Peirianneg Fodurol (Llawn amser) (BEng Anrh)
Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 2il yn y DU am foddhad myfyrwyr ym maes Peirianneg Fecanyddol - Complete University Guide 2023
Mae’r ddegawd nesaf yn addo bod yn eithriadol o gyffrous a disgwylir newidiadau sylweddol yn y diwydiant modurol. Golyga’r symud o foduron tanio mewnol tuag at bwerwaith hybrid a thrydanol sy’n golygu bod angen sgiliau peirianneg newydd. Mae’r brifysgol yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant Modurol i roi i fyfyrwyr y wybodaeth a’r brwdfrydedd dros gerbydau modurol perfformio a phrif ffrwd, ymarferol.
Yn ddiweddar, mae’r Brifysgol wedi buddsoddi’n drwm yn ei chyfleusterau peirianneg a champws newydd. Yn fyfyriwr yn y rhaglen Peirianneg Fodurol, bydd gennych fynediad i’n gweithdai modurol penodol, labordai diagnostig peiriannau, dynamometrau siasi, cyfleusterau pwerwaith hybrid/trydan a’n cyfleusterau ffabrigadu a pheiriannu.
Bydd y cwrs yn datblygu ffiseg sylfaenol a sgiliau peirianneg mewn ffordd cyd-destunol trwy ddatblygu’r car, ei grogiant, reid, dull trin ac NVH (Sŵn, Dirgryniad ac Aflafarwch). Rhoddir pwysigrwydd i ddatblygiad y pwerwaith wrth i ni symud tuag at danwydd cynaliadwy ac uwch dechnolegau batri.
Yn llawer o’r modylau mae’r cwrs yn ystyried yr agweddau amgylcheddol ar ddylunio a thechnoleg sy’n drosglwyddadwy i ystod eang o gyfleoedd gwaith. Caiff y cwrs ei gefnogi gan gyfleoedd allgyrsiol i gymhwyso’r wybodaeth ddamcaniaethol a ddysgwyd yn y modylau i gymwysiadau modurol yn y byd go iawn.
Mae’r graddau Baglor a ganlyn wedi’u hachredu i nodi eu bod yn bodloni’r gofyniad academaidd, yn rhannol, i gofrestru ar gyfer Peiriannwr Siartredig (CEng yn rhannol) ar gyfer carfanau derbyn myfyrwyr o 2015 hyd at, ac yn cynnwys, 2023: BEng (Anrh) Peirianneg Fodurol (Llawn Amser, 3 Blynedd; EngC cyf 15956)
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae diwydiant Modurol y DU a’r holl fyd wedi gweld datblygiadau technolegol enfawr yn y blynyddoedd diweddar ac er gwaethaf y pwysau economaidd y mae’r diwydiant wedi’u hwynebu, mae’n dal i dyfu.
Mae’r heriau technolegol y mae’r diwydiant yn eu hwynebu wrth gyflawni buddion o ran effeithlonrwydd ym mhob math o gerbyd, yn sgil deddfwriaethau fwyfwy caeth ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid, wedi arwain at gynnydd yn y galw am Beirianwyr Modurol uchel eu sgil.
Dros y degawdau, mae ein graddedigion wedi dangos y gallu i ymateb i anghenion cyflogwyr ac yn cael eu cydnabod yn raddedigion sy’n gallu bwrw iddi’n syth a chyflawni’r dasg, wedi’u tanategu gan wyddor peirianneg fecanyddol craidd a’i gymhwysiad i ddylunio a datrys ystod o broblemau peirianneg yng nghyd-destun y diwydiant peirianneg chwaraeon moduro.
Mae’r rhaglenni Peirianneg Modurol wedi’i datblygu i baratoi myfyrwyr ar gyfer anghenion penodol y diwydiant hwn, gan gynnwys dylunio, gweithgynhyrchu, ansawdd a pheirianneg systemau - sydd i gyd yn hanfodol i weithrediad peirianneg cerbydau modern.
Bydd meysydd astudio arbenigol, yn cynnwys uwch ddylunio injans a deinameg cerbydau, yn eich galluogi i ffocysu ar feysydd o ddiddordeb arbenigol y gellir eu datblygu yn y modylau Grŵp a Phrosiect Mawr.
Mewn llawer o’r modylau mae’r cwrs yn ystyried yr agweddau amgylcheddol ar ddylunio a thechnoleg sy’n drosglwyddadwy i ystod eang o gyfleoedd gwaith. Rydym yn cynnal nifer o weithgareddau allgyrsiol sy’n darparu profiad rhagorol ar gyfer pob math o yrfa ym maes peirianneg modurol y gellir eu cysylltu â’ch gwaith prosiect ac aseiniad.
Caiff ein gradd BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol (Llawn amser 3 Blynedd; EngC cyf 15956) ei hachredu i nodi ei bod yn bodloni gofynion academaidd, yn rhannol, i gofrestru’n Beiriannydd Siartredig (CEng yn Rhannol) gan y Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol o dan drwydded gan reolydd y DU, sef y Cyngor Peirianneg.
Mae achrediad yn farc sicrwydd bod y radd yn bodloni’r safonau a bennir gan y Cyngor Peirianneg yn y DU, sef y Safon ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Proffesiynol (UK-SPEC). Bydd gradd achrededig yn rhoi ichi’r holl wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau, neu ran ohonynt, sydd eu hangen i gofrestru yn y pendraw yn Beiriannydd Corfforedig (IEng) neu Siartredig (CEng).
Mae rhai cyflogwyr yn dewis recriwtio o blith graddau achrededig, ac mae gradd achrededig yn fwy tebygol o gael ei chydnabod gan wledydd eraill sydd wedi llofnodi cytundebau rhyngwladol.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Astudiaethau Achos
Cwrdd â’n Myfyrwyr
Gwybodaeth allweddol
-
112 pwynt (280 cynt) o bynciau Safon Uwch rhifog neu dechnegol, gan gynnwys Mathemateg neu Ffiseg gradd B neu uwch. Hefyd, mae angen TGAU Mathemateg gradd C. Gellir ystyried profiad perthnasol.
Nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Cymerwn eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd i ystyriaeth. Yn yr achosion hyn, rhaid iddynt darparu tystiolaeth o allu i ddilyn y cwrs yn llwyddiannus.
Rydym yn hoffi rhoi pob cyfle i ymgeiswyr o’r fath ddangos bod ganddynt y cymhelliant a’r gallu i lwyddo yn eu dewis raglen.
-
Caiff y cwrs ei asesu drwy gymysgedd o waith cwrs, profion cyfnod, cyflwyniadau, arholiadau llafar ac arholiadau papur.
-
Nid oes costau ychwanegol gyda’r cwrs hwn.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Mae’r galw uchel cyfredol am raddedigion peirianneg modurol wedi’i adlewyrchu yn y canran uchel o’n myfyrwyr sy’n cael eu drafftio i swyddi llawn amser neu astudiaethau pellach o fewn 6 mis o orffen eu hastudiaethau.
Mae gweithgynhyrchwyr mawr y DU a chyflenwyr Haen 1 yn amsugno’r rhan fwyaf o’n graddedigion, sydd hefyd yn wir am gwmnïau ymchwil ac ymgynghori.
Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i fael gyrfaoedd llwyddiannus iawn mewn cwmnïau fel Jaguar Land Rover, Ford, McLaren Automotive, Mahle Powertrain, JCB yn ogystal â chwmnïau chwaraeon moduro fel AMG Mercedes, Williams F1 a Force India.