Un o raddedigion Y Drindod Dewi Sant yn gobeithio dylanwadu ar eraill â’i hangerdd dros gynaliadwyedd
Graddiodd Debby Mercer o gwrs BA (Anrh) Celfyddydau Breiniol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyda chwrs blwyddyn sylfaen yn Llanbedr Pont Steffan. Mae ei hangerdd dros gynaliadwyedd o amgylch y campws yn heintus, ac mae’n gobeithio y gall hi ddylanwadu ar eraill i ddilyn yn ei llwybr.
![Debby Mercer a dafad ddu: y ddau’n edrych i mewn i’r camera’n ddifrifol.](/sites/default/files/styles/media_component_4_3_sm/public/2023-10/uwtsd-graduate-hopes-to-influence-her-passion-for-sustainability-on-others_0.jpg?h=73760fa7&itok=jz8pDmxz)
Bu Debby bob amser yn frwdfrydig dros gynaliadwyedd. Meddai:
“Mae fy angerdd i’n deillio o gyfiawnder hinsawdd. Mae’r materion rydyn ni’n eu hwynebu ynghylch y newid yn yr hinsawdd a dinistr amgylcheddol yn gymhleth iawn ac mae hi mor anodd deall y broblem yn ei chyfanrwydd ac mae hyn yn arwain at broblemau difrifol o ran sut rydyn ni fel cymdeithas yn mynd i’r afael â’r materion hyn. Dylai cynaliadwyedd fod o fudd i bawb yn fyd-eang, nid dim ond y dethol rai.
“Mae fy marn i ar gynaliadwyedd wedi newid ers symud i Gymru a gweithio yn y sector amaethyddol. Ar hyn o bryd, mae cynaliadwyedd i mi yn rhwym wrth wytnwch. Nid yw’n golygu mynd yn ôl i amser cyn plastigau untro, echdynnu tanwydd ffosil, a dinistr amgylcheddol, ond symud ymlaen i fyd newydd. Allwn ni ddim rhoi glo yn ôl yn y ddaear, ond gallwn ni drawsnewid pyllau glo brig yn gynefinoedd newydd ar gyfer bywyd gwyllt. Ni allwn ni fynd yn ôl i ffermio ymgynhaliol, ond gallwn ni symud tuag at ffermio sy’n ystyriol o natur er mwyn creu gwytnwch amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ar gyfer y newidiadau sydd o’n blaenau ni.”
Symudodd Debby i Lanbedr Pont Steffan ar ôl iddi brynu tyddyn, a dewisodd astudio yn Y Drindod Dewi Sant oherwydd ei hymrwymiadau i’r tir ac anifeiliaid. Penderfynodd astudio’r Celfyddydau Breiniol gan ei bod hi’n gwau ac yn nyddu ers dros 10 mlynedd a bu ganddi ddiddordeb erioed mewn archaeoleg tecstilau.
Yn ystod ei hamser yn y Brifysgol, daeth Debby yn un o interniaid INSPIRE lle cymerodd agwedd unigryw at hyrwyddo cynaliadwyedd a gwaith menter bwyd a gwytnwch y Brifysgol, Tir Glas, trwy lens gwlân gan ei fod yn rhywbeth sy’n amlwg yn y gymuned a’r economi leol.
“Fe wnes i fwynhau’n fawr iawn fy amser yn Interniad INSPIRE ar gyfer Tir Glas, rhoddodd lawer o gyfleoedd i mi gymryd rhan mewn sgyrsiau am rôl gwlân wrth greu dyfodol cynaliadwy gyda myfyrwyr, staff ac aelodau’r gymuned leol. Y prif beth ddysges i o‘m hinterniaeth i oedd sut i weithio yn rhan o dîm mwy o faint.”
Mae’r Brifysgol wedi dyfnhau angerdd Debbie dros gynaliadwyedd. Ychwanega:
“Cyn dod i’r Drindod Dewi Sant, roeddwn i wedi byw oddi ar y grid ers dros 10 mlynedd ac o’m cwmpas i roedd pobl oedd yn frwdfrydig dros yr amgylchedd ac wedi ymrwymo i’r Mudiad Gwyrdd. A minnau wedi fy nhrwytho yn y byd hwnnw, roeddwn i’n credu ein bod ni ar gyrion cymdeithas yn brwydro yn erbyn y llu! Ond roedd yr angerdd weles i ar gampws Llambed yn hollol ysbrydoledig.
“Mae myfyrwyr a staff fel ei gilydd yn barod i gymryd rhan mewn sgyrsiau anodd a gwneud newidiadau i wneud Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol gynaliadwy. Roedd hi’n wych gweld y staff tir a’r ystadau yn cael cydnabyddiaeth haeddiannol ar gampws Llambed fis diwethaf gyda chyflwyno gwobr y Faner Werdd. Mae dod i’r brifysgol wedi dangos i mi fod cynaliadwyedd a’r argyfwng hinsawdd wedi dod yn faterion allweddol i bawb – nid “ni yn eu herbyn nhw” yw hi bellach ond pob un ohonom yn gweithio gyda’n gilydd ar gyfer dyfodol cynaliadwy.”
![Debby Mercer yn cyffwrdd edafedd sy’n hongian o wŷdd fertigol tal.](/sites/default/files/styles/media_component_3_4_sm/public/2023-10/uwtsd-graduate-hopes-to-influence-her-passion-for-sustainability-on-others-2.jpg?h=869d9947&itok=_6gxME4E)
Yn ddiweddar bu Debby yn curadu arddangosfa oedd yn edrych ar ‘Werth Gwlân’ a gynlluniwyd o amgylch ei gwaith israddedig. Mae’n edrych ar y rôl sylweddol y mae wedi’i chwarae ar wahanol adegau mewn hanes a sut y gall helpu i greu dyfodol cynaliadwy. Ychwanega:
“Mae gennym ni lawer o ffermydd ar Ynysoedd Prydain sy’n cynhyrchu llawer iawn o wlân sy’n cael ei losgi neu ei gladdu ar hyn o bryd am nad oes ganddo lawer o werth ariannol. Ond mae dillad gwlân yn para am amser hir ac mae modd eu trwsio, mae compost gwlân yn gyfoethog o ran nitrogen a gellir ei ddefnyddio yn lle compost mawn a gall cynhyrchion eraill megis inswleiddio gwlân pur gael effaith enfawr ar werth cynaliadwyedd adeilad newydd neu yn ffordd werdd o ôl-osod hen adeilad.”
Bydd yr arddangosfa ar hyd yr wythnos o 16 Hydref ymlaen, ar Gampws IQ Y Drindod Dewi Sant yn SA1 Glannau Abertawe yn rhan o’r Wythnos Gynaliadwyedd, a bydd Debby yn cyflwyno sgwrs am rôl gwlân mewn cynaliadwyedd a gweithdy ffeltio nodwyddau sy’n addas ar gyfer pob oed ddydd Iau 19 Hydref am 4p.m.
Mae Debby yn gobeithio y bydd hi’n gallu ysgogi cyd-fyfyrwyr a staff i feddwl yn fwy am gynaliadwyedd.
“Mae cynaliadwyedd yn ein dwylo ni. Mae gennym ni fel pobl gymaint o bŵer trwy ein dewisiadau prynu. Mae bod yn fwy cynaliadwy nid yn unig yn golygu plannu coed a thyfu eich bwyd eich hun, ond gwneud dewisiadau ar y busnesau rydyn ni’n eu cefnogi a sut rydyn ni’n eu cefnogi. Gall bod yn fwy cynaliadwy fod mor syml ag eistedd yn 1822 ar gyfer eich coffi yn hytrach na mynd â chwpan untro gyda chi.”
Meddai Anna Jones, Pennaeth Ymgysylltu Dinesig Y Drindod Dewi Sant:
“Mae’n bleser gweld sut mae ein myfyrwyr yn symud ymlaen gyda’u teithiau bywyd wrth gofleidio a chymhwyso eu dysgu o’u hamser gyda ni yma yn Y Drindod Dewi Sant. Yn un o gyn-Interniaid INSPIRE o Gampws Llambed, mae’n wirioneddol wych gweld bod Debbie wedi cael cyfle i gynnal ei harddangosfa ei hun ar bwnc mor werthfawr i gefnogi Wythnos Gynaliadwyedd. Pob llwyddiant iddi ar gyfer y dyfodol.”
![Debby Mercer mewn gwisg academaidd.](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2023-10/uwtsd-graduate-hopes-to-influence-her-passion-for-sustainability-on-others-3.jpg?h=2d235432&itok=1aMvs42S)
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476