Skip page header and navigation

Mae ymchwil gan Dr Rebekah Humphreys o’r Drindod Dewi Sant, sy’n canolbwyntio ar sut mae’n bosibl dadsensiteiddio i’r defnydd o anifeiliaid ar gyfer ymchwil wyddonol, wedi cael sylw ar y podlediad gwyddoniaeth poblogaidd, ResearchPod.

Mae ymchwil gan Dr Rebekah Humphreys o’r Drindod Dewi Sant, sy’n canolbwyntio ar sut mae’n bosibl dadsensiteiddio i’r defnydd o anifeiliaid ar gyfer ymchwil wyddonol, wedi cael sylw ar y podlediad gwyddoniaeth poblogaidd, ResearchPod.

Yn y podlediad hwn, mae Dr. Rebekah Humphreys yn archwilio ein hymatebion emosiynol a’n teimladau moesol tuag at anifeiliaid o fewn cyd-destun ymchwil. Mae’n ystyried y rhai sy’n gweithio ym maes ymchwil anifeiliaid, a’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â phrofion anifeiliaid.

Mae Dr Rebekah Humphreys yn uwch ddarlithydd mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac yn uwch gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Mae hi’n arbenigo mewn moeseg gymhwysol, yn enwedig moeseg anifeiliaid, a moeseg amgylcheddol. Dywedodd hi:

“Roeddwn wrth fy modd i weld fy ymchwil yn cael ei drafod a’i amlygu ar lwyfan mor ddylanwadol. Mae ResearchPod yn cysylltu’r gymuned ymchwil â chynulleidfa fyd-eang o gyfoedion a’r cyhoedd, gan godi gwelededd ac effaith.

Yn y podlediad hwn, rydym yn cwestiynu a yw ein ‘normau’ o’r hyn sy’n dderbyniol yn amrywio yn dibynnu ar y cyd-destun a pham; sut a pham y mae ymchwilwyr yn tueddu i, neu’n gorfod, rhannu’n adrannau er mwyn cyflawni eu gwaith; a sut mae iaith ymchwil a phortreadau’r cyfryngau yn bychanu neu’n anwybyddu’r ffaith bod anifeiliaid yn cael eu defnyddio fel hyn a pham y gallai hyn arwain at broblemau.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau