Y Drindod Dewi Sant yn dathlu graddedigion Birmingham
Mae seremonïau graddio campws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn Birmingham yn cael eu cynnal yn Ystafelloedd Eastside yn Birmingham heddi.
![Students celebrating Birmingham Graduation](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2024-06/UWTSD_Birmingham_Graduation.jpg?h=2d235432&itok=3PtTA0w0)
Mae’r seremonïau’n gyfle i ddathlu llwyddiant ac ymrwymiad myfyrwyr, ac i alluogi cymuned y Brifysgol i gydnabod eu cyflawniadau.
Wrth annerch y graddedigon, dywedodd yr Athro Elwen Evans, CB, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Mae’r seremonïau graddio yn nodi penllanw cyfnod yng ngyrfa academaidd ein myfyrwyr. I lawer o’n myfyrwyr, mae ennill cymhwyster addysg uwch yn rhoi mynediad i’r cam nesaf ac mae llawer yn mynd ymlaen i ennill gwobrau meistr a doethuriaeth gyda ni.
“Heddiw, rydym yn dathlu gwaith caled ac ymrwymiad ein myfyrwyr, ond dylem hefyd gofio’r gefnogaeth a roddwyd gan eu teuluoedd a’u ffrindiau”.
Wrth annerch y graddedigion, dywedodd: “Rydych chi i gyd yn graddio gyda’r sgiliau a’r priodoleddau sydd eu hangen arnoch i wneud gwahaniaeth yn eich dewis yrfa.
“Wrth i chi edrych yn ôl ar eich cyfnod fel myfyriwr yn y Brifysgol, hyderaf eich bod yn mynd â llawer o ffrindiau ac atgofion hapus o’ch amser yma gyda chi, ac y bydd eich profiadau yn Y Drindod Dewi Sant yn eich gwasanaethu’n dda trwy gydol eich oes.
“Rwy’n dymuno pob llwyddiant i chi ar gyfer eich dyfodol ac yn eich atgoffa, fel cyn-fyfyrwyr y Brifysgol hon, y byddwn yn ymdrechu i’ch cefnogi ac yn gobeithio y byddwch yn parhau i gadw mewn cysylltiad â ni.”
Gyda dau gampws – wedi’u lleoli ar Ffordd Stratford yng nghymdogaeth fywiog Sparkhill, ac yng ardal camlas fywiog canol y ddinas – mae PCYDDS Birmingham yn cynnig cyfleoedd i bobl o bob cefndir gael mynediad i Addysg Uwch.
Ynglŷn â’r Drindod Dewi Sant Birmingham:
Agorodd Campws Sparkhill ym mis Mawrth 2018 a Champws Quay Place ym mis Ionawr 2020, gan gyfuno i ffurfio campws ffyniannus lle gall myfyrwyr ddysgu sgiliau newydd ar gyfer y gweithle, datblygu sgiliau presennol, magu hyder, a chwrdd ag eraill sydd â nodau tebyg. Mae’n amgylchedd cyfeillgar a bywiog sy’n cynorthwyo myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant i ddatblygu eu potensial i’r eithaf.
Am fwy o wybodaeth am gampws Birmingham neu i drafod y rhaglenni, e-bostiwch birminghamadmissions@uwtsd.ac.uk neu ffoniwch 0121 229 3000.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07968 249335