Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi arwyddo cytundeb memorandwm cyd-ddealltwriaeth (MOU) gyda Phrifysgol Lakehead, a leolir yn Ontario, Canada.

Uwch aelodau o’r Drindod Dewi Sant a Lakehead yn gwenu o flaen cwpwrdd llyfrau hynafol.

Roedd y Brifysgol yn falch iawn o groesawu cynrychiolwyr o Brifysgol Lakehead i Gymru yn ddiweddar. Yn ystod yr ymweliad arbennig ymwelodd Dr. Moira McPherson (Llywydd ac Is-Ganghellor) a James Aldridge (Is-Brofost Rhyngwladol) â thri champws y brifysgol yng Nghymru yn Llanbedr Pont Steffan, Caerfyrddin ac Abertawe.

Bydd y bartneriaeth o fudd i’r ddwy brifysgol trwy raglenni cwricwlaidd ar y cyd a chyfleoedd cyfnewid myfyrwyr. Mae Prifysgol Lakehead yn cynnig ymagwedd bersonol at gymorth ac mae ganddi bersbectif gwirioneddol fyd-eang, gyda dros 1,500 o fyfyrwyr rhyngwladol, yn cynrychioli dros 70 o genhedloedd ledled y byd.

Mae’r Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Lakehead yn sefydliadau sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr gyda lles yn greiddiol iddynt. Maent hefyd yn ymroddedig i ysbrydoli cyfleoedd dysgu sy’n newid bywydau, gyda phwyslais ar wasanaethau i fyfyrwyr y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt. Dywedodd Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol Y Drindod Dewi Sant (Gogledd America):

“Mae gan y ddau sefydliad weledigaeth gyffredin o drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau. Drwy gynllun Taith newydd Llywodraeth Cymru, rydym bellach yn gallu cynnig cymorth i fyfyrwyr nad ydynt fel arfer yn gallu cymryd rhan mewn teithiau cyfnewid. Trwy gynhwysiant, mae’r brifysgol wrthi’n dileu rhwystrau i gyfranogiad ac yn cefnogi myfyrwyr o bob cefndir ac amgylchiadau i gyflawni eu potensial.

Edrychwn ymlaen at y bartneriaeth newydd gyda phrifysgol Lakehead wrth i ni groesawu staff a myfyrwyr i Gymru a galluogi ein myfyrwyr i gael profiad dysgu gwych yng Nghanada”.

Dywedodd yr Athro Mirjam Plantinga, Dirprwy Is-Ganghellor / Cyfarwyddwr y Swyddfa Academaidd:

“Yn unol â’i phroffil cyfranogiad cynyddol, mae gan Y Drindod Dewi Sant niferoedd uchel o fyfyrwyr prifysgol cenhedlaeth gyntaf ac i’r myfyrwyr hynny yn enwedig mae profiadau rhyngwladol yn amhrisiadwy.

Rydym yn ymroddedig i wireddu potensial pob myfyriwr unigol ac i gefnogi myfyrwyr ar bob cam o’u haddysg. Mae symudedd rhyngwladol yn faes allweddol lle credwn y gallwn gynnig gwerth ychwanegol i bawb sy’n astudio gyda ni.

Rydym yn falch iawn o weithio gyda phartneriaid, fel Prifysgol Lakehead, i gyfoethogi profiad academaidd ein myfyrwyr gyda’n gilydd yn unol â’n gwerthoedd cyffredin.”

Ychwanegodd Gwilym Dyfri Jones, Profost campysau Caerfyrddin a Llambed:

“Roedd y Brifysgol yn falch iawn o groesawu Llywydd ac Is-Brofost Prifysgol Lakehead yr wythnos hon. Roedd yn amlwg iawn bod Lakehead a’r Drindod Dewi Sant yn sefydliadau uchelgeisiol a blaengar sy’n darparu profiadau dysgu trawsnewidiol i’w myfyrwyr mewn amgylchedd gofalgar a chefnogol.

Edrychwn ymlaen at sefydlu partneriaeth gref ac ystyrlon gyda Lakehead yn ystod y misoedd nesaf a fydd yn caniatáu ar gyfer cydweithio agos gan gynnwys cyfnewid staff a myfyrwyr yn y blynyddoedd i ddod.”

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn nhudalennau Rhyngwladol PCYDDS

Llyn o flaen adeilad modernaidd tri llawr gyda llinell ddi-dor o ffenestri bae blociog ar ei ail lawr.

Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau