Skip page header and navigation

Cyngor y Brifysgol

Cyfleoedd ar gyfer aelodau annibynnol newydd y Cyngor

Mae gan Gyngor PCYDDS swyddi gwag ar gyfer aelodau annibynnol newydd yn rheolaidd, ac felly hefyd Gyngor Prifysgol Cymru a Bwrdd Coleg Sir Gâr. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwasanaethu fel aelod annibynnol, naill ai ar unwaith neu yn y ddwy i dair blynedd nesaf, yna byddem yn hoffi clywed gennych.

Ceir rhagor o wybodaeth am y sgiliau a’r profiad rydym yn chwilio amdanynt yn y Disgrifiad Rôl ar gyfer Aelodau Annibynnol. Ar hyn o bryd mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ceisiadau gan rai sydd â chefndir proffesiynol ym maes addysg uwch, yn enwedig sicrhau ansawdd addysg uwch a/neu addysg uwch ryngwladol; a phensiynau.

Time commitment

Ymrwymiad o ran amser

Penodir aelodau annibynnol fel arfer am gyfnod o bedair blynedd y gellir ei adnewyddu am bedair blynedd arall. Bydd yr ymrwymiad gofynnol o ran amser yn amrywio, ond amcangyfrifir y bydd yn rhyw 8-15 diwrnod y flwyddyn i fynychu a pharatoi ar gyfer cyfarfodydd a mynychu digwyddiadau eraill.

Tâl

Nid yw aelodau’r Cyngor yn cael tâl am ymgymryd â’u dyletswyddau ond bydd y Brifysgol yn talu treuliau rhesymol sy’n codi tra byddant ar fusnes y Brifysgol.

Annibyniaeth a chymhwystra

Mae’r Cyngor yn arddel diffiniad o annibyniaeth sydd wedi’i gytuno gan y sector. Mae’n annhebygol o benodi unigolyn sydd, yn y blynyddoedd diwethaf, wedi bod yn weithiwr i’r Brifysgol neu un o’i is-gwmnïau; sydd wedi cael perthynas fusnes faterol gyda’r Brifysgol; neu sydd â chysylltiadau teuluol neu broffesiynol agos gyda aelod o’r Brifysgol. O dan reolau’r Comisiwn Elusennol, mae rhai amgylchiadau’n atal penodi unigolyn yn ymddiriedolwr. Caiff yr amgylchiadau hyn eu gwirio gan y Brifysgol cyn penodi. Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan y Llywodraeth.

Cyfle Cyfartal  

Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd dysgu a gweithio cynhwysol a chefnogol lle gall yr holl staff a myfyrwyr ffynnu a chyflawni eu potensial personol. Mae’n gweithio’n ddiwyd ar ddileu rhwystrau rhag cyfranogi ac yn cefnogi pobl o bob cefndir ac amgylchiad i gyflawni eu potensial. Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth y Cyngor ac i sicrhau aelodaeth sy’n adlewyrchu proffil y sefydliad a’i fyfyrwyr. Croesawn geisiadau gan ymgeiswyr o bob oedran a chefndir. Rydym yn treialu ffyrdd newydd o weithio er mwyn annog ceisiadau gan y sawl sy’n gweithio neu sydd ag ymrwymiadau teuluol. Anogwn yn arbennig geisiadau gan unigolion o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, gan ein bod yn cydnabod eu bod ar hyn o bryd heb gynrychiolaeth ddigonol ar y Cyngor.

Sut i wneud cais

I wneud cais am le ar Gyngor PCYDDS neu Gyngor Prifysgol Cymru, cyflwynwch lythyr eglurhaol byr yn esbonio pam mae’r penodiad hwn o ddiddordeb i chi, beth fyddech chi’n ei gyflwyno i’r rôl a sut yr ydych yn bodloni’r meini prawf sydd wedi’u rhestru ym manyleb yr unigolyn. Yn ogystal cyflwynwch eich curriculum vitae (CV) yn manylu eich profiad perthnasol. Nodwch hefyd enwau a manylion cyswllt dau ganolwr, y cysylltir â nhw gyda’ch caniatâd chi yn unig. Dylid anfon eich dogfennau drwy e-bost i governance@uwtsd.ac.uk.

I gael trafodaeth anffurfiol cyn gwneud cais, cysylltwch â Chlerc y Cyngor ar 

I fynegi diddordeb mewn swydd yng Ngholeg Sir Gâr, cysylltwch â’r Clerc ac Ysgrifennydd y Cwmni.