Skip page header and navigation

Ysgolion Haf

Gall myfyrwyr o’r tu allan i’r DU fynychu ysgol haf sy’n ffordd wych o gael mwy o brofiad rhyngwladol, darganfod diwylliant gwahanol, a dod â’ch profiad o ddysgu yn fyw.

Gellir rhedeg yr ysgol haf o gampws Caerfyrddin, Llambed ac Abertawe, ac mae rhai sefydliadau’n hoffi aros ar fwy nag un campws tra eu bod yng Nghymru. Gyda chyrsiau a champysau mor amrywiol, mae cyfleoedd eang ar gael ar draws nifer o raglenni a chyfadrannau, o Ysgrifennu Creadigol i Addysg Awyr Agored.

Yn yr adran hon

Ysgolion Haf

Mae pob un o’n Hysgolion Haf ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio gyda’n sefydliadau partner a nodir isod. Ac eithrio Ysgol Haf Ysgrifennu Creadigol Dylan Thomas, sy’n croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n astudio mewn nifer o Brifysgolion a Cholegau.

Os ydych yn rhan o sefydliad sydd â diddordeb i ddod ag ysgol haf i Gymru, cysylltwch â ni a byddem yn hapus i ddatblygu rhaglen bwrpasol ar eich cyfer.

Dylan Thomas Summer School Group Shot

Ysgol Haf Ryngwladol Dylan Thomas

Dyma ysgol haf breswyl deuddeg diwrnod sy’n canolbwyntio ar dirwedd ryfeddol Cymru fel catalydd ar gyfer ysgrifennu creadigol. Bydd myfyrwyr yn mynychu gweithdai ysgrifennu dyddiol, yn teithio i leoliadau diwylliannol arwyddocaol, ac yn gwrando ar ddarlleniadau gan awduron Cymreig enwog.

Mae Ysgol Haf Dylan Thomas yn rhaglen ysgrifennu 12 diwrnod, wedi’i hachredu’n llawn, a gynhelir ar ein campws yn Llambed.

Mae’r rhaglen yn agored i israddedigion, myfyrwyr graddedig ac aelodau’r cyhoedd, ac yn elwa o ddosbarthiadau bach o ryw 15 o fyfyrwyr.

Wedi’i sefydlu gan y bardd a’r dramodydd Cymraeg enwog Menna Elfyn yn 2014, mae’r rhaglen yn cael ei chyd-gyfarwyddo gan yr awdur Pamela Petro a’r bardd Dominic Williams.

Rhaid i bob myfyriwr sy’n dilyn y cwrs er mwyn ennill credydau gyflwyno detholiad o gerddi, stori fer neu draethawd fel y gellir pennu gradd.

Ymhlith uchafbwyntiau Rhaglen 2024 mae:

  • Gweithdai Ysgrifennu Rhyddiaith a Barddoniaeth
  • Teithiau – yn cynnwys Gerddi Aberglasne, Castell Harlech, Ynys Môn, Eryri, tref arfordirol Llansteffan, a ‘Boathouse’  Dylan Thomas yn Nhalacharn.  
  • Ymweliad preswyl â Tŷ Newydd, Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru a chyn gartref y Prif Weinidog, David Lloyd George. 
  • Taith o amgylch Llyfrgell Roderic Bowen, campws PCYDDS Llambed, sy’n cynnwys un o’r casgliadau pwysicaf o lyfrau prin a llawysgrifau canoloesol ym Mhrydain a thaith gerdded ddewisol i fryngaer o’r Oes Haearn.
  • Darlleniadau nosweithiol – gan awduron a beirdd gorau Cymru 
  • Tiwtorial personol i’r myfyrwyr gyda Pamela Petro neu Dominic Willams.
  • £2450 (tua $2900) y pen (yn cynnwys llety en-suite / prydau bwyd / codi a dychwelyd i’r maes awyr, a phob gwibdaith)
  • Gall myfyrwyr ddewis a ydynt am ddilyn y rhaglen i dderbyn credyd ai peidio: mae modiwl 30 credyd yn Ysgol Haf Dylan Thomas yn cyfateb i 3 chredyd graddedig neu israddedig tuag at radd yn yr UD.
  • Gall myfyrwyr sy’n dychwelyd weithio tuag at radd ôl-raddedig PCYDDS dros gyfnod o ymweliadau â’r rhaglen Ysgol Haf Dylan Thomas gan dderbyn 120 credyd o bedair ysgol haf a chwblhau traethawd hir o bell.
  • Gall myfyrwyr israddedig ddechrau casglu credydau ôl-raddedig ar yr un pryd

Dylid cyfeirio gohebiaeth a chwestiynau gweinyddol at Dominic Williams.

Lle i uchafswm o 18 sydd ar gael yn Ysgol Haf Dylan Thomas.  Rhoddir lle i ymgeiswyr llwyddiannus ar sail y cyntaf i’r felin. Sylwch bydd y rhaglen ond yn rhedeg ar yr amod ei fod yn cyrraedd y lleiafswm o ran niferoedd.

People paddle boarding in the sea

Colegau Hobart a William Smith

Mae Colegau Hobart a William Smith wedi bod yn bartner i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ers 2008 ac wedi cael blas ar raglenni Addysg Awyr Agored. 

Addysg Awyr Agored: Mae Materion Damcaniaethol mewn Gweithgareddau Awyr Agored yn gwrs 3 wythnos a fydd yn gyfuniad o theori academaidd a gweithgareddau ymarferol yn yr awyr agored, gan gynnwys heicio, gwersylla, ogofa, canŵio, caiacio, nofio, archwilio mwyngloddiau, dringo creigiau a beicio mynydd. Er bod y gweithgareddau’n ddifyr, maent yn eu hanfod yn fodd o archwilio amrywiaeth o themâu academaidd fel cynaladwyedd, datblygiad personol a chymdeithasol a’r ddeuoliaeth rhwng risg ac antur.

  • Archwilio amrywiaeth o faterion gan gynnwys cynaliadwyedd, cadwraeth, tirwedd sy’n newid, datblygiad personol a chymdeithasol a risg yn erbyn antur
  • Cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel dringo creigiau, ogofa, caiacio, syrffio, heicio, nofio, arforgampau a beicio mynydd
  • Dysgu sgiliau caled a sgiliau meddal wrth ystyried y cysylltiad rhwng “profiad” a dysgu
  • Gwerthfawrogi diwylliant Cymreig trwy gymryd rhan weithredol yn y gweithgareddau hynny sy’n cael eu hystyried yn gwbl Gymreig

Defnyddir sesiynau theori i baratoi ar gyfer y gweithgareddau ymarferol, i adolygu profiadau ac i gyflwyno’r wybodaeth gefndir angenrheidiol sy’n hanfodol ar gyfer yr asesiadau amrywiol.

Landscape view of fields

Coleg Mihangel Sant, Vermont

Nod yr Ysgol Haf Cynaliadwyedd Rhyngwladol yw addysgu’r myfyrwyr sy’n ymweld am y gwahanol safbwyntiau sy’n ymwneud â chynaliadwyedd yng Nghymru o safbwynt diwylliannol, ecolegol, gwleidyddol, daearyddol ac artistig.

  • Mae myfyrwyr a staff o Goleg Mihangel Sant yn ymweld â PCYDDS yn ystod mis Mai ar gyfer cwrs astudio dramor pythefnos o hyd sy’n canolbwyntio ar sut mae Cymru wedi integreiddio cynaliadwyedd ecolegol drwy ei diwylliant, ei sefydliadau, ei chelfyddyd a’i pholisïau. Cysylltodd Coleg Mihangel Sant â PCYDDS gan eu bod yn gwybod am y Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi ac Effeithiolrwydd Adnoddau (INSPIRE) a’i ymrwymiad i gynaliadwyedd. Roedd y cwrs yn cynnwys astudiaethau maes diwylliannol ac amgylcheddol, darlithoedd gwadd ar y safle, a chydweithio a chyfnewid prosiectau ymchwil ac artistig.

    I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â dod ag ysgol haf o’ch sefydliad, cysylltwch â’n Huned Recriwtio Rhyngwladol.

Side of a building with multiple windows

Coleg Douglas, Vancouver

Mae PCYDDS wedi bod yn croesawu myfyrwyr ar gyrsiau cyfnewid, i gwblhau gradd ac i ysgolion maes haf o Goleg Douglas, Vancouver ers 2009.

  • Mae’r rhaglen yn para 2–3 wythnos ac wedi’i leoli ar gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae’r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o ddarlithoedd, ymweliadau safle a theithiau diwylliannol o amgylch Cymru yn ogystal â chyfle i aros yn Llundain cyn neu ar ôl y rhaglen.