Skip page header and navigation

Mae myfyrwraig o gwrs MA Darlunio Coleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wrthi’n brysur ar hyn o bryd yn gweithio gyda phlant ysgolion Sir Gaerfyrddin fel ymarferydd creadigol celf ar gynhyrchiad arbennig ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023, Prosiect 23.

Karen McRobbie, myfyriwr MA Darlunio, yn penlinio wrth ymyl un o’r meinciau a grëwyd yn rhan o Brosiect 23.

Mae Prosiect 23 yn weledigaeth a ddaeth i fodolaeth ar ôl trafodaeth gyda Phwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd a Carys Edwards, Cyfarwyddwr y prosiect, i greu rhywbeth gwahanol ac arloesol fel sioe ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llanymddyfri eleni.

Mae’n brosiect creadigol cwbwl gynhwysol sy’n cynnwys pob plentyn o fewn ysgolion cynradd ac uwchradd sir Gaerfyrddin a oedd yn awyddus i gyfrannu. Does dim un plentyn wedi cael ei wrthod rhag cymryd rhan gan gynnwys Unedau Arbennig ysgolion y Sir.

Dywedodd Carys Edwards, Cyfarwyddwr Prosiect 23 a Chadeirydd y Pwyllgor Gwaith:

“Y bwriad gyda Prosiect 23 yw creu digwyddiadau ar hyd a lled y Sir drwy gydol y flwyddyn lle gall disgyblion gyfrannu drwy berfformio neu waith Celf gyda’r pinacl o greu perfformiad cyffrous sy’n glytwaith episodig o chwedlau a storiau Sir Gâr ar hyd yr oesoedd a hynny wedi ei gyflwyno mewn arddull theatr promenâd ar Faes yr Eisteddfod ar Fai 28ain yn Llanymddyfri eleni.”

Carys Edwards yw Cyfarwyddwr y prosiect, gyda Nia Clwyd yn gyfrifol am yr elfennau cerddorol, a Llinos Jones o Ganolfan S4C Yr Egin yn gyfrifol am ddatblygu a threfnu’r syniadau Celf.

Cefn un o’r meinciau a grëwyd yn rhan o Brosiect 23. Mae castell wedi’i beintio arno mewn lliwiau llachar.

Daeth Karen McRobbie, myfyrwraig MA Darlunio o’r Drindod Dewi Sant yn rhan o’r tîm creadigol fel ymarferydd creadigol celf. Mae wedi bod yn cynorthwyo gyda’r elfen gelf o’r prosiect, ac wedi bod yn brysur yn teithio o gwmpas ysgolion y sir i helpu gyda’r gwaith paentio a’r creu.

Dywedodd Karen,

“Mae wedi bod yn fraint i fod yn rhan o Prosiect 23, ar gyfer Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri. Mae’n brosiect gwbl arloesol ac unigryw sy’n dathlu chwedlau, straeon a hanes Sir Gâr drwy’r celfyddydau. Mae plant ysgolion Sir Gâr yn gweithio ar berfformiadau o’r straeon, a dwi’n un o’r artistiaid sy’n darparu gweithgareddau a phrofiadau Celf gyda’r disgyblion.”

Mae’r elfen gelf y prosiect yn holl bwysig gan ei fod yn sicrhau fod yr unigolion nad oedd yn mwynhau perfformio a bod ar lwyfan yn cael y cyfle i fod yn greadigol, ac yn cael y cyfle i fod yn rhan o brosiect mawr gan ddatblygu sgiliau newydd. Mae’n gyfle hefyd i Karen i helpu unigolion i allu adrodd eu stori drwy gelf, a gweld fod yna werth i bob llais, boed hynny mewn lliw, gwaith metal neu yn ddigidol.

Mae Karen yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau celf arbennig ar gyfer y cynhyrchiad.

“Mae’r Men’s Shed Cwm Gwendraeth yn Drefach wedi bod yn brysur yn creu 15 mainc sydd wedi mynd allan i’r ysgolion, ac ar bob fainc bydd stori gwahanol yn cael ei phaentio, er enghraifft mainc am hanes Gwenllian, ac un arall ar stori’r Dewin Myrddin.

“Dwi hefyd yn gweithio mewn rhai ysgolion ar fygydau a phypedau ar gyfer y perfformiadau. Mae criw o ddisgyblion wedi creu pyped enfawr o ben draig ar gyfer perfformio stori ‘Gwiber Emlyn,’ ac rwyf wrthi’n cynllunio pypedau o’r Twrch Trwyth a’i deulu o foch gwyllt.”

 Pyped baedd gwyllt brown yn cael ei beintio â phaent brown; mae plant ysgol yn eistedd yn y cefndir.

Ychwanegodd Carys Edwards fod cyfraniad Karen tuag at y prosiect wedi bod yn hynod o allweddol,

“Roeddwn yn awyddus iawn i gael Karen i weithio ar Prosiect 23 gan ei bod wedi cynllunio setiau a gwaith Celf i fy holl gynhyrchiadau pan oedd y ddwy ohonom yn gweithio yn Ysgol Maes y Gwendraeth. Mae ganddi ffordd hyfryd o weithio gyda disgyblion gan eu hysgogi a’u hannog ac yna yn troi ei syniadau yn greadigaethau bendigedig. Mae’n bleser llwyr gweld y gwaith Celf yn datblygu yn nwylo medrus Karen.”

Mae Karen yn edrych ymlaen at weld y perfformiadau terfynol ar lwyfan yr Eisteddfod, ac i weld y meinciau a’r gweithiau Celf o gwmpas y maes.

“Mae’n ffantastig i feddwl bod ysgolion ar draws Sir Gâr yn cydweithio ar brosiect celfyddydol sy’n dathlu hanes, traddodiadau a diwylliant ein cynefin, a thrwy’r prosiect ry’ ni’n trosglwyddo’n traddodiad hynafol o adrodd straeon sy’n rhan bwysig o ddiwylliant a hunaniaeth y Cymry at y genhedlaeth iau.” 

Tu blaen un o’r meinciau a grëwyd yn rhan o Brosiect 23. Mae baedd gwyllt wedi’i beintio arno mewn lliwiau llachar.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon