Skip page header and navigation

Dros benwythnos ym mis Mai, ymgasglodd grŵp o gyn-fyfyrwyr Americanaidd yn Charleston, De Carolina, i ddathlu 42 mlynedd ers eu semester trawsnewidiol yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.

Criw o bobl yn sefyll gyda baner Cymru
Y criw o ffrindiau Americanaidd yn dathlu 42 mlynedd ers eu cyfnod gyda'i gilydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin

Daeth y cyn-fyfyrwyr cyfnewid hyn at ei gilydd o bob cwr o’r Unol Daleithiau i hel atgofion am y profiad y gwnaethant ei rannu yng Nghymru yn ystod 1982 fel rhan o raglen Central College yng Nghymru.  Er iddyn nhw ddod o wahanol golegau ar draws America a threulio cyfnod byr yn unig gyda’i gilydd yng Nghaerfyrddin, mae’n amlwg bod y cwlwm perthynas a ffurfiwyd yng Ngholeg y Drindod wedi sefyll prawf amser.

Gwnaeth yr aduniad eleni ddenu mynychwyr o wladwriaethau mor bell i ffwrdd â Colorado, Oregon, Texas, Iowa, Georgia, Florida a New Jersey, gan gydgyfarfod yng nghartref Steve Gulick yn Ne Carolina.  

Fel y gwesteiwr eleni, roedd Steve yn falch o wahodd hen ffrindiau i fwynhau ei hoff swfenîr o Gaerfyrddin, sydd bellach yn cael ei arddangos â balchder yn y clos y tu allan i’w gartref – arwydd tafarn Y Ceffyl Du, un o hoff lefydd y grŵp i gymdeithasu ger y campws. 

Ar ôl taith deuluol i’r DU yn 2018-2019, a ddaeth i ben yng Nghaerfyrddin, sylwodd Steve fod Y Ceffyl Du ar Heol Dŵr ar werth. Roedd hwn yn gyfle i fynd â darn o Gaerfyrddin yn ôl gydag ef i Charleston, ac ar ôl ffeindio’r perchnogion, prynodd Steve arwydd y dafarn.

Dau ddyn yn sefyll o dan arwydd tafarn yn hongian o'r tŷ gyda baner. Mae'r arwydd yn dweud 'Y Ceffyl Du'
Steve Gulick yn arddangos arwydd tafarn 'Y Ceffyl Du' a brynodd yng Nghaerfyrddin

Meddai Steve: 

“Fe gymerodd hi chwe mis i’w gludo i’r Unol Daleithiau ond mae wedi bod yn fy meddiant ers hynny, yn hongian yn y clos - darn o gelf yn fy marn bach i! 

“Roedd yr amser a dreuliwyd yng Nghymru yn gyfnod arwyddocaol i ni i gyd. Fe wnaeth y daith a’r bobl wnes i gyfarfod newid fy mywyd am byth er gwell. Bydd gan Gaerfyrddin a fy nghyd-fyfyrwyr le arbennig yn fy nghalon wastad, ynghyd ag arwydd y dafarn!”

I Paul Richardson, roedd y flwyddyn yng Nghymru hefyd yn foment dyngedfennol yn ei fywyd ac yn annisgwyl fe wnaeth bennu cyfeiriad ei broffesiwn yn y dyfodol. 

Meddai Paul : 

“Cymerais y cwrs blwyddyn Astudiaethau Sofietaidd gyda’r athro, Malcolm Gilbert, a gychwynnodd fi ar lwybr ym maes astudiaethau Rwsiaidd yn yr ysgol raddedigion a’r ugain mlynedd nesaf. Roedd yn daith anhygoel, ac arhosais mewn cysylltiad â Malcolm dros y blynyddoedd a hyd yn oed ymweld ag ef yn gynnar yn 2020.” 

Gofynnodd teulu ei hen athro i Paul ddarllen cerdd Rwseg yn ei wasanaeth coffa ar-lein ar ôl fu farw ar ddiwedd 2020, sy’n dangos y cysylltiadau dwfn a ffurfiwyd nid yn unig ymhlith cyfoedion ond hefyd gyda staff addysgu.

Fe wnaeth Brad Depke, un arall oedd yn bresennol, ddwyn i gof y profiadau amrywiol a wnaeth helpu’r grŵp i glosio at ei gilydd. Dywedodd: “Un o uchafbwyntiau fy nghyfnod yng Nghymru oedd cymryd rhan mewn Gweithgareddau Awyr Agored - roedd dysgu sut i gaiacio a dringo creigiau yn hwyl, a gwnaeth y teithiau helpu’r grŵp i ffurfio perthynas agos. 

“Roedd gan gampws Caerfyrddin a’r Drindod deimlad arbennig; doeddech chi byth yn teimlo ar eich pen eich hun a wastad yn teimlo mewn lle hapus. Bydd fy atgofion o’r Drindod - y staff, athrawon, myfyrwyr, a’r holl brofiadau – wastad yn rhai o’m goreuon.”

Criw o bobl yn eistedd wrth fwrdd

Roedd yr aduniad yn llawn chwerthin, straeon ac eiliadau twymgalon gan arddangos y cysylltiadau parhaol a ffurfiwyd dros bedwar degawd yn ôl.  

Fel y crynhodd Brad Depke, “Pan fyddwch yn gofyn beth sydd wedi ein cadw ni mewn cysylltiad â’n gilydd, yr atgofion yw hynny. Gofynnodd fy ngwraig i mi, ‘Brad, wyt ti wir yn hoffi’r bobl hyn i gyd?’, a wnes i ddim meddwl dwywaith cyn ateb ‘Pob un ohonyn nhw.’”

Ar arwyddocâd y profiadau hyn o astudio dramor i fyfyrwyr y gorffennol, y presennol a’r dyfodol, dywedodd Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol Academi Fyd-eang Cymru Y Drindod Dewi Sant:  

“Rwyf mor falch bod yr aduniadau astudio dramor yn dal i gael eu cynnal. Fel y tystia’r grŵp hwn o ffrindiau, mae’r cysylltiadau a wneir yn ystod y profiadau hyn yn siapio bywydau. Dechreuodd y rhaglen yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ym 1976 ac rwy’n falch o ddweud ei bod yn parhau i ffynnu heddiw.  

“Trwy Taith, rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n galluogi dysgwyr i dreulio amser dramor fel rhan o’u hastudiaethau, gallwn anfon ein myfyrwyr o Gymru i Ogledd America a gwledydd eraill ledled y byd ar gyfer y profiadau addysgol trawsnewidiol hyn.” 

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn falch o weld effaith barhaol y rhaglen astudio dramor a’r cyfeillgarwch gydol oes sydd wedi deillio ohoni. Edrychwn ymlaen at ddathlu llawer mwy o aduniadau gyda’n cyn-fyfyrwyr yr ydym yn eu trysori, a darparu profiadau tramor trawsnewidiol hyn i’n myfyrwyr cyfredol a’r dyfodol. 

Darganfyddwch eich antur fyd-eang gyda’r Drindod Dewi Sant:

Am wybodaeth ar Raglenni Cyfnewid, Astudio Dramor, neu Raglenni Haf, ewch i: Myfyrwyr cyfnewid a myfyrwyr ar ymweliad | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

A darganfyddwch fwy am y cyfleoedd byd-eang anhygoel sydd ar gael i fyfyrwyr ar: Astudio Dramor a Chyfnewid | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon