Skip page header and navigation

Cymryd Rhan

Os ydych chi’n fyfyriwr sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn prosiectau cynaliadwyedd, neu efallai eich bod am wneud y byd ychydig yn fwy gwyrdd, edrychwch ar yr holl gyfleoedd y gallwch fynd i’r afael â nhw isod!

Dechrau’r sgwrs yw hyn ac, os hoffech gymryd rhan fel pencampwr myfyrwyr neu staff, e-bostiwch sustainability@pcydds.ac.uk  a chadw llygad ar y dudalen hon lle bydd diweddariadau rheolaidd ynglŷn â gwirfoddoli a sut y gallwch ein helpu ni i wneud y Brifysgol a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn fwy cynaliadwy. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth.

Interniaethau INSPIRE

Ar gyfer myfyrwyr Israddedig sy’n astudio ar draws campysau Abertawe, Caerfyrddin a Llambed, mae Interniaethau INSPIRE ar gael i fyfyrwyr i weithio mewn partneriaeth gydag Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol ar brosiectau perthnasol i hybu byw’n gynaliadwy. Mae’r rhain yn interniaethau â thâl sydd wedi’u cynllunio i weithio o amgylch eich astudiaethau tra’n cefnogi eich dysgu a’ch angerdd am gynaliadwyedd.

Mae prosiectau allweddol yn y gorffennol wedi cynnwys Wythnos Byddwch Wyrdd, prosiect Plannu Bach, ymchwil i’r hyn y mae cynaliadwyedd yn ei olygu i fyfyrwyr, rhandiroedd ar y campws, a mwy! Cewch eich cefnogi’n llawn gan Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol, gydag arweiniad gan uwch staff y brifysgol yn cynnwys Profostiaid campysau Abertawe, Llambed a Chaerfyrddin.

Gallwch ddarganfod mwy am yr hyn y mae Interniaid INSPIRE wedi bod yn ei wneud trwy edrych ar y dolenni isod:

Mae Interniaid INSPIRE yn cael eu recriwtio bob blwyddyn, felly cadwch lygad ar wefan Undeb y Myfyrwyr am ragor o fanylion! Os hoffech gael gwybod rhagor, e-bostiwch Union@uwtsd.ac.uk.

  • Mae lotments tu allan i lety myfyrwyr ar Gampws Llambed sy’n cynnig cyfle i fyfyrwyr dyfu perlysiau a llysiau o hadau gan hefyd leihau taith ac ôl-troed carbon bwyd.

  • Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig llu o gyfleoedd i chi gymryd rhan, o gymdeithasau i wirfoddoli!

  • Mae swyddi ar gael drwy etholiad ar gyfer Swyddogion Cynaliadwyedd (yn Abertawe, Llambed a Chaerfyrddin), lle cewch sedd ar Gyngor y Campws a chyfle i redeg ymgyrchoedd a gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol i sicrhau bod arfer cynaliadwy yn cael lle blaenllaw yn yr hyn a wnawn!

    Cynhelir etholiadau yn y Gwanwyn a’r Hydref, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael yma, neu e-bostiwch Election@uwtsd.ac.uk i gael gwybod mwy.

  • Mae PCYDDS yn cynnig cyfle i staff ym mhob adran i yrru gwelliannau o ran cynaliadwyedd ac ailgylchu ar draws y safle. Gan weithredu fel cydwybod amgylcheddol adrannau a hyrwyddo arferion cynaliadwy ar y campws.

  • Mae cymdeithasau cynaliadwyedd ar gael y gallwch ymuno â nhw, ond os ydych chi eisiau dechrau un mewn rhyw faes penodol, neu os nad oes un ar eich campws chi, gallwch ddechrau eich cymdeithas eich hun i gael myfyrwyr eraill i gymryd rhan! Darllenwch ragor am gymdeithasau yma ar wefan Undeb y Myfyrwyr, neu cysylltwch â’ch Cydlynydd Cyfleoedd Myfyrwyr ar gyfer eich Campws.

  • A oes gennych syniad sut i wneud eich profiad myfyrwyr yn fwy cynaliadwy? Beth am gyflwyno Syniad Mawr?!

    Gall unrhyw fyfyriwr gyflwyno syniad, a fydd wedyn yn mynd trwy Gyngor y Campws a Chyngor yr Undeb i bleidleisio arno fel polisi! Gall hyn roi mandad i’ch Swyddogion Etholedig lobïo am newid, neu i redeg ymgyrch! Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Syniadau Mawr, gallwch edrych ar y wefan yma neu e-bostio’r Tîm Llais Myfyrwyr ar StudentVoice@uwtsd.ac.uk.

  • Ydych chi am i’ch traethawd hir wneud gwahaniaeth? Mae cynllun Traethodau Hir er Lles gan UCM yn rhoi cyfle i chi gwblhau traethawd hir mewn cydweithrediad â sefydliad anacademaidd, sy’n golygu y gallai eich prosiect gyfrannu at faes ymchwil arloesol!

    Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chofrestru ar wefan NUS For Good.

  • Mae PCYDDS wedi cyflawni statws Cyfaill Gwenyn sy’n rhan o gynllun cenedlaethol arloesol sydd wedi’i gydlynu i wneud Cymru yn fwy cyfeillgar i bryfed peillio. Ar ein campws ni rydym wedi bod yn datblygu dolydd blodau gwyllt, sypiau cynefin pren a thywod ac wedi lleihau ein defnydd o blaladdwyr trwy ddewis chwynnu a strimio â llaw.

    Cymerwch ran drwy wirfoddoli i blannu blodau, ewch am dro trwy un o’n campysau ar ‘Daith Cerdded Llesiant’ i weld ein cynefinoedd pryfed peillio. neu rhowch gynnig ar arddio un o’r lotments ar y safle.

  • Wyddoch chi fod dirywiad mawr wedi bod ym mhoblogaeth draenogod ers y 1950au gyda dirywiad cyffredinol yn y boblogaeth o 97%. Ers 2000, mae eu poblogaeth wedi dirywio o 50% mewn ardaloedd gwledig a 30% mewn ardaloedd dinesig. Mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd gweithredu cynlluniau i ddiogelu cynefin a hyrwyddo mannau diogel i’r draenogod yn ein campysau gwledig a dinesig.

    Cofrestrodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn yr ymgyrch Campws Cyfeillgar i Ddraenogod yn 2022 i helpu i warchod dyfodol hoff famal tir y DU. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi:

    • cynnal arolygon draenogod a ddaeth o hyd i ddraenogod ar gampysau Llambed a Chaerfyrddin
    • casglu sbwriel
    • cael y tîm tiroedd i ddilyn hyfforddiant diogel i ddraenogod
    • arolygu iechyd ein gwrychoedd 
    • gosod tai draenogod i ddarparu safleoedd gaeafgysgu a bridio diogel.

    Roedd 2022 yn flwyddyn hanesyddol i ddraenogod gan fod poblogaethau wedi sefydlogi am y tro cyntaf mewn degawdau. Amlyga hyn fod gweithredu lleol ar raddfa fach sy’n digwydd ledled y DU fel rhan o’r Ymgyrch Campws Cyfeillgar i Ddraenogod a Chymdeithas Gwarchod Draenogod Prydain yn creu newid byd go iawn ar lefel genedlaethol. Os hoffech gymryd rhan yn yr Ymgyrch Campws Cyfeillgar i Ddraenogod ar unrhyw un o’n campysau, anfonwch e-bost at sustainability+hog@uwtsd.ac.uk

Rhoi’n ôl

Mae gwirfoddoli gyda sefydliad lleol yn gyfle gwych i roi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned, gwella eich cymuned leol, cwrdd â phobl o’r un anian a chael profiad gwerthfawr sy’n edrych yn wych ar eich CV!

Isod ceir rhai dolenni i’ch rhoi ar ben ffordd, ond mae cyfoeth o gyfleoedd allan yno i chi gymryd rhan felly cymerwch olwg!

Cymru

Sefydliad Disgrifiad
Gwirfoddolwyr Cadwraeth Caerdydd Ymunwch â Gwirfoddolwyr Cadwraeth Caerdydd wrth iddynt fynd o gwmpas y lle yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gefn gwlad!
Sgiliau a Gwirfoddoli Cymru Ar gyfer yr holl brosiectau gwirfoddoli yn Ne Cymru, gan gynnwys cyfleoedd cynaliadwy ac amgylcheddol yng Nghaerdydd.
Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru Ar y wefan hon cewch wybodaeth am waith Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru gan gynnwys: camau gweithredu ac amcanion cenedlaethol a lleol; newyddion a digwyddiadau yn ymwneud â bioamrywiaeth; a sut gallwch chi helpu bioamrywiaeth.
Cadwch Gymru’n Daclus Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gweithio ar draws Cymru i warchod ein hamgylchedd. Maent yn darparu cyfleoedd gwirfoddoli sy’n rhoi cyfle i chi weithredu a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eich cymuned.
Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS) Mae CAVS yn cefnogi gwaith gwirfoddol ar draws Sir Gaerfyrddin ac mae ganddynt restr o gyfleoedd cyfredol ar eu gwefan.
Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (SCVS) Edrychwch ar wefan SCVS am gyfleoedd gwirfoddoli lleol yn Abertawe.
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) Gallwch ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli lleol yng Ngheredigion ar wefan CAVO.
Gwirfoddoli Cymru Mae Gwirfoddoli Cymru yn gyfeiriadur o gyfleoedd gwirfoddoli ledled Cymru.

Lloegr

Sefydliad Disgrifiad
Eco Birmingham Mae Eco Birmingham yn edrych ar gynaliadwyedd yn gyfannol ac yn gallu darparu cyfleoedd gwirfoddoli cyffrous i fyfyrwyr i dyfu a datblygu mewn amrywiaeth o feysydd. Cysylltwch â nhw i gael gwybod rhagor!
Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Birmingham Ar gyfer yr holl gyfleoedd gwirfoddoli yn Birmingham.
Gwirfoddolwyr Cadwraeth (TCV) Gwirfoddolwch i gefnogi mannau gwyrdd Llundain ar draws y ddinas. O sgiliau adeiladu a chwrdd â phobl newydd, mae gan TCV doreth o gyfleoedd.
Thames 21 Mae Thames 21 yn edrych i wella afonydd a chamlesi Llundain drwy weithio gyda chymunedau. Os oes gennych ychydig o amser i’w cefnogi nhw a’u cenhadaeth i lanhau’r dyfrffyrdd, cysylltwch â nhw!