Skip page header and navigation

Heddiw (dydd Iau, Ebrill 27), cyhoeddwyd bod Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod Dewi Sant) ar y rhestr fer yng Ngwobrau Gwn Gwyrdd Rhyngwladol 2023 ar gyfer prosiect cydweithredol, Seeing dementia through their eyes (Living with Dementia), gydag eHealth Digital Media sy’n wneuthurwyr ffilmiau wedi’u lleoli yn Abertawe.

Clive Jenkins yn gwenu wrth wisgo sbectol gyda ffrâm gyfrifiadurol sydd wedi’i dylunio i olrhain symudiadau’r llygaid.

Enillodd ATiC ac eHealth Digital Media wobr y Gymdeithas Budd yng Ngwobrau Gwn Gwyrdd y DU ac Iwerddon yn 2022, oedd yn golygu bod y prosiect, yn enillydd rhanbarthol, wedi’i chyflwyno’n awtomatig ar gyfer y Gwobrau Rhyngwladol, sy’n cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf mewn digwyddiad a ardystir gan y Cenhedloedd Unedig.

Roedd y prosiect Seeing dementia through their eyes (Living with Dementia) yn cynnwys ymchwil gan y tîm ATiC dros gyfnod o ychydig dros flwyddyn i hysbysu cyfres o 10 ffilm newydd gan eHealth Digital Media.

Mae’r ffilmiau, sy’n ymwneud â bywydau a heriau pob dydd pobl sy’n byw gyda dementia yn canolbwyntio ar gyflwyno cymorth, hyfforddiant, ac addysg ar gyfer cleifion dementia, eu teuluoedd, eu gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Mae ATiC yn ganolfan ymchwil integredig sy’n rhoi meddwl sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac offer arloesi strategol ar waith drwy ei chyfleuster ymchwil blaengar ar gyfer gwerthuso profiadau defnyddwyr a defnyddioldeb, ac mae wedi’i lleoli yn Ardal Arloesi Abertawe yn SA1.  

Mae’r cwmni cyfathrebu digidol eHealth Digital Media yn cynhyrchu ac yn cyflwyno cynnwys i newid ymddygiad megis ffilmiau gwybodaeth â chynnwys o ansawdd uchel drwy’i blatfform PocketMedic sefydledig.

Mae’r prosiect yn defnyddio offer ymchwil datblygedig ym meysydd profiadau defnyddwyr ac ymddygiad dynol, megis technoleg i dracio llygaid ac i adnabod mynegiant yr wyneb, wrth greu a gwerthuso’r ffilmiau.

Gweithiodd tîm ATiC yn agos gyda Chyfarwyddwr Creadigol eHealth Digital Media, Kimberley Littlemore, y gwnaeth ei dau riant, Pauline a Clive Jenkins, cael diagnosis dementia yn eu 70au hwyr. Gwnaeth Kimberley a’i theulu eu cefnogi i fyw gartref am lawer o flynyddoedd nes yr hydref diwethaf pan symudodd Pauline i gartref gofal ac yn drist iawn, bu fawr Clive.

Meddai Kimberley Littlemore: “Mae’r prosiect a gwobr y Gymdeithas Budd llynedd yn deyrnged hyfryd i’m tad annwyl, Clive Jenkins. Mae ei gyfraniad at ein dealltwriaeth o ddementia yn parhau.”

Gosodwyd camerâu o gwmpas cartref Clive a Pauline i gadw cofnod o’u bywydau o ddydd i ddydd. At hynny, gwisgai’r cwpwl sbectol a fyddai’n tracio’r llygaid wrth iddynt wneud gweithgareddau yn y cartref, er mwyn i’r tîm allu ‘gweld y byd drwy eu llygaid nhw.’

Bu’r deunydd ffilm hwn yn gymorth i’r tîm ganfod a deall unrhyw batrymau a sbardunau dros amser ac i ddewis eiliadau allweddol, y gallai clinigwyr ac academyddion yn y maes eu dadansoddi a’u trafod ymhellach.

Mae’r ffilmiau ar gael ar blatfform PocketMedic eHealth Digital Media, sy’n cyflwyno ffilmiau gwybodaeth iechyd o ansawdd uchel sy’n cael eu ‘rhagnodi’ gan glinigwyr i gefnogi eu cleifion o ran rheoli eu hiechyd.

A chan fod y deunyddiau dysgu ar gael ar sgrin ac nid yn cael eu cyhoeddi nac ar gael mewn print, maent yn hygyrch iawn i ddefnyddwyr heb fawr ddim ôl-troed carbon.

Mae’r ffilmiau ar gael i’w gwylio’n rhad ac am ddim yng Nghymru diolch i gyllid gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Cefnogwyd y prosiect Seeing dementia through their eyes (Living with Dementia) drwy’r rhaglen Cyflymu, cydweithrediad arloesol rhwng tair o brifysgolion Cymru, Prifysgol Caerdydd (Cyflymydd Arloesi Clinigol), Prifysgol Abertawe (Canolfan Dechnoleg Gofal Iechyd), ATiC yn y Drindod Dewi Sant, a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Mae rhaglen Cyflymu yn cael ei chyd-gyllido gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, prifysgolion, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a’r byrddau iechyd, a nod y rhaglen yw creu gwerth economaidd hirdymor i Gymru.

Meddai’r Athro Ian Walsh, Profost campysau PCYDDS yn Abertawe a Chaerdydd, a Chyfarwyddwr ATiC: “Rwyf wrth fy modd bod ymrwymiad Y Drindod Dewi Sant i ddatblygu cynaliadwy trwy ei weithgaredd ymchwil wedi’i gydnabod yn y gwobrau rhyngwladol mawreddog hyn. Mae’n cadarnhau pwysigrwydd partneriaeth a chydweithio rhwng y Brifysgol a mentrau wrth gyflymu arloesi a datblygu modelau arfer mwy cynaliadwy.”

Meddai Tim Stokes, Cymrawd Arloesi ATiC ac arweinydd y prosiect: “Mae’r cyfan yn swnio’n dechnegol tu hwnt ond wrth ei wraidd, mae’n ymwneud â deall pobl. Deall sut maent yn rhyngweithio â’i gilydd; deall eu hanghenion; a helpu i ddatblygu’r cynhyrchion, gwasanaethau a systemau iechyd a llesiant gorau – gan osod pobl wrth wraidd yr ymchwil.

“Ar y cychwyn, dechreuodd y prosiect hwn fel arbrawf syml a ddeilliodd o’r syniad bod Kimberley yn dymuno ‘gweld dementia drwy lygaid ei rhieni’ - a gwnaethom lwyddo i wneud yn union hynny trwy ddefnyddio ein sbectol tracio retinol symudol.

“Mae wedi ein helpu i ddeall sut mae pobl â dementia yn byw ac i ddeall pa fathau o heriau maent yn eu hwynebu bob dydd.”

Meddai Kimberley Littlemore, Cyfarwyddwr Creadigol eHealth Digital Media: “Mae dangos a rhannu’r profiad o fyw â dementia, gyda’i gyfnodau da a drwg, wedi bod yn ffordd ysbrydoledig o gyflwyno gwybodaeth a magu hyder gofalwyr ac aelodau teulu.

“Gan edrych drwy’r gwerthusiad o brofiad defnyddiwr, mae’n galonogol a boddhaus iawn darllen bod pobl yn teimlo’n fwy hyderus ynghylch cefnogi pobl i fyw’n dda gyda dementia o ganlyniad i wylio’r ffilmiau hyn.  

“Rydym ni’n falch iawn o’n cydweithrediad gydag ATiC i weld dementia drwy lygaid fy rhieni. Bu’r dechnoleg dracio llygaid yn fodd i ni ddangos a rhannu drwy ffilm mewn ffordd ddynol iawn, beth roedd ymchwilwyr wedi bod yn ei ddisgrifio yn eu papurau ynghylch newidiadau o ran canfyddiad gweledol mewn pobl sy’n byw gyda dementia.

“Dim ond edmygedd sydd gen i i’m rhieni, a ganiataodd i mi rannu eu taith. Mae rhywbeth da yn dod allan o sefyllfa sy’n anhygoel o heriol i ni gyd.”


Gwybodaeth Bellach

Bethan Evans

Swyddog Marchnata a Chyfathrebu
Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC)
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS)
E-bost: bethan.evans@uwtsd.ac.uk  

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau