Skip page header and navigation

Mae Melanie Rowland, Eiriolwr ymroddedig dros addysg gynhwysol yn graddio’n falch gyda Meistr yn y Celfyddydau mewn Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Mae’r cyflawniad hwn yn nodi carreg filltir yn ymrwymiad parhaus Melanie i feithrin cynwysoldeb a chymorth o fewn amgylcheddau addysgol.

A photo of Melanie Rowland in her cap and gown

Ar ôl cwblhau Gradd Sylfaen a Baglor yn y Celfyddydau mewn Addysg Gynhwysol drwy raglen gymunedol PCYDDS yng Ngil-maen, Sir Benfro, ysbrydolwyd Melanie i barhau gyda’i hastudiaethau. Dywedodd:

“Wrth ennill Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn fy BA a chael fy nenu at ddadansoddiad cynhwysfawr y cwrs MA, teimlais awydd cryf i barhau ar fy siwrnai academaidd gyda PCYDDS.” 

Llwyddodd Melanie i ennill Gwobr Eiriolaeth, Cymdeithaseg, Cyfiawnder Cymdeithasol a Chynhwysiant yn seremoni graddio’r Brifysgol eleni.

Roedd PCYDDS yn ddewis amlwg i astudiaethau ôl-radd Melanie. Ychwanegodd: 

Dangosodd y ffordd y cafodd y BA ei chyflwyno i mi, ba mor hyblyg a rhagweithiol oedd y tîm wrth sicrhau bod y cyrsiau’n wirioneddol hygyrch a chynhwysol.” 

Canmolodd awyrgylch teuluol y brifysgol, a oedd yn gwneud iddi deimlo’n gartrefol ac wedi’i chefnogi drwy ei thaith academaidd.

Mae’r cwrs MA mewn Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas wedi cael effaith ddwys ar yrfa Melanie. Yn y tymor byr, mae wedi dilysu ei hymarfer, hybu ei hyder ac wedi’i hysbrydoli i archwilio ffyrdd newydd o gefnogi pobl ifanc. Gan edrych i’r dyfodol, mae Melanie yn bwriadu rhannu ei gwybodaeth gyda chydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill, yn ogystal, mae hi’n datblygu gyrfa mewn ysgrifennu stori therapiwtig - llwybr y mae’n ei briodoli i’r profiad, yr hyder a’r wybodaeth y mae wedi’u cael yn ei hastudiaethau.

Nid oedd taith Melanie heb ei heriau. Ar ôl cwblhau ei blwyddyn gyntaf, roedd ei mab mewn damwain car difrifol gan arwain at gyfnod o anhawster aruthrol i’w theulu. Roedd y trawma personol hwn yn ei gwneud yn ofynnol iddi gymryd amser i ffwrdd o’i gwaith a’i hastudiaethau. Er gwaethaf yr heriau hyn, roedd y cymorth o staff PCYDDS a hyblygrwydd y brifysgol wedi caniatáu iddi barhau a chwblhau ei thraethawd hir ar y Dull sy’n Ystyriol o Drawma mewn addysg yn dilyn y pandemig Covid.

Wrth fyfyrio ar y cwrs, disgrifiodd Melanie ef fel:

“cwrs sydd wedi’i ddatblygu’n dda ac wedi’i gyflwyno’n arbennig o dda.”

Roedd y cyfuniad o fodiwlau a addysgir ac astudiaethau annibynnol ochr yn ochr â’r rhyddid i ddewis maes a oedd yn berthnasol i’w gwaith wedi apelio’n fawr at Melanie. Mynegodd werthfawrogiad dwfn am y darlithwyr gwybodus, cynhwysol a rhagweithiol yn ogystal â’r cymorth amhrisiadwy gan Wasanaethau Myfyrwyr.

Mae Melanie sy’n gweithio mewn ysgol i blant gydag anghenion dysgu ychwanegol yn cynllunio i barhau â’r gwaith, yn ogystal ag ehangu ei chyflwyniadau o straeon therapiwtig i gefnogi pobl ifanc, eu rhieni a’u haddysgwyr.  Mae ei sgiliau uwch mewn rheoli amser, ymchwil a’i dealltwriaeth ddyfnach o’i rôl yn y byd yn briodoleddau mae hi’n eu defnyddio yn ei bywyd proffesiynol a phersonol.

Dywedodd yr Athro Cyswllt Caroline Lohmann – Hancock, Rheolwr Rhaglen PCYDDS: MA Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas: 

“Mae Melanie wedi wynebu materion heriol iawn yn ystod ei hastudiaethau. Fodd bynnag, roedd hi’n benderfynol o gwblhau ei hastudiaethau, er gwaethaf yr heriau, gan ei bod yn dymuno gwella bywydau plant drwy ei Thraethawd hir:

How Does it Heal?

Isolation and Re-engaging in Education the Role of Trauma Related Practice in a Post-Pandemic Britain

Rydym yn llongyfarch Melanie ar ei gwobr haeddiannol iawn.”

Mae Melanie yn argymell PCYDDS yn uchel am ei hymarfer cefnogol a thosturiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae’n ychwanegu:

 “Yr amgylchedd cefnogol hwn sydd wedi fy argyhoeddi i barhau â’m hastudiaethau yma,” 

Am fwy o wybodaeth am y MA mewn Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas, ewch i:Equity and Diversity in Society | University of Wales Trinity Saint David (uwtsd.ac.uk) 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon