Skip page header and navigation

Llongyfarchiadau i Michael Thomas, sydd wedi graddio gyda gradd BA (Anrh) mewn Gweinyddiaeth Busnes Rhyngwladol dosbarth cyntaf o PCYDDS Birmingham, gan nodi pennod arwyddocaol arall yn ei daith dysgu a’i yrfa. 

A smiling and proud Michael Thomas dressed in his cap and gown at his graduation ceremony.

Gyda brwdfrydedd dros gefnogi pobl ifanc, mae Michael yn uwch arweinydd gofal bugeiliol, yn gweithio gyda myfyrwyr rhwng 11-16, a dywed mai’r Brifysgol sydd wedi rhoi iddo’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon ac eraill. Hefyd, mae’n fentor myfyrwyr yn y Brifysgol ac mae wedi lansio busnes hyfforddi a mentora.

Meddai: Mae fy rôl fel uwch arweinydd gofal bugeiliol yn eithriadol o fuddiol. Rwy’n goruchwylio popeth o ymddygiad a phresenoldeb i ddiogelu a materion o ddydd i ddydd. Mae bod yn bwynt cyswllt cyntaf i deuluoedd a gwasanaethau cymdeithasol yn rhan fawr o’r rôl, felly mae cyfathrebu’n effeithiol yn hanfodol.

“Cyn hynny, bues yn gweithio fel tiwtor ESOL/ESL dramor. O 2013 i 2017, roeddwn yn Nhwrci, ac yna o 2017 i 2019, cefais brofiad anhygoel wrth weithio yn Saudi Arabia. Roedd hynny’n amser anhygoel, yn addysgu pob oed a chreu gwersi.”

Dywed Michael fod dychwelyd i addysg yn y DU yn teimlo fel ‘dod adref’.

 “Gwnaeth PCYDDS ddal fy llygad am fod gen i ddiddordeb mawr mewn rheolaeth ac arweinyddiaeth, a hoffwn ddechrau rôl arweinyddiaeth mewn sefydliad addysg. Rwy’n edrych ymlaen at gyfuno fy mhrofiad gyda gwybodaeth ffres a dal ati i gael effaith bositif ar fywydau ifanc ac eraill sy’n dymuno cyrraedd eu potensial mewn bywyd.

 “Mae’r tân yma wedi bod yn llosgi ynof i erioed – mae gen i awydd i wneud gwahaniaeth go iawn, nid dim ond tywys, ond grymuso eraill. Roedd y cwrs hwn yn teimlo fel y catalydd perffaith.

 “Rwy’n ddigon onest i gyfaddef bod arna’i eisiau cymryd fy ngyrfa i uchelfannau newydd. Roedd y rhaglen hon yn cynnig sylfaen cadarn  i mi ddod yn arweinydd hyderus, llwyddiannus. Ond nid dim ond dringo’r ysgol gorfforaethol yw’r nod. Mae cael y cyfle i ddatblygu sgiliau i lansio fy musnes fy hun yn eithriadol o gyffrous.

“Nid dim ond teitl yw Arweinyddiaeth a Rheolaeth; mae’n ymwneud â chyflawni goliau, bach a mawr. Mae’r cwrs hwn yn cyd-fynd yn berffaith â’m huchelgais, ymroddiad, ac awydd i wneud gwahaniaeth positif. Rwy’n barod i ddysgu, tyfu a datblygu i fod yr arweinydd rwy’n gwybod y gallaf fod.”

Dywedodd Michael fod y cwrs wedi cynnig “cyfuniad hudolus o dwf personol a phroffesiynol.”

Meddai: “Ar un llaw, mae’n cloddio i bynciau diddorol, gan roi i mi’r sgiliau a’r wybodaeth i ffynnu yn fy ngyrfa. Mae archwilio’r syniadau hyn wedi rhoi boddhad aruthrol i mi. Ond yr uchafbwynt go iawn, i mi, yw cymuned gefnogol PCYDDS. O ddarlithwyr sy’n frwd am lwyddiant myfyrwyr i gyd-fyfyrwyr sy’n cael eu gyrru gan uchelgais, yma, mae cysylltiadau’n blodeuo. Mae’r ffrindiau a wneir yma yn fwy na dim ond cyfoedion; maent yn eich ysbrydoli ac yn eich atgoffa bod newid, a llwyddiant, yn bosibl i bawb.”

Dywedodd Michael fod rhannu straeon gyda myfyrwyr o wahanol gefndiroedd wedi bod yn fraint. 

 “Mae clywed eu teithiau ac uchelgeisiau wedi cadarnhau fy nghred bod unrhyw beth yn gyraeddadwy, gydag ymroddiad. Nid dim ond gwerslyfrau a darlithoedd sy’n bwysig ar y rhaglen hon; mae’n rhoi i chi rwydwaith cefnogol sy’n eich grymuso i fod y fersiwn gorau posibl ohonoch chi eich hun.”

Dywed Michael fod PCYDDS wedi bod yn allweddol yn ei ddatblygiad. Yn ddiweddar, cwblhaodd gwrs dechrau busnes chwe wythnos ac ar hyn o bryd mae’n gwneud cais am nawdd ar gyfer digwyddiad sy’n ffocysu ar fyfyrwyr trwy’r brifysgol. 

 “Mae’n destament i ymrwymiad y Brifysgol i feithrin ysbryd entrepreneuraidd,” ychwanegodd.

Ond bu rhai heriau yn ystod ei amser yn PCYDDS hefyd.

 “Fy her fwyaf oedd cael diagnosis o ganser y brostad wrth i mi ddechrau’r cwrs Lefel 4 Sgiliau yn y Gweithle. Gorbryder, tristwch, dicter – roedd y siwrnai emosiynol yn real. Ond yng nghanol yr ofn a’r ansicrwydd, fe ddes o hyd i gryfder,” meddai

 “Roedd cysylltu ag elusen canser y brostad yn drobwynt. Gwnaeth eu cefnogaeth, eu caredigrwydd, achub fy mywyd. Nawr, yn ddi-ganser, rwy’n gwirfoddoli awr yr wythnos, i rannu fy stori a chynnig gobaith i eraill.

 “Yn 2021, gwnes i hyd yn oed cyflwyno sgwrs fyw yn y Blue Orange Theatre ym Mirmingham! Roedd adrodd fy stori o flaen 150 o bobl yn teimlo’n bwerus. Roedd yn destament i’r gwydnwch y des o hyd iddo ynof fi fy hun.

“Gwnaeth y frwydr hon adeiladu cymeriad, ymrwymiad a ffocws dygn. Dangosodd i mi fod unrhyw beth yn bosibl gyda hunangred a chael pobl bositif, flaengar o’ch cwmpas. Dyna fy neges i bob myfyriwr aeddfed: mae addysg yn eich grymuso. Gallwch wneud hyn, a gallaf innau hefyd.

 “Rwy’n frwdfrydig am y posibiliadau o’m blaen! Bellach, rwyf wedi dechrau MBA mewn Gweinyddu Busnes Rhyngwladol sydd wedi rhoi i mi sgiliau a gwybodaeth yn barod i ddilyn amrywiaeth o lwybrau cyffrous.”

Yn y dyfodol agos, dywed Michael ei fod yn mireinio ei CV ac yn archwilio cyfleoedd gwaith sy’n defnyddio ei arbenigedd newydd. 

 “Mae maes mentor academaidd o fewn addysg uwch yn fy niddori, am ei fod yn caniatáu i mi gyfuno fy mrwdfrydedd am ddysgu gyda thywys cenedlaethau’r dyfodol.

 “Ond mae fy ysbryd entrepreneuraidd yn llosgi’n danbaid hefyd! Mae lansio fy musnes yn 2025 yn nod cadarn rwy’n anelu ato’n weithredol. Mae’r MBA wedi rhoi’r map i mi, ac rwy’n benderfynol o’i wneud yn llwyddiant.

 “Yn yr hirdymor, mae PhD yn galw. Mae’n cynrychioli carreg filltir bersonol, yn destament i’m hymroddiad i dyfu a chyflawni.

 “Nid yw’r daith hon yn llinol; mae’n archwiliad strategol. P’un a fyddaf yn dewis mynd i mewn i’r gweithlu, adeiladu fy musnes, neu ddilyn astudiaethau pellach, rwy’n hyderus bod fy MBA wedi fy rhoi mewn sefyllfa dda i lwyddo. Rwy’n gyffrous i weld beth a fydd yn digwydd yn y dyfodol!” 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon