![Computing students standing with laptop](https://www.uwtsd.ac.uk/sites/default/files/styles/page_header/public/2023-12/computing-header.jpg?h=77039d24&itok=oBu6Hw9E)
Cyfrifiadura
Cychwynnwch ar daith gyffrous i fyd cyfrifiadura, lle mae gwybodaeth ddamcaniaethol ac arbenigedd ymarferol yn dod at ei gilydd. Ymunwch â ni a pharatowch eich hun ar gyfer dyfodol o arloesi a phosibiliadau diddiwedd.
Rydyn ni’n credu mewn dysgu ymarferol, lle gallwch chi roi’r egwyddorion a’r damcaniaethau rydych chi’n dysgu amdanynt trwy brosiectau trochi ar waith yn y byd go iawn. Mae ein cwricwlwm yn cael ei arwain gan y diwydiant, gyda chyrsiau’n cael eu datblygu ar y cyd â sefydliadau blaenllaw ac ardystiadau wedi’u hymgorffori gan gewri’r diwydiant fel Cisco a Microsoft. Bydd ennill yr ardystiadau hyn yn rhoi mantais gystadleuol i chi ac yn gwella eich cyflogadwyedd.
Gyda dosbarthiadau bach o ran maint a chefnogaeth unigol gan ddarlithwyr profiadol, rydym yn sicrhau amgylchedd dysgu cefnogol. Mae ein labordai cyfrifiadura pwrpasol a chaledwedd a meddalwedd blaengar yn darparu’r offer a’r adnoddau sydd eu hangen arnoch i ragori yn eich astudiaethau.
Trwy ein cysylltiadau cryf â’r diwydiant, gan gynnwys darlithwyr gwadd rheolaidd a grŵp cyswllt diwydiant, byddwch yn cael y cyfle i siarad â gweithwyr proffesiynol a chael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf yn y maes wrth ehangu eich gwybodaeth a’ch cyfleoedd i rwydweithio.
Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio i sefydliadau blaenllaw fel y DVLA, BT, Rocket IT, Airbus a mwy. Yn aml, mae myfyrwyr wedi cael cynnig swyddi cyn mynychu eu seremonïau graddio.
Pam astudio Cyfrifiadura yn PCYDDS?
Spotlights
![Myfyrwyr ysgol uwchradd yn defnyddio cyfrifiaduron gemau fideo](/sites/default/files/styles/media_component_4_3_sm/public/2023-12/computing-spot.jpg?h=caf26d13&itok=JBlmBelX)
Cyfleusterau
Cewch fynediad i labordai cyfrifiadura pwrpasol a chaledwedd a meddalwedd o’r radd flaenaf. Profwch ddysgu trochi trwy ystafelloedd arbenigol a mynediad o bell i adnoddau.
![Dau fyfyriwr yn eistedd o flaen y ffynnon ar gampws Llambed](/sites/default/files/styles/media_component_4_3_sm/public/2023-12/all_2016_09_30_UWTSD_marketing_lampeter_3656.jpg?h=bc816b12&itok=BdtCYACA)
Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?
Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.