Skip page header and navigation

Mae Carwyn Graves, aelod o staff Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi lansio ei lyfr newydd ‘Tir: The Story of the Welsh Landscape’ ar gampws Llambed yr wythnos hon. 

Cover of Carwyn's book 'Tir'

Mae’r llyfr yn ddilyniant o’i gyfrol llwyddiannus ddiwethaf ‘Welsh Food Stories’, lle mae’n cymryd cam yn ôl o ganolbwyntio ar hanes bwyd i edrych ar hanes y tir wnaeth gynhyrchu’r bwyd. Er hyn, mae yna gysylltiad cryf gydag afalau gan fod yna bennod cyfan ar hanes perllannau yn nhirwedd Cymru yn y llyfr.

Wrth lansio’r llyfr, dywedodd Carwyn:

“Mae’n deimlad braf iawn ar ol tair blynedd o waith. Roedd hi’n amlwg wrth ddechrau ysgrifennu bod maes amaeth a bywyd gwyllt yn un dadleuol ac o bwys cynyddol – ac erbyn i’r llyfr ddod allan roedd ffermwyr yn protestio ar risiau’r Senedd. Mae hynny’n dangos pwysigrwydd deall ein tirwedd ni, a’r rôl mae amaeth a natur wedi eu chwarae yn ei siapio.”

Yn y gyfrol ‘Tir: The Story of the Welsh Landscape’ mae’r awdur a naturiaethwr yma felly yn mynd â ni ar daith o amgylch saith elfen allweddol o dirwedd Cymru, fel y ffridd, y  rhos a’r cloddiau. Trwy blymio’n ddwfn i hanes ac ecoleg pob un o’r tirweddau hyn, mae’r llyfr yn dangos fod tirlun Cymru, yn ei holl amrywiaeth hardd, lawn cymaint o greadigaeth ddiwylliannol ddynol â ffenomen naturiol: esblygodd ei deunyddiau crai ochr yn ochr â’r bodau dynol sydd wedi byw yma ers i’r iâ gilio.

Byrdwn y llyfr yw mai hanes  ynghylch pobl a natur yn datblygu ochr-yn-ochr yw hanes tirwedd Cymru hyd ganol yr 20fed ganrif, a bod y newidiadau mawr sydd wedi dod ers hynny wedi bod yn amlwg yn niweidiol i bobl yng nghefn gwlad ac hefyd i fywyd gwyllt. Mae yna wersi felly am gynhyrchu bwyd ochr-yn-ochr a natur yn ffynnu y gallwn eu dysgu o’n hanes.

Ceisio rhoi darlun ehangach i’r darllenwyr yw ymgais y llyfr. Mae Carwyn wedi mwynhau tynnu ar arbenigedd cynifer o bobl – o amaethwyr traddodiadol, i haneswyr y dirwedd (gan gynnwys yr Athro David Austin, Llambed gynt), ecolegwyr a beirdd, gan sylwi ar y gorgyffwrdd sy’n perthyn rhwng y meysydd hyn. 

Gwilym Dyfri Jones, Carwyn Graves and Gillian Clarke in a line up after the launch

Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Profost campysau PCYDDS Caerfyrddin a Llambed:

“Roedd y Brifysgol yn falch o gynnal y lansiad mewn cydweithrediad â Calon, Gwasg Prifysgol Cymru. Cafodd y gynulleidfa luosog ei chyfareddu gan wybodaeth eang Carwyn a’i ddull hamddenol a chwbl ddiymhongar o gyfathrebu agweddau ohoni trwy air a llun. Bydd cryn edrych ymlaen yn awr i ddarllen y gyfrol a mwynhau’r cynnwys cyfoethog o fewn ei chloriau.”    

Ynglŷn â’r Awdur:

Mae Carwyn Graves yn awdur, siaradwr cyhoeddus, garddwr a naturiaethwr o Gymro  Mae ei gyhoeddiadau blaenorol yn cynnwys  Afalau Cymru (Gwasg Carreg Gwalch, 2018) a Welsh Food Stories (Calon, 2022), a disgrifiwyd yr olaf gan Sheila Dillon o The Food Programme ar BBC Radio 4 fel ‘un o lyfrau bwyd gorau 2022’.

Mae ‘Tir: The Story of the Welsh Landscape’ wedi’i gyhoeddi gan Calon, ac mae ar gael mewn siopau llyfrau a gan werthwyr ar-lein 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau