Skip page header and navigation

Bob blwyddyn ym mhrifddinas Seland Newydd, Wellington, mae meysydd ffasiwn a chelf yn dod at ei gilydd. Mae sioe epig yn cyrraedd y brifddinas am dair wythnos, gan gyfareddu’r ddinas a denu cynulleidfaoedd o hyd at 60,000 o bobl bob blwyddyn. Yma y canfu Agnes Olah, myfyrwraig ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ei hun pan enillodd ei dyluniad hi wobr fyd-eang fawreddog.

Model yn gwisgo ‘Islaw’ wrth sefyll o dan sbotolau gwan yn erbyn cefndir myglyd o ddu ac aur.

Mae’r World of Wearable Art (WoW) yn gystadleuaeth dylunio ffasiwn flynyddol, sy’n agored i bobl o bob cenedl, gydag ychydig iawn o reolau: rhaid i’r wisg a grëir fod yn wisgadwy, a rhaid iddi ymateb i un o’r chwe thema a ddewiswyd ar gyfer y sioe. Y tu allan i hynny, mae unrhyw beth yn dderbyniol. Mae symlrwydd o’r fath yn caniatáu amrywiaeth eang o ddeongliadau a chyflwyniadau, gyda’r dyluniadau buddugol yn cael eu cynnwys mewn cyfuniad o sioe ffasiwn a sioe theatrig  sy’n rhedeg am 3 wythnos yn y brifddinas, gan ddarparu gwledd i’r llygaid i filoedd o fynychwyr.

Cipiodd Agnes (Agi) y ‘Wobr Arloesedd Myfyrwyr’ gyda’i dyluniad buddugol, o’r enw ‘Beneath’, a wisgwyd ar y llwyfan fel rhan o’r sioe. Gan seilio’i gwaith ar gysyniadau cyferbyniol dillad isaf clasurol ac arfwisg, ei nod oedd cyfleu pa mor aml mae pobl yn cael eu gweld mewn ffordd benodol, ond y gall golwg rhywun fod yn dwyllodrus. Gwahoddodd bobl i gwestiynu’r syniad o ganfyddiad.

Mae’r darn yn fwriadol yn defnyddio pinc golau i ddynodi ffeministiaeth ac mae wedi’i wneud o ddeunydd wedi’i ailgylchu a stoc nas defnyddiwyd o’r diwydiant ffasiwn megis cysylltwyr bachyn a llygad, clipiau sysbendar ac elastig oedd ar ei ffordd i safle tirlenwi, i roi elfen gynaliadwy iddo. Mae Agi ar hyn o bryd yn astudio BA (Anrh) Dylunio Graffig yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac mae ganddi radd flaenorol mewn Ffasiwn, felly fe gyfunodd ei sgiliau o’r ddau faes i greu cyflwyniad cryf ar gyfer y gystadleuaeth.

Bu’n bosibl i Agi gasglu ei gwobr Arloesedd Myfyrwyr a mynychu noson agoriadol y sioe yn bersonol oherwydd yr arian a dderbyniodd gan y Drindod Dewi Sant drwy’r cynllun Taith, sy’n helpu myfyrwyr gyda chostau gweithio, astudio neu wirfoddoli dramor. Helpodd yr arian i gael Agi i Seland Newydd lle treuliodd 8 noson a chafodd y cyfle i rwydweithio gyda rhai o ddylunwyr ffasiwn gorau’r byd, sydd wedi creu gwisgoedd ar gyfer Madonna, Lady Gaga a Beyonce i enwi ond rhai.

Gwnaeth Prif Weinidog Seland Newydd, Jacinda Ardern, ymddangosiad annisgwyl yn modelu un o’r gwisgoedd yn y categori Aotearoa, a disgrifiodd Agi y profiad o fod yno i weld hyn a bod yn rhan o’r sioe y noson honno fel un ‘cwbl wefreiddiol’, gan ddweud bod y dorf yn y stadiwm lawn yn ‘byrlymu o gyffro’.  

Jacinda Ardern mewn gwisg Aotearoa yn cynnwys dilledyn uchaf tebyg i bonsio â phrint, crib gwallt tebyg i lafn, a bwyell gam las addurnol.

O blith y degau o filoedd o geisiadau, roedd Agi yn y 2% uchaf, y cafodd eu dyluniadau eu cynnwys yn y sioe. Pan ofynnwyd iddi sut roedd ei hastudiaethau wedi helpu i siapio’i gwaith, meddai: “Ar ôl Covid-19 roeddwn i angen teimlo’n greadigol eto, felly penderfynais astudio am BA ychwanegol mewn dylunio graffig yn y Drindod Dewi Sant. Mae’r cwrs yn annog prosesau dylunio trosglwyddadwy, ystyrlon sydd wir wedi dylanwadu ar fy ngwaith yn y diwydiant creadigol.

“Rwy wrth fy modd fod y Brifysgol wedi gallu fy nghefnogi i fod yn bresennol yn y World of Wearable Art, a oedd yn brofiad gwych a greodd gyfleoedd i mi gwrdd â dylunwyr eraill sy’n fy ysbrydoli.”

Meddai Donna Williams, Rheolwr y Rhaglen Dylunio Graffig yn y Drindod Dewi Sant: “Mae Agi wedi manteisio ar bob cyfle y gall Coleg Celf Abertawe ei gynnig. Mae wastad yn mynd i’r afael â phob prosiect gyda dyfnder gwybodaeth a’r nod o sicrhau deilliannau ystyrlon, ac mae’n bleser pur ei chael ar ein rhaglen.

“Gan gyfuno ffasiwn a sgiliau dylunio graffig, mae wedi creu darn arloesol a dymunol o gelf wisgadwy sydd yn enghraifft berffaith o sgiliau trosglwyddadwy. Rydym mor falch fod y brifysgol wedi gallu ei chynorthwyo i gymryd rhan yn Seland Newydd a chynnig y cyfle anhygoel hwn i Agi.”

Meddai Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol yn Academi Fyd-eang Cymru yn y Drindod Dewi Sant, a helpodd i gydlynu’r arian Taith a ddyfarnwyd i Agnes: “Agi oedd y fyfyrwraig gyntaf i gael ei chefnogi gan y cynllun Taith yn y Drindod Dewi Sant. Roeddem wrth ein bodd i gynnig y cyfle iddi gasglu ei gwobr fawreddog yn bersonol, ac rydym yn falch iawn o’i llwyddiant. Un o nodau rhaglen Taith yw arddangos Cymru i’r byd; mae Agi yn llysgennad gwych dros y Drindod Dewi Sant, rhaglen Taith a Chymru.”

Wedi’i sefydlu yn 1853, mae Coleg Celf Abertawe ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brif ddarparwr cyrsiau sy’n gysylltiedig â’r Celfyddydau, gan ddod yn 1af yng Nghymru mewn pedwar pwnc Celfyddydol ac yn y 10 uchaf ymhlith prifysgolion y DU o ran Dylunio Graffig.

Agi Olah wrth ymyl model sy’n gwisgo’i dyluniad buddugol – Beneath - ar gyfer cystadleuaeth Wearable Art.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau