Skip page header and navigation

Mae Canolfan Sophia ar gyfer Astudio Cosmoleg mewn Diwylliant y Brifysgol yn dod at ei gilydd ar gyfer ei hunfed gynhadledd ar hugain yn lleoliad godidog Llyfrgell y Sylfaenwyr Llambed ar 13-14 Gorffennaf. Dros y ddau ddegawd ddiwethaf mae’r Ganolfan wedi gosod bar uchel ar gyfer archwilio i astroleg, seryddiaeth a chosmoleg yn nodwedd o ddiwylliant, y gorffennol a’r presennol.

Two images of UWTSD's Lampeter campus and image of lake and colourful skies, stars and planets

Eleni, bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal ar y campws ac ar-lein, gyda chynadleddwyr yn ymuno o bob cwr o’r byd.

Meddai’r Athro Cysylltiol Nicholas Campion, Cyfarwyddwr Canolfan Sophia: 

“Mae gwaith y Ganolfan yn rhan fawr o waith nodweddiadol PCYDDS yn y Dyniaethau, gan addysgu’r rhaglen MA enwog mewn Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg. Ni yw’r unig ganolfan academaidd yn y byd sy’n ymchwilio ymgysylltiad dynol gyda’r awyr a’r bydysawd. A hithau’n ein hunfed gynhadledd ar hugain eleni, mae ein gwaith yn y Brifysgol yn cyrraedd ei phrifiant.”

Eleni, teitl y gynhadledd yw ‘As Above, So Below’, ac mae’n archwilio’r gwahanol ffyrdd mae bodau dynol wedi cymhwyso eu safbwyntiau am y sêr i’w credoau a’u harferion. Trefnir y gynhadledd mewn partneriaeth â’n cangen cyhoeddi academaidd, Gwasg Canolfan Sophia.

Ymhlith ein siaradwyr gwadd nodedig mae Dr Ulla Koch o Brifysgol Copenhagen, un o brif arbenigwyr y byd ar seryddiaeth a dewiniaeth Babylonaidd ac Asyriaidd, Dr Luis Robeiro o Brifysgol Lisbon, ar ‘A Science of Correlations: connecting the celestial and the earthly’, a Dr Graeme Tobyn o Brifysgol Central Lancashire, a fydd yn siarad am y llysieuydd enwog o’r 17eg ganrif, Nicholas Culpeper. Mae’n bleser gennym hefyd groesawu Dr Fabio Silva unwaith eto, cyn aelod o staff PCYDDS, o Brifysgol Bournemouth, un o awdurdodau pennaf y wlad ar Gôr y Cewri a seryddiaeth hynafol Prydain.

Meddai trefnydd y Gynhadledd, Dr Frances Clynes,

“Mae ein cynhadledd flynyddol yn cynnig cyfle i bobl o bobman ddod a gwerthfawrogi awyrgylch hudol campws Llambed. Rydym yn falch fod y rhaglen eleni’n cynnwys ymwelwyr nodedig o Brifysgolion eraill, ac yn cynnig cyfle i arddangos peth o’r gwaith gorau a wnaed gan ein graddedigion diweddar. Mae’r gynhadledd yn addo bod yn ddigwyddiad bythgofiadwy.”

I gael gwybodaeth am y gynhadledd: Dr Frances Clynes, f.clynes@uwtsd.ac.uk

I astudio gyda ni: Dr Nicholas Campion, n.campion@uwtsd.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau