Skip page header and navigation

Mae Nathaniel Fullylove yn graddio heddiw o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Peirianneg Chwaraeon Moduro, ar ôl dilyn ei angerdd gydol oes am chwaraeon moduro a breuddwyd i weithio yn Fformiwla 1.

A proud and smiling graduate wearing his cap and gown.

Dywed Nathaniel, a oedd yn rhan o dîm rasio’r Brifysgol yn ei ail flwyddyn, fod ei amser yn PCYDDS wedi’i nodi gan brofiadau unigryw a hyfforddiant arbenigol sydd wedi ei baratoi ar gyfer gyrfa addawol ym myd cystadleuol peirianneg chwaraeon moduro.

Dywedodd: “Mae gen i gariad at chwaraeon moduro, yn benodol Fformiwla 1. Fe wnaeth hyn ac angerdd dros ddylunio a chynhyrchu pethau yn mynd yn ôl i’r ysgol uwchradd mewn Technoleg Dylunio fy nenu at radd mewn peirianneg chwaraeon moduro, yn benodol yn PCYDDS ac yn rhan fawr o’r hyn tynnodd fi i PCYDDS oedd y cyfle i fod yn rhan o’r tîm rasio.”

Drwy gydol ei radd, prif nod Nathaniel oedd ennill y wybodaeth a’r profiad angenrheidiol i sicrhau swydd yn y sector peirianneg, gyda ffocws penodol ar Fformiwla 1. 

“Roedd uchafbwyntiau’r cwrs i mi yn cynnwys treulio dwy flynedd yn gweithio gyda thîm rasio’r brifysgol yn cael dealltwriaeth a phrofiad o sut mae tîm rasio go iawn yn gweithio,” meddai.

“Yn ogystal, gweld aelodau profiadol o’r maes peirianneg ac yn benodol Fformiwla 1 yn rhoi darlithoedd gwadd. Croesawais hefyd y cyfle i ddysgu sut i ddefnyddio Atlas - meddalwedd dadansoddi data a ddefnyddir yn eang yn Fformiwla 1.”

Nid oedd cyfnod Nathaniel yn PCYDDS heb ei herio, ar ôl wynebu cyfnod o ddiffyg cymhelliant.  Fodd bynnag, dywedodd fod y gefnogaeth gan PCYDDS, yn enwedig gan y darlithydd Tim Tudor, wedi chwarae rhan hanfodol yn ei helpu i adennill ei hyder a chwblhau ei radd yn llwyddiannus.

Dywed Nathaniel Fullylove ei fod nawr yn edrych am yrfa broffesiynol mewn peirianneg chwaraeon moduro a hefyd am ymgymryd â gradd meistr i ddyfnhau ei arbenigedd ymhellach. 

“Mae fy mhrofiadau yn PCYDDS, yn enwedig fy ymwneud â’r tîm rasio a hyfforddiant arbenigol, wedi fy arfogi’n unigryw ar gyfer gofynion y diwydiant chwaraeon moduro,” ychwanegodd.

“Mae’r cyfuniad o brofiad tîm rasio ymarferol a hyfforddiant academaidd cynhwysfawr yn gosod y rhaglen hon ar wahân i raglenni eraill ac yn rhoi i fyfyrwyr y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i ragori yn y diwydiant chwaraeon moduro.”

Meddai Tim Tudor: ‘Fel Rheolwr Rhaglen Nathaniel, rwyf wedi cael y fraint o weld ei ymroddiad a’i angerdd dros beirianneg chwaraeon moduro yn uniongyrchol. Mae profiad ymarferol Nathaniel gyda’n tîm rasio mewn digwyddiadau cenedlaethol ledled y DU, ynghyd â’r addysg sy’n canolbwyntio ar chwaraeon moduro y mae wedi’i hennill yn PCYDDS, wedi rhoi iddo’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn Fformiwla 1. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yn gwneud yn dda ym maes peirianneg chwaraeon moduro a chyflawni llwyddiant mawr yn ei ymdrechion proffesiynol.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon