Skip page header and navigation

Bydd Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnal symposiwm ar thema Cyd-greu Dyfodol Technoleg Iechyd ddydd Mercher, Hydref 25.

Graffig yn hysbysebu Catalyse 2023 gyda logos y sefydliadau sy’n cymryd rhan: ATIC, PCYDDS, TriTech, GIG Cymru.

Cynhelir digwyddiad CATALYSE 2023 mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’i Sefydliad TriTech ynghyd â llu o siaradwyr gwadd. Mae’r symposiwm yn ddi-dâl ac fe’i cynhelir rhwng 9am a 5pm yng Nghanolfan Dylan Thomas Abertawe a chaiff hefyd ei ffrydio’n fyw.

Dr Rob Orford, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol dros Iechyd (CSA-H) i Lywodraeth Cymru fydd yn rhoi’r prif anerchiad, yn dilyn croeso gan yr Athro Elwen Evans KC, Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant, a’r Athro Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol a Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Bydd pedair sesiwn thematig yn cynnwys cyflwyniadau ar Gyd-Greu a Phartneriaethau; Technoleg Ymdrochol; Technoleg Feddygol; a Thechnoleg Ddigidol a Data Mawr, gyda siaradwyr gwadd o sectorau iechyd ac addysg uwch Cymru, a busnesau yn y DU ac yn rhyngwladol gan gynnwys Bloom Standard Inc, UDA and Cyberdyne Inc, Japan.

Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW), y sefydliad cenedlaethol sy’n adeiladu ac sy’n dylunio gwasanaethau digidol ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru, yn archwilio her hacathon data yn rhan o raglen y symposiwm, yn ystod y sesiwn Technoleg Ddigidol a Data Mawr.

Bydd DHCW yn cynnal y digwyddiad hacathon yn y dyfodol agos, lle caiff timau eu herio i fynd i’r afael â phroblemau penodol a darparu canfyddiadau newydd ym maes gofal iechyd, ar sail data a gesglir yn rheolaidd gan y GIG.

Y gobaith yw y caiff awgrymiadau ar gyfer heriau hacathon eu cyflwyno ac wedyn eu trafod yn y symposiwm, ac uchelgais DHCW yw dod ag arbenigwyr gwybodaeth ac ymchwilwyr at ei gilydd gyda llunwyr penderfyniadau allweddol oddi mewn i GIG Cymru.

Mae Ecosystem Iechyd Digidol (DHEW), sef cydweithrediad rhwng Hyb Gwyddorau Byw Cymru ac Iechyd a Gofal Cymru, yn dod â diwydiant, clinigwyr, llunwyr polisi, academyddion, arloeswyr ac arianwyr at ei gilydd i greu amgylchedd o arloesi digidol yng ngofal iechyd Cymru.

Mewn sesiwn benodol ynghylch Technoleg Ymdrochol, bydd tîm DHEW yn tynnu sylw at fenter newydd i sefydlu grŵp buddiannau arbennig Cymru gyfan yn y maes hwn.

Meddai’r Athro Elwen Evans, KC, Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant: “Rydym yn falch dros ben o bartneru gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Sefydliad TriTech ar gyfer y symposiwm cyffrous hwn, a chroesawu Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac Ecosystem Iechyd Digidol Cymru i arwain dwy o’r sesiynau, sy’n cryfhau ein cysylltiadau cydweithredol.

“Mae’n gyfle ardderchog i arddangos sut gall y cydweithredu rhwng academia, GIG Cymru, a diwydiant ddarparu manteision go iawn a gwell canlyniadau i gleifion, yn ogystal â hyrwyddo twf economaidd.

“Mae’r dull cydweithredol a chymhwysol hwn yn ganolog i strategaeth ymchwil ac arloesi’r Brifysgol, ac mae’n tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae prifysgolion yn ei chwarae wrth yrru arloesi yng Nghymru a’r tu hwnt, gan sicrhau ein llewyrch yn y dyfodol.”

Meddai’r Athro Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol a Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae ein partneriaeth â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn mynd o nerth i nerth.

“Efallai mai Symposiwm CATALYSE a’n hymdrechion cydweithredol mewn perthynas â’r Sefydliad TriTech yw’r enghreifftiau gorau o’r hyn y gellir ei gyflawni, pan fydd y GIG, prifysgolion a diwydiant yn cydweithio i wella gofal iechyd a chanlyniadau cleifion.

“Yr unig ffordd y gallwn ni fynd i’r afael â’r heriau iechyd sydd ger ein bron ni fel cenedl yw cofleidio arloesedd technegol a chymdeithasol. Mae CATALYSE 2023 yn gyfle perffaith i wneud hynny.”

Meddai’r Athro Chris Hopkins, Pennaeth Arloesi a Sefydliad TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Chyfarwyddwr Clinigol ATiC, Y Drindod Dewi Sant: “Mae’r trydydd symposiwm hwn yn rhoi enghreifftiau o sut y gall byrddau iechyd, gofal iechyd, academia, a diwydiant weithio mewn partneriaeth i ddatblygu a gwerthuso technolegau arloesol, i ddeall a ellid darparu gwell diogelwch, effeithiolrwydd, a gwell canlyniadau i gleifion ar raddfa fawr.

“Rydyn ni’n falch dros ben o weithio gyda’r holl bartneriaid, gan rannu, a dysgu sut y gallwn ni ychwanegu gwerth gyda’n gilydd at ein cymunedau ledled Cymru.”

Meddai Dr Sean Jenkins, Athro Cysylltiol a Chyfarwyddwr Ymchwil ATiC, Y Drindod Dewi Sant: “Mae trydydd symposiwm ATiC yn adeiladu ar lwyddiant ein digwyddiad cychwynnol yn 2019 a symposiwm 2022, a oedd yn adlewyrchu effaith ac etifeddiaeth rhaglen Accelerate Cymru, yr oedd ATiC yn bartner ynddo rhwng 2018 a 2022.

“Bydd y digwyddiad CATALYSE newydd, yr ydym yn ei ragweld yn dod yn gynhadledd gydweithredol flynyddol, yn croesawu siaradwyr a chynadleddwyr ar draws Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd, busnes, ac academia.

“Mae’n argoeli bod yn ddigwyddiad cyffrous, fydd yn arddangos enghreifftiau o gydweithredu diweddar a chyfredol, a chyfleoedd symbylol ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol i gyd-greu dyfodol technoleg iechyd.”

Nodyn i’r Golygydd

  • Mae ATiC, Y Drindod Dewi Sant, yn bartner academaidd balch i Sefydliad TriTech, sef menter gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gan gynnig gwasanaethau penodol ym maes atebion gofal iechyd arloesol. 
  • Roedd ATiC yn bartner yn rhaglen Accelerate Cymru o 2018-2022, a ariannwyd ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), grŵp Gwasanaethau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, prifysgolion, Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru (arweinydd rhaglen), a’r byrddau iechyd. Nod Accelerate Cymru yn y pen draw oedd creu gwerth economaidd parhaol i Gymru.

Gwybodaeth Bellach

Bethan Evans

Swyddog Marchnata a Chyfathrebu      
Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC)      
E-bost: bethans.evans@pcydds.ac.uk     

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau