Skip page header and navigation

Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol (Llawn amser) (MSc)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn amser

Mae ein cymdeithas yn dod yn fwyfwy sensitif i effaith dyn ar yr amgylchedd naturiol, ac mae teimlad ymysg y cyhoedd nad ydym bob amser yn pwyso a mesur manteision gweithgareddau yn erbyn eu cost amgylcheddol. Mae themâu o’r fath yn arwyddocaol o fewn cadwraeth a rheolaeth amgylcheddol. 

Mae’r disgyblaethau hyn yn mynd i’r afael â llawer o heriau sy’n wynebu ein planed, ein gwlad a’n hardal, heriau sy’n ganolog i ddyfodol cymdeithas.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Amgylchedd dysgu cefnogol, gyda sylw personol yn cael ei roi i bob myfyriwr.
02
Y profiadau dysgu llwyddiannus a phleserus sydd wrth graidd ein gweledigaeth i gynhyrchu gweithwyr proffesiynol heb eu hail ac sydd â sgiliau cyflogadwyedd uchel.
03
Ein lleoliad trefol/morol sy'n agos iawn at 'Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol' gyntaf Prydain a chyda llawer o asedau diwylliannol ac adeiladau difyr yn gyfagos.
04
Dosbarthiadau o 15 neu lai fel arfer, sy’n creu diwylliant ac amgylchedd lle bydd anghenion myfyrwyr unigol yn cael eu clywed a’u cefnogi.
05
Addysg sy’n cael ei lywio gan waith ymchwil mewn pynciau sy'n ymestyn ar draws ein portffolio, gyda chefnogaeth briodol gan arbenigwyr allanol o bob cwr o'r byd.
06
Rydym yn credu mewn ymgysylltu â chyflogwyr er mwyn datblygu, cyflwyno ac adolygu cyrsiau sy'n gwella cymwysterau cyflogadwyedd ein graddedigion mewn ffordd sy'n ganolog i'n gweledigaeth ar gyfer myfyrwyr, y ddinas a'r rhanbarth.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Ers blynyddoedd lawer, mae’r MSc Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol wedi cynllunio a chynnig rhaglenni sy’n datblygu a pharatoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa yn y sector amgylcheddol. 

Roedd y Brifysgol ar flaen y gad pan ddechreuodd gynnig gradd Cadwraeth Amgylcheddol yn 1998, y brifysgol gyntaf i wneud hynny. Mae’r galw gwleidyddol a chymdeithasol am reolaeth gynaliadwy o’n hamgylchedd a’n hadnoddau naturiol yn parhau. 

Ar y rhaglen MSc hon, cewch ddatblygu eich gallu i fynd i’r afael â’r gwrthdaro rhwng anghenion cymdeithas, yr economi a’r amgylchedd, a hynny mewn ffordd ymarferol a chyfannol a chyda chefnogaeth sylfaen o wybodaeth ddaearyddol ac academaidd.

Mae’r rhaglen wedi’i rhannu’n ddwy ran; byddwch yn cwblhau cyfres o fodiwlau a addysgir ac yna’n ysgrifennu traethawd hir annibynnol yn seiliedig ar waith ymchwil mewn maes pwnc o’ch dewis. Yn y modiwlau a addysgir, cewch ennill y sgiliau cyfreithiol, technegol a rheoli sy’n canolbwyntio ar y cyflogwr, y byddwch chi eu hangen yn y sector.

Gorfodol

Rheoli Ynni ac Adnoddau

(20 credydau)

Cynllunio a Pholisi Amgylcheddol

(20 credydau)

GIS a Rheoli Cynefinoedd

(20 credydau)

Rheoli Strategol ar gyfer Cadwraeth

(20 credydau)

Datblygu Cynaliadwy

(20 credydau)

Dulliau Ymchwil a Datblygiad Proffesiynol

(20 credydau)

Prosiect Gradd Meistr

(60 credydau)

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf gradd 2.2 mewn unrhyw bwnc.

    Bydd ymgeiswyr sydd â chymwysterau eraill a phrofiad perthnasol yn cael eu hystyried yn unigol gan Gyfarwyddwr y Rhaglen drwy broses Achredu dysgu blaenorol (APS).

    Mae angen sgôr IELTS o 6.5 neu gyfwerth os nad Saesneg yw’r iaith gyntaf. 

  • Rydym yn credu y dylai’r cwrs gynnwys ystyriaeth academaidd a galwedigaethol er mwyn i fyfyrwyr ddatblygu set o sgiliau a gwybodaeth sy’n addas ar gyfer y gweithle. 

    Felly, cafodd y rhaglen MSc hon ei dylunio ar y cyd â rheolwyr amgylcheddol, ac mae’n defnyddio asesiadau/digwyddiadau ‘byw’ cyfredol er mwyn sicrhau bod y cynnwys yn ymateb i anghenion newidiol cyflogwyr, eu gweithwyr, a’r agenda amgylcheddol sy’n newid yn gyson. 

    Mae’r arddull yma o addysgu’n cynnwys adroddiadau, prosiectau, cyflwyniadau, ac mae’n helpu myfyrwyr i ddatblygu eu diddordebau unigol o fewn fframwaith y modiwl.

    Mae’r traethawd hir yn cael ei ddatblygu gan fyfyrwyr mewn cydweithrediad â’r tîm goruchwylio, a dylai fod yn uniongyrchol berthnasol i ddiddordebau’r myfyriwr yn ogystal â chydymffurfio â thrylwyredd academaidd gwaith ymchwil MSc. Yn olaf, mae’r tîm addysgu’n canolbwyntio’n llwyr ar y myfyrwyr ac yn galluogi myfyrwyr i wireddu eu huchelgeisiau o ran rheoli amgylcheddol.

  • Bydd mynediad i’ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i’w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu’ch dyfais.

    Efallai y byddwch chi’n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

    • Teithio i’r campws ac oddi yno
    • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
    • Prynu llyfrau neu werslyfrau
    • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

    Bydd disgwyl i chi brynu tiwnig i’w gwisgo yn y lleoliad clinigol - rhoddir fanylion pellach pan fyddwch chi’n dechrau’r rhaglen.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae ôl-raddedigion ein rhaglen MSc Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol wedi cael gyrfaoedd gydag amrywiaeth eang o gyflogwyr y sector rheoli amgylcheddol yn y DU ac ar draws y byd, gan gynnwys gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdodau Lleol, cwmnïau dŵr a chyrff anllywodraethol amgylcheddol, ac ym meysydd ymgynghori amgylcheddol, rheoli gwastraff ac addysgu. Mae graddedigion hefyd wedi parhau i astudio’n llwyddiannus ar gyfer doethuriaethau mewn gwahanol brifysgolion ledled y byd.