Skip page header and navigation

Animeiddio Cyfrifiadurol (Rhan amser) (MA)

Abertawe
2 Flynedd Rhan amser

Bydd ein MA mewn Animeiddio Cyfrifiadurol yn eich gwneud yn feistr ar gelf a gwyddor animeiddio! Yn ein hysgol animeiddio, bydd myfyrwyr yn cael dealltwriaeth o arddulliau a thechnegau animeiddio.

Rydym yn defnyddio technoleg i greu dulliau newydd o reoli symudiad ac o ddefnyddio amseru wrth animeiddio dilyniannau. 

Bydd myfyrwyr MA yn cael gwerthfawrogiad o sut i efelychu, animeiddio a meistroli grymoedd naturiol, gan gyfleu’r teimlad o bwysau, inertia, ffrithiant, symudiadau llinellol a rhai aflinol. Ein nod trwy gydol y flwyddyn astudio yw ehangu gwybodaeth y myfyriwr o hanes a llenyddiaeth animeiddio – yr egwyddorion sy’n sylfaen i animeiddio a chreu ffilmiau.

Rydym yn annog myfyrwyr i ehangu eu llyfrgell weledol o waith ar symudiadau, a hynny er mwyn creu golygfeydd uchelgeisiol, gwych, sy’n ennyn teimladau. Ar ddiwedd y camau prentis (tymhorau cyntaf rhan 1) bydd myfyrwyr yn anelu am feistrolaeth lwyr (cam olaf rhan 2) wrth animeiddio ar gyfrifiadur, sydd i’w gael fel arfer o fewn llifoedd gwaith cynyrchiadau.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Yr ethos yw arbrofi, ymestyn a gwella sut y byddwch yn mynd ati i wneud celf animeiddiedig – a mwy.
02
Mae’r myfyrwyr sy'n gweithio ar lefel ôl-raddedig yn meithrin cysylltiadau newydd, ac mae ein cyn-fyfyrwyr BA ac MA wedi cael swyddi yn y diwydiant animeiddio ac wedi gweithio ar ffilmiau a rhaglenni rhagorol.
03
Mae’r adnoddau, y gefnogaeth, a’r cyfeillgarwch y byddwch yn ei gael wrth ennill y cymhwyster, a’r cyfle i weithio gyda staff sydd wedi bod yn addysgu animeiddio ers 15 mlynedd a mwy, yn creu awyrgylch dysgu rhagorol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae gwybodaeth am animeiddio, celf animeiddio a thechnegau cynhyrchu i gyd yn bwydo’r dosbarthiadau. Mae’r MA hwn yn addas i animeiddwyr profiadol yn ogystal â’r rhai sy’n awyddus i ddysgu ac i ychwanegu animeiddio cyfrifiadurol at eu portffolio.

Mae’r strwythur yn blaenoriaethu archwilio creadigol a’r defnydd o ddulliau animeiddio newydd arloesol, a hynny er mwyn datblygu gwaith newydd ym meysydd creu delweddau, modelu 3D, animeiddio 2D clasurol, sain a llun, cyn-gynhyrchu, rheoli prosiectau, ac ati. Cewch eich annog i archwilio ac i ddefnyddio’r technolegau cyfrifiadurol diweddaraf, a bydd meysydd eraill yn annog cynyrchiadau grŵp a rhannu syniadau a thechnegau ar lefel uwch.

Bydd myfyrwyr yn gwella eu gallu i ddeall sut mae gwahanol raglenni meddalwedd yn cael eu defnyddio mewn un prosiect, yn ogystal â sut i gynllunio, defnyddio ac integreiddio asedau a gynhyrchir er mwyn eu dwyn ynghyd mewn ffilm animeiddiedig orffenedig. Mae’r cwrs yn un sy’n wynebu’r diwydiant, ac mae’n seiliedig ar yr arferion gorau a fyddai’n cael eu defnyddio mewn stiwdio ddiwydiannol.

Mae ein MA mewn Animeiddio Cyfrifiadurol wedi’i gynllunio i’ch paratoi ar gyfer gyrfa gyda chwmnïau animeiddio a ffilm/teledu mawr neu ganolig, neu i weithio fel unigolyn sy’n darparu gwasanaethau animeiddio o’u stiwdio eu hunain.

Prosiect Mawr

(60 credydau)

Naratif Animeiddio Cyfrifiadurol 3D

(20 credydau)

Ymchwilio Dulliau Cynhyrchu

(10 credydau)

Cyn-gynhyrchu

(20 credydau)

Ôl-gynhyrchu

(10 credydau)

Animeiddio Cyfrifiadurol 3D

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • TBC

  • Mae cynnwys o’r dosbarth, ymarferion a chynnwys damcaniaethol yn cael ei gyfleu trwy arddangosiadau ac mewn darlithoedd. Mae gweithdai yn galluogi’r myfyriwr i ymchwilio’r technegau, y fethodoleg a’r gweithdrefnau sy’n cael eu cyflwyno iddyn nhw mewn mwy o ddyfnder, a hynny er mwyn creu dilyniannau animeiddiedig sy’n gweithio. Mae’r set o waith cwrs yn annog y myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd gweledol er mwyn creu dyluniadau apelgar a theimladwy wrth animeiddio â chyfrifiaduron. 

    Gydag amser astudio ac arbrofi pellach, bydd y myfyriwr yn meistroli’r gofynion technegol y byddan nhw eu hangen i gynhyrchu animeiddiadau cyfrifiadurol. Mae’r dull gweithredu yn systematig a bydd angen i bob myfyriwr brofi ystod eang o dasgau, heriau a phrofiadau animeiddio.

    Yn rhan gyntaf y radd MA mewn Animeiddio Cyfrifiadurol bydd angen i bob myfyriwr eirioli eu syniad unigol ar gyfer cynhyrchiad ffilm animeiddiedig. Mae’r prosiect mawr yn cynnig cyfle i fyfyrwyr llawnamser a rhan-amser gydweithio ar brosiect mawr cyffredin neu i ddarparu mewnbwn neu roi cymorth ar brosiectau mawr ei gilydd. 

    Mae syniadau’n cael eu “cyflwyno” i diwtoriaid a gweddill carfan y myfyrwyr ac mae’r prosiect a ddewiswyd yn cael ei ddatblygu ymhellach yn ail ran y modiwl. Dan oruchwyliaeth, byddan nhw’n cael cyfle i ganfod Prosiect Rhan II uchelgeisiol a heriol sy’n drylwyr yn academaidd ac a fydd yn cael ei gwblhau fel prosiect tîm, lle bydd y deunydd cynhyrchu yn cael ei rannu’n feysydd arbenigol ar wahân ar gyfer bob un o aelodau’r tîm.

  • Gall ein myfyrwyr fanteisio ar amrywiaeth o offer ac adnoddau a fydd, fel arfer, yn ddigon i’w caniatáu i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r holl ddeunyddiau sylfaenol y bydd myfyrwyr eu hangen i ddatblygu eu gwaith ymarferol yn ein gweithdy a’n cyfleusterau stiwdio helaeth.

    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr animeiddio yn wynebu rhai costau ychwanegol wrth ehangu eu harfer personol. Er enghraifft, wrth brynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, meddalwedd a chaledwedd, ymuno â theithiau astudio dewisol, a thalu am argraffu ac ati.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Mae’r prif gyfleoedd gyrfa y mae’r MA mewn Animeiddio Cyfrifiadurol yn eu cynnig i’w cael yn y meysydd hyn:

    • Cynnwys ar gyfer Darllediadau Teledu
    • Cynnwys ar gyfer Hysbysebion teledu
    • Cynnwys ar gyfer Cyfryngau Digidol Cyffredinol
    • Cynnwys ar gyfer Ffilm
    • Cynnwys Gemau Cyfrifiadurol
    • Hyrwyddo Gemau Cyfrifiadurol
    • Hyrwyddo yn y Sector Corfforaethol
    • Hyfforddiant yn y Sector Corfforaethol
    • Hyfforddiant yn y Sector Addysg

Mwy o gyrsiau Ffilm, Cyfryngau ac Animeiddio

Chwiliwch am gyrsiau