Skip page header and navigation

Mae pedwar o fyfyrwyr BA Addysg Awyr Agored Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar hyn o bryd yn astudio am semester yn Norwy, ar ôl cael ei hariannu gan y Cynllun Turing.

Saith person gan gynnwys y pedwar myfyriwr o’r Drindod Dewi Sant yn sefyll mewn cae eiraog ac yn pwyntio i fyny tuag at Oleuni’r Gogledd.

Mae’r Cynllun Turing yn gynllun Llywodraeth y DU sydd wedi’i ddylunio er mwyn cynnig cyfleoedd symudedd byd-eang i 35,000 o fyfyrwyr yn flynyddol.  

Roedd ceisiadau Rachel Walker, Darcey Beak, Hal Harvey a Thomas Cheesey yn llwyddiannus, ac ar hyn o bryd, nhw yw’r myfyrwyr cyntaf o’r Drindod Dewi Sant wedi cael eu hariannu gan y Cynllun Turing i astudio ym Mhrifysgol De-ddwyreiniol Norwy. Meddai un o’r myfyrwyr,  Rachel Walker:

“Ar y cychwyn, gwnaethom gais mewnol i’r Drindod Dewi Sant i ddangos ein diddordeb, ac yna, cawsom gyfweliad gydag un o’n darlithwyr a’r swyddog rhyngwladol er mwyn sicrhau ein bod ni’n deall yr hyn yr oeddem yn ei wneud. Unwaith y cawsom ein dewis, gwnaethom gais i USN (Prifysgol De Norwy), cyn mynd i’r afael â’r holl baratoi.”

Bydd y myfyrwyr yn astudio yn Norwy drwy gydol semester y gwanwyn, o fis Ionawr tan fis Mehefin. Ychwanegodd y myfyriwr Thomas Cheesey: “Fy argraff gyntaf o Norwy oedd pa mor brydferth oedd nodweddion naturiol y wlad honno â’i choedwigoedd a’i llynnoedd sy’n ymddangos fel pe baent yn ddiddiwedd. Rwy’n gobeithio cael dealltwriaeth well a mwy amrywiol o oroesi a mwynhau mewn amgylcheddau naturiol gwahanol.”

Yn ôl Rachel, gwnaiff y profiad hwn: “roi persbectif gwahanol i mi, ac mae dysgu sut caiff pethau eu gwneud yn wahanol mewn man arall bob amser o fudd i ddysgu. Mae ychwanegu amrywiaeth at eich addysg drwy astudio yn rhywle arall yn eich galluogi chi i feddwl yn wahanol a dysgu mewn ffyrdd na fyddai’n bosibl gartref, nid dim ond ar gyfer astudiaethau academaidd, ond hefyd ar gyfer bywyd yn gyffredinol.”

Mae’r myfyrwyr hyn yn gobeithio cael profiad awyr agored mewn amgylchedd hollol newydd er mwyn mynd â’r pethau maent yn eu dysgu, oherwydd y profiadau hyn, yn ôl gyda nhw i’r DU. Maent yn gobeithio datblygu set o sgiliau gwahanol a fydd yn eu hachosi i fod yn well addysgwyr awyr agored, ac yn ehangu eu cysylltiadau rhyngwladol â phobl.

Meddai’r fyfyrwraig Darcey Beak: “Rwy’n gobeithio y gwnaiff y profiad hwn fy helpu i baratoi ar gyfer gweithio yn yr awyr agored mewn modd ymarferol dros ben. Rwy’n gobeithio y gwnaiff hefyd fy helpu i ddysgu sut i oroesi a ffynnu o dan gyflyrau gaeafol, oherwydd, rwy’n gobeithio un diwrnod, y gwnaiff y profiadau hyn fy helpu i ddechrau fy musnes awyr agored fy hun gartref.”

Wrth i Rachel ymsefydlu’n araf i’r ffordd Norwyaidd o fyw, meddai hi,

“Hyd yn hyn, mae Norwy wedi bod yn lle eithaf gwych. Mae diwylliant llesiant a friluftsliv (bywyd awyr agored) i’w gweld ym mhob man, ac mae’n teimlo’n gartrefol iawn. Mae pawb yma yn anhygoel o gyfeillgar ac yn hapus i’ch helpu; mae rhyw naws o dosturi a chyfrifoldeb cymdeithasol yma – enghraifft y dylem ni yn y DU ei hefelychu. Hefyd, mae’r golygfeydd yn aruthrol.”

Meddai Kath Griffiths, y Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol (Gogledd America a Symudedd tuag Allan): “Rydym yn annog myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant i fanteisio ar gyfleoedd Rhyngwladol, pe bai hynny ar gyfer symudedd tymor byr neu am semester. Mae gennym bartneriaethau hir sefydlog ardderchog ledled y byd, ac rwy’n annog pob myfyriwr i fanteisio ar y cyfle gwych hwn. Mae hwn nid yn unig yn rhoi cyfle addysgol ffantastig i fyfyrwyr, ond bydd hefyd yn newid eu bywydau. Rydym hefyd yn cynorthwyo ein myfyrwyr drwy gydol yr holl broses.”

Am ragor o wybodaeth am Gyfleoedd Rhyngwladol, ewch i dudalen Rhyngwladol


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau