Skip page header and navigation

Mae Llenyddiaeth ar draws Ffiniau (LAF) yn llongyfarch Niyati Bhat ar ennill Cymrodoriaeth Ymddiriedolaeth Charles Wallace India mewn Cyfieithu ac Ysgrifennu Creadigol.  

Arfbais PCYDDS.

Mae’r gymrodoriaeth wedi’i lleoli gydag LAF yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth ac mae’n ategu ymgysylltiad hirsefydlog LAF ag India lenyddol.

Mae Niyati Bhat yn awdur, cyfieithydd llenyddol a golygydd o dras Kashmiri Pandit o Delhi Newydd, India. Mae hi hefyd yn Ymgeisydd PhD mewn Astudiaethau Sinema ym Mhrifysgol Jawaharlal Nehru. Mae ei gwaith wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau blaenllaw yn India ac yn rhyngwladol ac fe gyflwynodd ei gwaith ar gerddoriaeth Kashmiri a sinema mewn fforymau a chynadleddau rhyngwladol. Gellir darllen mwy am ei gwaith yma: http://niyatibhat.in/

Cyrhaeddodd Aberystwyth ym mis Ebrill ac yn ystod ei chyfnod preswyl tri mis bydd yn gweithio ar gofiant hynafol o fenywod Kashmiri Pandit, gan gofnodi ac ail-ddychmygu profiadau ecsodus eu cymuned o’u mamwlad dros dri degawd yn ôl. Cyflwynodd ei phrosiect yn y Llyfrgell Genedlaethol ym mhresenoldeb cyn-Faer Aberystwyth Kerry Ferguson. 

Dywedodd Alexandra Büchler, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau: “Rydym yn falch iawn o groesawu ein seithfed cymrawd CWIT. Fel bob amser, roedd safon y ceisiadau yn uchel a chyflwynodd llawer o ymgeiswyr brosiectau y byddem wedi bod yn falch o’u cefnogi. Fodd bynnag, roedd cynnig Niyati yn sefyll allan gyda’i thriniaeth gymhellol o bwnc pwysig, ac edrychwn ymlaen at ganlyniadau ei harhosiad gyda ni.”.

Dywedodd Niyati Bhat: “Anrhydedd yw derbyn cymrodoriaeth ysgrifennu Ymddiriedolaeth Charles Wallace India. Rwy’n ddiolchgar i’r Ymddiriedolaeth,  Canolfan Uwchefrydiau Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd a’i chyfarwyddwr Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, a Chyfarwyddwr LAF Alexandra Büchler a’r aelod staff Elin Haf am eu cefnogaeth hael. Dw i wrth fy modd yma yng Nghymru, mamwlad fy hoff fardd, Dylan Thomas. 

Mae’r gymrodoriaeth wedi caniatáu’r seibiant yr oedd mawr ei angen arnaf o’m doethuriaeth mewn Astudiaethau Sinema i ganolbwyntio ar y prosiect llyfrau hwn a ddechreuodd gyda thraethawd ysgrifennais yn wreiddiol ym mis Ionawr 2020, blwyddyn oedd yn nodi deng mlynedd ar hugain ers alltudiaeth pobl Kashmiri Pandit. Rwyf hefyd yn gweithio ar goladu fy nghasgliad cyntaf o gerddi ar ôl derbyn ymateb hynod gyffrous gan selogion y grefft wrth ddarllen fy ngwaith yng Ngŵyl Farddoniaeth Aberystwyth. 

Mae mamiaith a iaith yn hanfodol i’r ymgais i warchod diwylliant. Mae’n braf dod i ddeall y ffyrdd mae pobl Cymru yn gwarchod yr iaith Gymraeg. Mae harddwch a thirwedd glan y môr Aberystwyth, y golygfeydd mynyddig, cynhesrwydd y bobl yr wyf wedi cwrdd â nhw, eu traddodiad o ddarllen a mynediad am ddim i lond gwlad o lenyddiaeth ac archifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Tref Aberystwyth a’u hymrwymiad i’r Gymraeg wedi adnewyddu fy niddordeb yn yr ymgyrch i warchod iaith a llenyddiaeth Kashmiri.

Rwy’n ddiolchgar i CWIT ac LAF am ymddiried yn fy ngwaith. Dw i wedi darganfod llawer o groesgyfeiriadau llenyddol a diwylliannol cyfoethog yn ystod fy mhreswyliad dros y tair wythnos diwethaf. Darganfyddais y tebygrwydd rhwng ffigyrau a straeon mytholegol Cymru a rhai Kashmiri, ynghyd â’r portreadau o fenywod mewn llên gwerin o’r ddau ddiwylliant. Dw i’n awyddus i weld i ba gyfeiriad y caf fy nhywys iddo nesaf ar fy nhaith greadigol.

Nodiadau i Olygyddion

Cyswllt: Alexandra Büchler: alexandra@lit-across-frontiers.org

Cefndir

Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau yw’r llwyfan Ewropeaidd ar gyfer cyfnewid llenyddol, cyfieithu a thrafod polisi a sefydlwyd yng Nghymru gyda chefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd yn 2001. Cewch fwy o wybodaeth am LAF yma. 

Lleolir LAF yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru sydd ger y Llyfrgell Genedlaethol ac yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ynghyd â Chyfnewidfa Lên Cymru, rhaglen sy’n hyrwyddo llyfrau Cymraeg ac yn darparu cefnogaeth ar gyfer eu cyfieithu. Cefnogir eu gweithgareddau gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chyllidwyr eraill.

Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil bwrpasol sy’n cynnal prosiectau i dimau ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Fe’i lleolir yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n llyfrgell hawlfraint enwog yn rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil ardderchog. 

Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr mewn amgylchedd sy’n ddeinamig a chefnogol. Rydym yn croesawu ymholiadau am bynciau MPhil/PhD yn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ymchwil, neu am sgwrs anffurfiol am bynciau posib, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-radd, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@wales.ac.uk.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau