![Students chatting at a table with a coffee](https://www.uwtsd.ac.uk/sites/default/files/styles/page_header/public/2023-12/psychology-and-counselling-header.jpg?h=72bfedd5&itok=_cuhky-S)
Seicoleg a Chwnsela
Mae ein Canolfan Seicoleg a Chwnsela yn cyfuno poblogaeth amrywiol o fyfyrwyr gyda thîm o ddarlithwyr profiadol, gan greu amgylchedd dysgu ysgogol yn y cyrsiau sy’n gwella mwynhad myfyrwyr.
Dewch ar daith gyffrous gyda’n rhaglenni gradd Seicoleg a Chwnsela, lle daw myfyrwyr o bob lliw a llun a darlithwyr gwybodus, ymchwilgar ynghyd er mwyn creu amgylchedd dysgu dynamig.
Mae ein casgliad o raglenni wedi’u hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain* a bydd yn cynnwys rhywbeth at ddant pawb; p’un a’ch bod yn ystyried gyrfa ym maes seicoleg neu wasanaethau troseddol, neu â’ch bryd ar weithio ym maes gofal dynol neu iechyd meddwl. Mae pob un o’n rhaglenni yn gyfuniadau cynhwysfawr o wybodaeth seicolegol, cymwysiadau byd go iawn sy’n benodol i’r pwnc, a datblygiad sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy.
Cewch fod yn rhan o amgylcheddau dysgu rhyngweithiol a chydweithredol, lle mae addysgu mewn grwpiau bychain yn cael blaenoriaeth dros ddarlithfeydd mawrion, a lle cewch fagu hyder a meithrin amrywiaeth o sgiliau amrywiol a fydd yn sbardun i’ch gyrfa neu’ch astudiaethau ôl-raddedig.
Pam astudio Seicoleg a Chwnsela yn PCYDDS?
Spotlights
![Myfyrwyr yn nodi syniadau o gwmpas bwrdd](/sites/default/files/styles/media_component_4_3_sm/public/2023-12/psychology-and%20-counselling-spot%20.jpg?h=9c7c8296&itok=Bbm_QRpY)
Cyfleusterau
Yn fyfyriwr Seicoleg a Chwnsela, bydd gennych fynediad i ystod eang o fannau dysgu ac addysgu. Mae gan ein cyfleusterau seicoleg penodedig ar ein campws yn Abertawe gasgliad o labordai wedi’u dylunio i wella eich profiad dysgu. Mae’r rhain yn cynnwys labordai seicometreg, ystafelloedd cyfweld a labordai ymddygiadol a biometreg. Ac mae gan ein holl fyfyrwyr fynediad at amrywiaeth o fannau dysgu ac addysgu ar draws ein campysau.
![Dau fyfyriwr yn eistedd o flaen y ffynnon ar gampws Llambed](/sites/default/files/styles/media_component_4_3_sm/public/2023-12/all_2016_09_30_UWTSD_marketing_lampeter_3656.jpg?h=bc816b12&itok=BdtCYACA)
Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?
Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.
Testimonial
"Rwy’n credu bod y cwrs BSc Seicoleg Gymhwysol wedi rhoi’r sylfaen i mi mewn seicoleg yr oedd ei hangen i ddatblygu fy ngyrfa academaidd. Fe wnes i fwynhau fy amser yn PCYDDS yn fawr a mwynhau elfennau cymhwysol y cwrs."
Kitiaria Muldoon | BSc Seicoleg Gymhwysol