyrwyr o’r meysydd hanfodol hyn.
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd ar y cyd gan yr Ysgol Peirianneg a’r Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a’r Amgylchedd, yn cynnwys tri gweithdy ymarferol a gynlluniwyd i roi canfyddiadau ymarferol i’r myfyrwyr a chyfoethogi eu profiad academaidd.
![lecturer showing the students what to do in the workshop](/sites/default/files/styles/media_item_uncropped/public/2024-06/gwefan.jpg?itok=byP5j503)
Roedd y gweithdy cyntaf yn cynnwys Celloedd Solar a Chynhyrchu Hydrogen. Archwiliodd y myfyrwyr y defnydd o gelloedd solar i greu hydrogen ac archwilio sut y gellir defnyddio celloedd tanwydd i gynhyrchu trydan. Nod y gweithdy hwn oedd tynnu sylw at atebion ynni cynaliadwy a dyfodol ynni glân.
Gweithdy ar Olwyn Dŵr Pelton oedd yr ail. Canolbwyntiodd y sesiwn hon ar ddeall y gwaith o gynhyrchu pŵer gan ddefnyddio olwynion dŵr Pelton, gan bwysleisio effaith newidynnau megis pen, cyfradd llif, a chyflymder cylchdro ar gynhyrchu ynni.
Gweithdy Adeiladau sy’n Gwrthsefyll Daeargrynfeydd oedd y trydydd, lle dysgodd myfyrwyr am ddulliau cost-effeithiol ar gyfer adeiladu adeiladau a all wrthsefyll daeargrynfeydd, gan bwysleisio pwysigrwydd peirianneg wrth sicrhau diogelwch a chynaliadwyedd.
Drwy gymryd rhan yn y gweithdai hyn, cyflwynwyd myfyrwyr i feysydd pwnc sy’n rhan annatod o Gystadleuaeth Sgiliau Ysbrydoledig Cymru. Disgwylir i’r cysylltiad hwn wella eu datblygiad a’u paratoi ar gyfer gweithgareddau academaidd a gyrfa yn y dyfodol mewn peirianneg a gwyddorau amgylcheddol.
![students taking part in the workshop](/sites/default/files/styles/media_item_uncropped/public/2024-06/1000014192.jpg?itok=MVbu6X8B)
Meddai Kelvin Lake, uwch ddarlithydd yn Y Drindod Dewi Sant:
“Roedd hi’n braf cynnal digwyddiad cydweithredol a oedd yn cynnwys yr Ysgol Peirianneg a’r Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a’r Amgylchedd. Bu’r myfyrwyr yn archwilio heriau peirianneg cynhyrchu ynni glân ac ystyried yr effaith a gawn ar ein hamgylchedd. Gobeithio bod y myfyrwyr wedi dysgu rhywbeth gwerthfawr a chael hwyl ar y ffordd!”
Mae’r Drindod Dewi Sant yn cynnig cyrsiau cynhwysfawr mewn Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol. Rydym yn gwahodd darpar fyfyrwyr a phartïon sydd â diddordeb i ymuno â ni yn ein diwrnod agored nesaf i ddysgu rhagor am ein rhaglenni a’n cyfleoedd. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch info@pcydds.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476