Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi croesawu ‘Matter 2.4’, un o dair sioe yn ymwneud â thechnolegau’r dyfodol sy’n canolbwyntio ar drawsnewid digidol ar gyfer y sector cyhoeddus. Mae ‘Matter 2.4’ yn dwyn ynghyd y darparwyr technoleg gorau o bob rhan o’r byd i sbarduno syniadau, creu cysylltiadau a chyflymu mabwysiadu’r technolegau.

A group standing inside the brightly illuminated immersive room in Swansea.

Cynhaliwyd y digwyddiad ar Gampws y Glannau PCYDDS yn SA1 Abertawe, gan bartner clyweled y Brifysgol, IDNS. Daeth IDNS â darparwyr technoleg mwyaf blaenllaw’r byd at ei gilydd, gan gynnwys Samsung, Ubiqisense, Epson, HP Poly, Tier 1 a Bitdefender, gyda rhai ohonynt wedi cynnal sgyrsiau a gweithdai ar gyfer y mynychwyr. Trwy’r gweithdai a’r sesiynau trafod hyn cafodd y mynychwyr gyfle i ddysgu am a rhoi cynnig ar dechnolegau cyfoes ac ar gyfer y dyfodol a allai helpu newid y ffordd maent yn gweithio yn y dyfodol.

Roedd yr arddangosiadau’n cynnwys Ystafelloedd Trochi newydd y Brifysgol, y rhai  cyntaf o’u bath, sy’n defnyddio technoleg arloesol i wella’r cyfleusterau dysgu ar gampws Abertawe a Chaerfyrddin.

Cyflwynodd Richard Morgan,  Deon Cynorthwyol Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf y Drindod Dewi Sant, brif anerchiad ar IoT a digidoleiddio, gan drafod rhai o brosiectau MADE Cymru  a Cyflymydd Digidol SMART y Brifysgol a’r dysgu allweddol sy’n deillio o gefnogi cynifer o gwmnïau ar eu teithiau trawsnewid digidol. 

Meddai Chris Rees, Pennaeth Gweithredol Creadigrwydd a Dysgu Digidol y Drindod Dewi Sant: “Mae digwyddiad Matter 2.4 yn gyfle unigryw i ddod â phrif ddarparwyr technoleg ac arloeswyr ynghyd ar ein campws yn SA1, o’r ardal leol a ledled y DU. Mae’n rhoi cyfle i ni arddangos y technolegau arloesol sydd gennym i’w cynnig i’n myfyrwyr yn ogystal â hyrwyddo ein hystafell Drochi gyda’n cynnwys dysgu ac addysgu pwrpasol.”

A seated audience listening to the presenter who is standing in front of a screen.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau