Skip page header and navigation

Bydd partneriaeth strategol newydd rhwng Academi Chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac Academi Chwaraeon Coleg Sir Gâr yn darparu llwybr i fyfyrwyr i gyfuno eu dyheadau academaidd a chwaraeon drwy Addysg Bellach ac Addysg Uwch.  

Myfyrwyr a staff yn sefyll yn dal cit chwaraeon y tu allan i’r Hen Adeilad, Caerfyrddin.

Mae’r Drindod Dewi Sant wedi arwain ar ddatblygu strwythur prifysgol sector deuluol, o’r enw Grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, fframwaith i alluogi cydweithio gyda sefydliadau eraill yn y rhanbarth. Yn rhan o’r datblygiad hwn, mae Coleg Sir Gâr a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant eisoes wedi cydweithio ar benderfyniadau academaidd allweddol ers bron i ddegawd ac mae’r bartneriaeth hon yn cryfhau’r berthynas ymhellach.

Mae’r dysgwr yn ganolog i Grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac mae ein hymrwymiad i ddarparu profiad dysgu rhagorol wrth galon ein gweithgareddau. Nod y ddwy Academi Chwaraeon yw cefnogi myfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon perfformiad uchel tra maent yn astudio. Mae hyfforddiant ar lefel broffesiynol ac ymarfer cryfder a chyflyru ar gael i’r myfyrwyr, ynghyd â chyngor ar faeth, deiet a ffordd o fyw.

Mae mynediad i’n cyfleusterau chwaraeon ar draws sefydliadau, cyfleoedd i gymryd rhan yng Nghystadlaethau Chwaraeon Colegau Cymru a Cholegau Prydain ar lefel Addysg Bellach, a chynghreiriau, digwyddiadau a phencampwriaethau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) ar lefel Addysg Uwch, yn darparu’r amgylchedd i fyfyrwyr gystadlu ar y lefel uchaf.

Meddai Lee Tregoning, Pennaeth Academi Chwaraeon y Drindod Dewi Sant:

“Rydym yn gwella’r cysylltiadau rhwng addysg bellach ac addysg uwch i greu’r llwybr unigryw hwn ar gyfer rhagoriaeth academaidd a chwaraeon perfformiad uchel a fydd o fudd i’n dysgwyr. Croesawn y cyfleoedd mae hyn yn eu creu i sicrhau gwell aliniad rhwng y ddwy academi chwaraeon. Ein nod yw datblygu a gwella ein partneriaeth a chynyddu’r cyfleoedd addysg bellach, addysg uwch a dilyniant i ddysgwyr yn y byd academaidd a chwaraeon.”

Meddai Euros Evans, Pennaeth Academi Chwaraeon Coleg Sir Gâr:

“Mae’r cyfle ar gael nawr i fyfyrwyr barhau â’u taith haddysg a chwaraeon drwy deulu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.  Mae’r gwasanaethau a ddarperir gan y ddwy Academi yn darparu llwybr 5 mlynedd i fyfyrwyr nodweddiadol lle gallant hyfforddi a chwarae ar y lefel uchaf mewn Chwaraeon Colegau a Phrifysgolion gan hefyd gyflawni eu nodau academaidd.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau