Skip page header and navigation

Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnal cynhadledd academaidd ‘Residuum’ rhwng 17 a 21 Gorffennaf yng Nghanolfan Ddylunio Alex yn Abertawe. Mae’r gynhadledd eleni, a drefnir gan y rhaglen Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio yn Abertawe, yn argoeli i fod yn ddigwyddiad diddorol sy’n ysgogi’r meddwl, gan ddod ag ysgolheigion, ac ymarferwyr celf a dylunio at ei gilydd o bob rhan o’r byd.

Y tu allan i ganolfan Ddylunio Alex PCYDDS yn Abertawe.

Bydd cynhadledd ‘Residuum’ yn para pum diwrnod, gan ddarparu llwyfan cynhwysfawr i gyfranogwyr ymchwilio i drafodaethau beirniadol a syniadau arloesol sy’n canolbwyntio ar y themâu a’r arferion a luniodd y gorffennol a’r presennol ac a fydd yn pennu ein dyfodol. Fel cydnabyddiaeth o gyrhaeddiad byd-eang y digwyddiad, cynhelir pob panel yn Saesneg a Mandarin, gan sicrhau amgylchedd amrywiol a  chynhwysol ar gyfer cyfnewid deallusol.

Bydd pob diwrnod o’r gynhadledd yn canolbwyntio ar thema benodol, a fydd wedi’i churadu i archwilio agweddau gwahanol ar y dirwedd celf a dylunio.  Mae’r themâu’n cynnwys:

  • Hiraeth: Gorffennol Colledig neu Ddyfodol Colledig
  • Dychymyg Ymdrochol
  • Deall Treftadaeth fel Symbol o’r Dyfodol
  • Cyfathrebu mewn Byd Cyfoes
  • Methodolegau Arloesol
  • Diffinio eich Arfer fel Arwain Newid
  • Dyfodol Diwydiannau Creadigol Tsieineaidd

Bydd y themâu hyn yn sbardun ar gyfer trafodaethau rhyngddisgyblaethol, gan alluogi cyfranogwyr i rannu eu hymchwil, eu mewnwelediadau a’u harferion gyda chynulleidfa ehangach. Trwy archwilio’r pynciau hyn trwy lensys celf, dylunio a diwylliant, ceisia cynhadledd ‘Residuum’ feithrin cydweithrediadau ystyrlon a chreu syniadau arloesol a all lunio dyfodol y meysydd hyn.

Cynhelir y gynhadledd hon yng Nghanolfan Dylunio Alex, sy’n cynnig amgylchedd ysgogol ar gyfer archwilio deallusol a rhwydweithio.  Er mwyn bod yn hygyrch i gynulleidfa fyd-eang, bydd y digwyddiad yn cael ei ffrydio ar-lein, gan ddarparu cyfle cynhwysol i gymryd rhan a lledaenu gwybodaeth.

Meddai Timi O’Neill, Rheolwr Rhaglen y Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio: “Mae Residuum yn llwyfan eithriadol sy’n dod ag ysgolheigion ac ymarferwyr at ei gilydd i gymryd rhan mewn deialogau creadigol, herio paradeimau presennol, ac archwilio gorwelion newydd o fewn arferion celf a dylunio. Mae’r gynhadledd eleni yn addo bod yn brofiad cyfoethog i’r holl fynychwyr, gan gyfuno safbwyntiau a syniadau amrywiol o bob cwr o’r byd.”

Disgwylir i gynhadledd ‘Residuum’ ddenu cyfranogwyr o sefydliadau academaidd, sefydliadau ymchwil, gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant a selogion creadigol. Bydd mynychwyr yn cael cyfle i gysylltu ag arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd, cael mewnwelediad o ymchwil arloesol, a chyfrannu at y drafodaeth barhaus ar gelf, dylunio a diwylliant.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau