Skip page header and navigation

Croesawodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant chwe thîm o fyfyrwyr Blwyddyn 12 o ysgolion a cholegau lleol i’w Champws y Glannau yn Abertawe yn ddiweddar i gymryd rhan mewn ystod o heriau cystadleuol. 

The winning team from Bishop Vaughan School and Gower College

Pwrpas y diwrnod oedd dod â myfyrwyr sy’n astudio gwasanaethau cyhoeddus ar hyn o bryd at ei gilydd neu sydd â diddordeb brwd mewn astudio Plismona Proffesiynol, Troseddeg neu’r Gyfraith yn y dyfodol. Roedd hefyd yn gyfle i fyfyrwyr ymweld â champws y Brifysgol i gael dealltwriaeth o beth allai bywyd Prifysgol fod. 

Trefnwyd y diwrnod gan dîm Ehangu Mynediad y Brifysgol gyda chefnogaeth ar gyfer yr heriau gan ddarlithoedd a chynrychiolwyr o Heddlu De Cymru.  Roedd yr ystod o weithgareddau yn cynnwys ystafell ddianc ymgdrochol, tasg stopio a chwilio a gweithgaredd ystafell llys lle cymerodd myfyrwyr rolau gweithwyr proffesiynol mewn lleoliad ystafell llys i ennill pwyntiau i’w tîm. 

Dilynwyd y rhain gan sesiwn Holi ac Ateb a oedd yn caniatáu i fyfyrwyr gwestiynu’r academyddion niferus a oedd yn bresennol am gyrsiau a llwybrau’r dyfodol. Cafwyd ymweliad gan yr Heddlu Marchogol ar ddiwedd y dydd i groesawiad cynnes iawn gan gyfranogwyr a threfnwyr fel ei gilydd.

Myfyrwyr o Ysgol yr Esgob Vaughan a Choleg Gŵyr oedd yn fuddugol ar y diwrnod, a brofodd bod cyfathrebu a chydweithio yn allweddol i lwyddiant!  Cyflwynwyd cwpan yr enillydd iddynt gan Bronwen Williams, Cyfarwyddwr Academaidd yr Academi Golau Glas, a ddywedodd:

Mae’r digwyddiad hwn bellach yn ei ail flwyddyn ac rwy’n falch iawn o weld pa mor frwdfrydig oedd y myfyrwyr ym mhob un o’r tasgau. Mae’r tîm wedi gweithio’n galed i lunio sesiynau rhyngweithiol i’r myfyrwyr gael rhywfaint o fewnwelediad i’r gyfraith, troseddeg a phlismona ac i ddatblygu sgiliau allweddol sy’n ofynnol ar gyfer proffesiynau o’r fath. Llongyfarchiadau i’r tîmau buddugol.”

Dywedodd Steven Thomson, Darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus o Goleg Castell-Nedd Port Talbot:

“Roedd yn ddigwyddiad pleserus dros ben i’r myfyrwyr a llwyddwyd i ddefnyddio’r sgiliau y maent wedi bod yn dysgu amdanynt yn y Gwasanaethau Cyhoeddus mewn digwyddiad trefnus iawn i’r myfyrwyr addysg bellach.”

Dywedodd Erin, myfyriwr o Goleg Castell-Nedd Port Talbot:

“Roedd hi’n ddiwrnod pleserus yn y Brifysgol. Cawsom lwyth o gyffro a phrofiadau bywyd go iawn gydag ystafell y llys a phrofiad ymdrochol.”

Dywedodd Rebecca Mugford, Darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus o Goleg Gŵyr:

 “Roedd y Diwrnod Gwasanaeth Cyhoeddus a Chyfraith yn gyfle gwych i’n dysgwyr.  Roedd y profiadau ymarferol yn dysgu llawer iddynt am yr hyn y gall Y Drindod Dewi Sant ei gynnig a’r elfen gystadleuol yn ei gwneud yn bleserus”. 

Dywedodd Amanda Morgan, Darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus o Goleg Sir Gâr:

“Roedd y diwrnod yn bleserus iawn ac yn brofiad da i’n dysgwyr ddarganfod mwy am rôl ynadon, pwerau stopio chwilio’r heddlu yn ogystal â chael y cyfle i drochi eu hunain yn y cyfleusterau sydd gan y brifysgol i’w cynnig pe baent yn penderfynu symud ymlaen i addysg uwch”.

Dywedodd Owen sy’n fyfyriwr yng Ngholeg Sir Gâr: “Roedd yn dda gweld arddangosiadau gan swyddogion yr heddlu ac mae pawb yn gyfeillgar yn y Brifysgol”. 

Dywedodd Carl Walker, pennaeth cynorthwyol Ysgol Bishop Vaughan:

“Roedd ein myfyrwyr yn gweld y diwrnod yn addysgiadol iawn.  Fe wnaethon nhw fwynhau’r profiad trochi a chael cipolwg gwerthfawr ar waith yr heddlu a’r system gyfreithiol”. 

Dywedodd Nia ac Eva, myfyrwyr Ysgol Bishop Vaughan:

“Mae gan y ddwy ohonom ddiddordeb mewn gwasanaethau cyhoeddus ac mae’r profiad hwn wedi rhoi gwybodaeth i ni a’n helpu i lunio ein dyfodol”. 

Oriel

Student inside the immersive room for the Public Services Challenge day
Naw person ifanc sy'n gwenu mewn crysau-t oren yn sefyll o flaen baner PCYDDS ar gyfer llun grŵp.
Ystafell yn llawn o bobl ifanc yn eistedd o gwmpas byrddau; mae bagiau anrhegion pinc amrywiol PCYDDS yn gorffwys ar y byrddau; mae menyw yn mynd i mewn i'r ystafell.
Deg yn gwenu pobl ifanc mewn crysau-t glas yn gwisgo medalau ar rubanau glas; mae tri o'r bechgyn yn cipio'r medalau rhwng eu dannedd.
Mae wyth bachgen yn eu harddegau, rhai yn gwenu, yn sefyll am lun grŵp.
Wyth o fechgyn yn eu harddegau mewn crysau-t gwyrdd yn sefyll i gael tynnu llun grŵp, mae pob un yn gwisgo medal ar ruban las.
Mae grŵp o wyth o bobl ifanc, rhai mewn crysau-t melyn, yn sefyll am lun grŵp.
Mae dynes yn tynnu llun heddwas ar geffyl gyda’i chamera.
Plismon ar gefn ceffyl castan gyda seren wen, mwng tywyll, a brycheuyn du ar ei drwyn.

Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon