Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr BMus Perfformio Lleisiol Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru (WAVDA) y Brifysgol yn paratoi i hedfan i Ddinas Emrallt.

Bmus crew rehearsing in their costumes

Gan weithio gyda’r cyfarwyddwr proffesiynol, Sarah Crisp, byddant yn cludo cynulleidfaoedd i fyd lle mae amser fel petai’n aros yn llonydd. Trwy gyfres o ganeuon ac ensembles swynol a dynnwyd o fydoedd opera, theatr gerddorol, a ffilm, bydd y myfyrwyr BMus Perfformio Lleisiol yn adrodd straeon sy’n taro deuddeg gyda chynulleidfaoedd o bob oed.

Maen nhw’n mynd â’r perfformiad llawn hwyl hwn ar daith i ysgolion ledled Cymru, gan gynnwys Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt, Ysgol Maelor a Choleg Sir Benfro. Ceir gweithdai yn seiliedig ar y cynhyrchiad hefyd, sydd wedi’u hanelu at grwpiau oedran gwahanol yn yr ysgolion. Mae’r gweithdai wedi’u cynllunio gyda’r gobaith o ennyn diddordeb myfyrwyr mewn canu a’u cyflwyno i ystod o arddulliau cerddorol gwahanol ym maes perfformio.

Dywedodd Sarah Crisp, Cyfarwyddwr: 

Roeddwn am gysylltu’r darnau cerddorol amrywiol gyda naratif llac, er mwyn i’r myfyrwyr allu archwilio datblygu cymeriadau a chreu eu harc ddramatig eu hunain o fewn y darn. Rydw i wedi dwli ar weithio mewn ffordd gydweithredol, gyda myfyrwyr yn cyfrannu at syniadau ar gyfer gwisgoedd, coreograffi, propiau a gosodiad y set. Weithiau mae’n bosibl mynd ar daith heb fod eich traed fyth yn gadael y ddaear.”

Meddai Sinead D’Abreu-Hayling, Myfyriwr BMus Lefel 6: 

“Mae’r prosiect hwn wedi fy ymestyn yn gerddorol yn fawr. Nid dim ond canu ariâu opera yr wyf yn gyfarwydd â nhw yr ydw i, ond amrywiaeth o genres. Mae hi wedi bod yn heriol, ond hefyd wedi cyfoethogi fy mhrofiad canu’n fawr. Bydd bod yn rhan o’r prosiect hwn hefyd o gymorth i mi pan fyddaf yn mynd ymlaen i wneud fy ngradd meistr mewn perfformio, oherwydd mae wedi rhoi imi’r sgiliau sydd eu hangen arnaf i wneud cynnydd yn fy ngyrfa.” 

Ychwanegodd David Bebbington, Cyfarwyddwr yr Academi:

 “Mae’r prosiect hwn wedi dwyn ynghyd yr holl ddysgu o 3 blynedd ddiwethaf y radd BMus Perfformio Lleisiol i’n myfyrwyr, gan greu cyfleoedd i weithio mewn cyd-destunau amrywiol, gan gynnwys perfformio a chyflwyno gweithdai, yn ogystal â rheoli llwyfan a’r celfyddydau. Mae’r rhain i gyd yn elfennau y maent yn debygol o ddod ar eu traws yn eu gyrfaoedd proffesiynol. Rydym yn ffodus o gael Sarah Crisp gyda ni ar y prosiect oherwydd mae hi’n dod â phrofiad proffesiynol helaeth yn Gyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Cynorthwyol yn Opera Cenedlaethol Cymru ac Opera North gyda hi. Byddaf innau hefyd ar daith gyda’r cynhyrchiad hwn fel cyfarwyddwr cerddorol, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ei weld trwy ein perfformiadau yn Sir Benfro, Abertawe, Wrecsam, a Sir y Fflint.” 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau