Skip page header and navigation

Gyda chefnogaeth myfyrwyr presennol, mae un o raddedigion BA Patrymau Arwyneb a Thecstilau Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant wedi arddangos ei doniau creadigol a’i hysbryd entrepreneuraidd yn Wythnos Ffasiwn Caerdydd yn ddiweddar.

Mannequin

Disgleiriodd Lucy Ralph (BA Patrymau Arwyneb a Thecstilau, 2023) o Grucywel yn y Pentref Ffasiwn yn ystod y digwyddiad. Yn Artist Preswyl yng Ngholeg Celf Abertawe, roedd Lucy’n falch o gynnal stondin PCYDDS, gan ddenu sylw sylweddol at ei gwaith trawiadol a meithrin cysylltiadau yn y gymuned ddylunio leol. 

Trwy ei phrosiectau, mae Lucy’n ymdrechu i wneud gwahaniaeth i’r amgylchedd trwy wneud atgyweiriadau gweladwy ac ail-bwrpasu dillad, gan leihau’r defnydd o ffasiwn cyflym. 

Cafodd ei gwaith ymateb brwdfrydig gan ymwelwyr, gan sbarduno nifer o sgyrsiau am gydweithio posibl, denu sylw a hyrwyddo gan y cyfryngau lleol, a gwerthiannau yn ystod y digwyddiad.

Yn ogystal â hyrwyddo ei gwaith, roedd hi’n falch iawn o arddangos y Brifysgol yn y digwyddiad bywiog.

Merch yn sefyll o flaen baner

Meddai Lucy:

“Braint ac anrhydedd oedd cynrychioli’r Drindod Dewi Sant a Phatrymau Arwyneb a Thecstilau yn Wythnos Ffasiwn Caerdydd. Roedd hi’n wych gallu sôn am fy ngwaith mewn perthynas â’m profiad fel myfyriwr, a gobeithio imi roi cipolwg ar y cwrs i ymwelwyr.   

“Yn fyfyriwr graddedig, roeddwn hefyd yn falch o allu rhoi’r profiad i fyfyrwyr presennol o fynd i ddigwyddiad fel hwn ac arddangos fy nhaith bersonol o fod yn fyfyriwr i weithiwr proffesiynol.” 

Ymunodd y myfyrwyr blwyddyn gyntaf, Sam McGrath, Lauren Stokes a Calia Kilbo, gyda Lucy i gynrychioli’r Drindod Dewi Sant. I Sam, sy’n dod o’r Unol Daleithiau, cynigiodd Wythnos Ffasiwn Caerdydd bersbectif unigryw y tu ôl i’r llenni a chyfle i ymgolli yng nghymuned ffasiwn fywiog Cymru, a chafodd Lauren ei syfrdanu gan amrywiaeth y ffasiwn a gaiff ei greu yng Nghymru a sylwi ar linyn cynaliadwyedd yn rhedeg trwy waith y dylunwyr. 

Meddai Lauren: “Drwy’r profiad hwn, mae gen i well dealltwriaeth o’r gwaith sydd ei angen i werthu eich brand ffasiwn eich hun. Rwyf hefyd wedi gallu gwneud cysylltiadau â brandiau a chylchgronau a fydd, gobeithio, yn esblygu i fod yn gyfleoedd yn y dyfodol.”

Tair menyw yn eistedd y tu ôl i'r bwrdd
Myfyrwyr Patrymau Arwyneb a Thecstilau blwyddyn gyntaf yn Wythnos Ffasiwn Caerdydd 2024

I Sam, Lauren, a Calia, roedd gwirfoddoli yn Wythnos Ffasiwn Caerdydd yn gyfle i groesawu profiadau newydd ac ehangu eu rhwydweithiau proffesiynol. Roedd y negeseuon allweddol y byddant yn eu cofio o’r digwyddiad yn cynnwys pwysigrwydd meddwl agored, manteisio ar gyfleoedd i gydweithio, a chynnal hyder yn eu gwaith wrth barhau i fod yn agored i dderbyn adborth. 

Dywedodd Georgia McKie, Rheolwr Rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau: “Mae hi mor galonogol bod digwyddiadau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru fel Wythnos Ffasiwn Caerdydd ac Wythnos Ffasiwn Abertawe yn ennill eu plwyf.  Mae cymaint o bositifrwydd yn amgylchynu talent Ffasiwn a Thecstilau newydd, ac agwedd entrepreneuraidd wych ymhlith cynifer o egin ddylunwyr.  Roedd y myfyrwyr Patrymau Arwyneb a Thecstilau a gymerodd ran wir yn deall hyn ac yn cydnabod gwerth y profiad hwn iddynt o ran eu twf parhaus fel dylunwyr y dyfodol.  Mae gweld graddedigion fel Lucy yn ymgymryd â rôl mentor i fyfyrwyr presennol yn rhywbeth ysbrydoledig iawn i’w weld.” 

Mae’r Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru ac yn 3ydd yn y DU ar gyfer Ffasiwn a Thecstilau (The Guardian University Guide 2024). I gael mwy o wybodaeth am y cwrs hwn, ewch i: Patrymau Arwyneb a Thecstilau (Llawn amser) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant David (uwtsd.ac.uk) 

Mannequin and baner tu ôl i fwrdd
Gwaith Lucy wedi'i arddangos yn Wythnos Ffasiwn Caerdydd 2024

Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon