Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch iawn o gyhoeddi bod Ellie Jones wedi ennill Gwobr Goffa D D Rees ar gyfer Mathemateg eleni. Derbyniodd Ellie y clod yn ystod seremoni raddio heddiw (8 Gorffennaf) yng Nghaerfyrddin.

Ellie Hones headshot in graduation gown on Carmarthen campus

A hithau’n Gymraes o Abertawe, dewisodd Ellie y Drindod Dewi Sant am ei phwyslais cryf ar y Gymraeg a’i diwylliant, gyda’r nod o hybu ei hyder i ddefnyddio’r iaith. “Fel Cymraes o Abertawe, ni chefais lawer o gyfleoedd i wneud defnydd o’r iaith gartref. O ganlyniad, dewisais Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am ei Chymreictod er mwyn helpu i fagu fy hyder yn yr iaith,” eglurodd Ellie.

Mae ei thaith yn PCYDDS wedi’i nodi gan dwf personol a phroffesiynol sylweddol, diolch i gefnogaeth ddiwyro gan staff y brifysgol. “Wrth ddechrau gyda’r brifysgol, gwelais nid yn unig ddefnydd cryf o’r iaith yn addysgol ac yn gymdeithasol, ond y gefnogaeth gan staff. Gyda chefnogaeth gref fy mentoriaid, rwyf wedi cael y cyfle i dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol,” meddai.

Mae ymroddiad Ellie i addysg, yn enwedig mewn mathemateg, wedi ei hysgogi i fynd i’r afael â rhwystrau cyffredin a wynebir gan fyfyrwyr yn y pwnc hwn. “Wrth gwblhau ystod o brofiadau addysgu, sylweddolais y rhwystrau cyffredin mewn addysg heddiw, yn enwedig wrth ddysgu mathemateg. Mae’n gallu bod yn anodd iawn annog plant i fwynhau mathemateg a rhifedd, felly fe wnes i ymchwilio i weld pa strategaethau sydd ar gael i wella’r sefyllfa ,” nododd.

Arweiniodd ei dull arloesol hi i archwilio integreiddio dysgu awyr agored mewn gwersi mathemateg a rhifedd. Cynhaliodd Ellie ymchwil helaeth, gan gynnwys arsylwadau, cyfweliadau, a holiaduron, i gasglu mewnwelediadau gwerthfawr. “Gyda’r wybodaeth a gesglais, es ymlaen i ysgrifennu aseiniad i gymharu fy nghanfyddiadau â llenyddiaeth ac roeddwn yn gallu rhannu hyn ag ysgolion. Heb gymorth y brifysgol, ni fyddwn byth wedi gallu dychmygu bod hyn yn bosibl,” dywedodd Ellie.

Yn gweithio fel athrawes gyflenwi ar hyn o bryd, mae Ellie yn gobeithio sicrhau swydd addysgu barhaol yn fuan. Mae ei hangerdd dros ysbrydoli myfyrwyr yn amlwg wrth iddi edrych yn ôl ar ei thaith addysgol. “Mae plant yn cofio’r ffordd y gwnaeth eu hathrawon eu hysbrydoli am byth. Rwy’n dal i gofio’r angerdd a ddangosodd fy athrawon wrth fy ngwthio i fod y gorau y gallwn i fod. Am y rheswm hwn, roeddwn yn siŵr mai dyma’r yrfa berffaith i mi. Gallai’r athrawes yma nawr fod yno i gefnogi nifer o blant yn y dyfodol a hynny o ganlyniad i gymorth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant,” meddai.

Cliciwch isod am ragor o wybodaeth am raglenni Addysgu a TAR PCYDDS:

https://www.uwtsd.ac.uk/cy/subjects/addysgu-tar 


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon