Skip page header and navigation

Ein Cyfleusterau

Ein Cyfleusterau 

Fel myfyriwr Cyfrifiadura yn Abertawe, cewch fynediad at amrywiaeth o labordai cyfrifiadura penodedig a chaledwedd a meddalwedd o’r radd flaenaf.  Gyda dosbarthiadau bach a chymorth unigol gan ddarlithwyr profiadol, rydym ni’n sicrhau amgylchedd dysgu cefnogol, gan ddarparu’r offer a’r adnoddau sydd eu hangen arnoch i ragori yn eich astudiaethau.   

Rydym ni’n credu mewn dysgu ymarferol, lle gallwch chi gymhwyso’r egwyddorion a’r damcaniaethau a ddysgwch trwy brosiectau trochi a chymwysiadau yn y byd go iawn. Mae ein cwricwlwm yn cael ei arwain gan ddiwydiant, gyda chyrsiau a ddatblygwyd ar y cyd â sefydliadau blaenllaw ac ardystiadau cynwysedig gan gewri’r diwydiant megis Cisco a Microsoft. 

Ein Cyfleusterau Cyfrifiadura

Ein Cyfleusterau Cyfrifiadura  

Wedi’u lleoli ar gampws Glannau Abertawe gall myfyrwyr ymdrochi’n academaidd ar yr un pryd â mwynhau bywyd bywiog y ddinas a’r prydferthwch naturiol sydd gan Abertawe. Ochr yn ochr â chyfleusterau cyfrifiadura arbenigol mae gan fyfyrwyr fynediad hefyd at lyfrgell gynhwysfawr ac amrywiaeth o fannau astudio.  

Mae darlithydd yn sefyll ger dau fyfyriwr sy’n eistedd ac yn pwyntio at res o wahanol fathau o gysylltwyr cyfrifiaduron sy’n cael eu harddangos mewn bocs bach.
Mae dyn ifanc yn plygio cebl i mewn i weinydd.

Mae ein cyfleusterau’n cynnwys pedwar labordy cyfrifiadurol, pob un â phrosesyddion Intel Core i7 perfformiad uchel a 64 GB o RAM. Rydym ni hefyd yn cynnig labordy arbenigol ar gyfer rhwydweithiau cyfrifiadurol a seiberddiogelwch, sy’n cynnwys llwybryddion a switshys Cisco o’r radd flaenaf, ochr yn ochr â Phecyn Cymorth Cellebrite ar gyfer gwaith fforensig symudol.  Mae gan fyfyrwyr fynediad at gwricwlwm a luniwyd gyda diwydiant, gyda deunyddiau gan sefydliadau blaenllaw megis Cisco, Checkpoint, Palo Alto, a Microsoft Learn, sy’n sicrhau y cânt addysg a hyfforddiant o’r lefel uchaf.  

Seiberddiogelwch a Rhwydweithiau Cyfrifiadurol  

Fel myfyriwr mewn Seiberddiogelwch neu Rwydweithiau Cyfrifiadurol, cewch fynediad at gyfleusterau arbenigol ychwanegol, yn cynnwys labordy a neilltuwyd yn benodol ar gyfer Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch, wedi’i ddarparu â llwybryddion a switshys Cisco o’r radd flaenaf, yn ogystal â Phecyn Cymorth Cellebrite ar gyfer Gwaith Fforensig Symudol.  

Mae tri dyn ifanc yn sgwrsio mewn ystafell gyfrifiaduron gyda gweinydd yn y cefndir.
A young man uses a keyboard; a bag of tools lies open to his right; two phones and an external hard drive are on the table to his left. .
Ein Cyfleusterau Seiberddiogelwch a Rhwydweithiau Cyfrifiadurol  

Mae ein hadnoddau dysgu datblygedig mewn rhwydweithiau cyfrifiadurol a seiberddiogelwch yn cynnwys Pecyn Cymorth Gwaith Fforensig Symudol Cellebrite, sy’n offeryn o’r radd flaenaf ar gyfer dadansoddi ymchwiliol ac arbenigol.  Rydym ni’n defnyddio offer diweddaraf Cisco, yn cynnwys switshys C1000 a llwybryddion C8200L, i ddarparu hyfforddiant o’r radd flaenaf. At hynny, mae ein cyfleusterau’n cynnwys Pecyn Cymorth FTK, Microsoft Azure, ac offer cod agored amrywiol megis Kali Linux ac Autopsy. Mae’r adnoddau hyn yn sicrhau eich bod wedi eich paratoi’n dda i fynd i’r afael â heriau’r diwydiant gyda hyder ac arbenigedd.  

Saif darlithydd o flaen sgrin o flaen dosbarth o fyfyrwyr mewn ystafell gyfrifiaduron.
Mae dyn ifanc yn gwenu wrth weithio ar gyfrifiadur; mae gweinydd i’w weld tu ôl iddo.
Mae dynes yn defnyddio Proteus VSM: mae’n edrych ar graff llinell ar fonitor; wrth ochr y monitor mae tair uned lwyd sydd â bylau, ceblau, deialau a sgriniau.

Cyfleusterau Peirianneg Drydanol ac Electronig

Fel myfyriwr sy’n astudio ar ein rhaglenni peirianneg drydanol ac electronig cewch fynediad at nifer o gyfleusterau arbenigol yn cynnwys dau labordy â meddalwedd arbenigol megis Proteus VSM, Factory IO a Virtual Instrument gan LJ Create. 

Labordy Electroneg  

Mae dyn yn plygio cebl i mewn i Digiac, uned hyfforddi electroneg.

Labordy Seiberddiogelwch 

Two smiling men stand next to a server; one holds a MacBook; the other holds a yellow cable attached to the server.

Labordy Cyfrifiaduron  

Mae dynes yn defnyddio Proteus VSM: mae’n edrych ar graff llinell ar fonitor; wrth ochr y monitor mae tair uned lwyd sydd â bylau, ceblau, deialau a sgriniau.

Oriel Gyfleusterau 

Myfyrwyr yn eistedd mewn ystafell gyfrifiaduron yn edrych tuag at y camera.
Oriel Gyfleusterau 

Bywyd ar y Campws

four students on beach playing in shallow water

Bywyd Campws Abertawe

Archwiliwch y cyfleusterau trawiadol sydd ar gampysau Abertawe, sy’n cynnig profiad myfyrwyr deinamig. Mae’r campysau yn cynnwys labordai blaengar, gweithdai celf a dylunio arbenigol, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgelloedd cynhwysfawr yn llawn casgliadau digidol a chorfforol helaeth. Mae myfyrwyr yn elwa o feysydd pwrpasol ar gyfer celf, peirianneg, adeiladu a labordai seicoleg. Mae’r ystafelloedd trochi, sydd ar gael i bob myfyriwr gan gynnwys rhai Plismona, yn darparu profiadau dysgu unigryw. Yn ogystal, mae mannau cymdeithasol bywiog, caffis, a hwb Undeb y Myfyrwyr gweithredol yn meithrin awyrgylch cymunedol bywiog ar gyfer datblygiad academaidd a phersonol.