Skip page header and navigation

Wrth i Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru fynd yn ei blaen, mae Tîm Blynyddoedd Cynnar Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o roi sylw i fuddion, cyfleoedd, a phosibiliadau di-ben-draw addysg yn yr awyr agored, yn enwedig mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar. 

group of early year students planting flowers

Mae’r tîm yn falch o roi pwyslais sylweddol ar y profiadau, buddion a chyfleoedd boddhaus sy’n cael eu cynnig gan chwarae yn yr awyr agored.  Gydol yr wythnos, mae’r myfyrwyr wedi bod yn archwilio’r awyr agored ac yn ystyried y syndod a’r rhyfeddod sy’n digwydd pan fydd oedolion yn rhoi amser i blant archwilio amgylcheddau diddorol yn yr awyr agored.  Mae’r profiadau hyn yn yr awyr agored yn cefnogi dysgu cyfannol sy’n cyd-fynd ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru, y Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir a darpariaeth flynyddoedd cynnar o ansawdd. 

Mae’r myfyrwyr wedi ymwneud ag amrywiaeth o weithgareddau o archwilio patrymau a chylchoedd y byd naturiol i’r ysbrydoliaeth a gynigir ar gyfer y celfyddydau mynegiannol.  Maent hefyd wedi adeiladu llochesau a gwneud diodydd hud drwy archwilio dysgu mathemategol a gwyddonol.  Yn bwysicach maent wedi bod yn cymryd rhan mewn sgyrsiau am y byd o’u cwmpas sy’n adlewyrchu’r pwysigrwydd i blant hefyd gael amser i sgwrsio a thrafod mewn amgylchedd hamddenol a hwyliog, a sut mae hyn yn cefnogi datblygu iaith, llythrennedd a llesiant ehangach. 

Image of animal made out of outdoor resources

Meddai’r Darlithydd a Thiwtor Derbyn Blynyddoedd Cynnar, Glenda Tinney:

“Mae profiadau yn yr awyr agored eleni wedi caniatáu i ni adfyfyrio ar bwysigrwydd defnyddio pa le bynnag sydd gennym yn yr awyr agored i ddatblygu chwilfrydedd ac archwilio gan blant.  Rydym ni hefyd wedi ymweld ag Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas lle mae’r myfyrwyr wedi gallu gweld sut mae plant dysgu sylfaen yn cael budd o fod mewn amgylchedd yn yr awyr agored, ac wedi gallu datblygu syniadau ynghylch eu rôl wrth gefnogi’r dysgu a’r archwilio sydd dan arweiniad y plentyn. 

Bu Glenda yn ffodus iawn yn ddiweddar i gyfrannu i adnodd gan Cwlwm a’r Mudiad Meithrin ‘Dathlu ein hoedolion, profiadau ac amgylcheddau’ Cwricwlwm i Gymru - Meithrin’  Ychwanega:

“Rwyf hefyd wedi mwynhau ymuno â Diwrnodau Hyfforddiant Mudiad Meithrin - Bod y Tu Allan - Mudiad Meithrin lle rwyf wedi bod yn cyflwyno gweithdai ymarferol yn yr awyr agored yn debyg i’r rheini a ddatblygwyd ar fodylau awyr agored Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar.  Mae wedi bod yn gyfle gwych i deithio o gwmpas Cymru i glywed beth sy’n digwydd yn nhermau chwarae a chreadigrwydd yn yr awyr agored gan rannu syniadau ar yr un pryd, ac mae wedi bod yn hyfryd hefyd ddathlu wythnos dysgu yn yr awyr agored mewn ffordd ymarferol. 

“Mae’r gweithdai wedi pwysleisio agweddau allweddol ar addysgeg y blynyddoedd cynnar yn y Gymraeg gan ganolbwyntio ar alluogi oedolion, meithrin profiadau diddorol a chreu amgylcheddau effeithiol.”

I’r rheini sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am gyrsiau a chyfleoedd PCYDDS, cysylltwch â: g.tinney@uwtsd.ac.uk  info@uwtsd.ac.uk 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau