Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr o Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen at berfformio ‘Jekyll and Hyde’ yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd.

Poster of the Jekyll & Hyde Production

Gwyddonydd caredig, uchel ei barch a deallus yw Dr Jekyll. Ond mae gan bob un ohonom ochr dywyll, onid oes? 

Ymunwch â myfyrwyr Theatr Gerddorol WAVDA yn Theatr y Sherman ar 13 a 14 Mehefin wrth i’r cyfarwyddwr Kevin McCurdy addasu’r clasur hwn ac ymchwilio i wedd ddeublyg y natur ddynol a’r hyn sy’n digwydd pan fyddwn ni’n ymyrryd ag ochr dywyllaf gwyddoniaeth. Yn cynnwys sgôr gwefreiddiol o ganeuon roc pop gan enillydd nifer o wobrau Grammy ac enwebydd Tony, Frank Wildhorn ac enillydd dwy wobr Oscar ac enillydd Grammy Leslie Bricusse, mae Jekyll & Hyde wedi hudo cynulleidfaoedd ledled y byd.

Un o’r myfyrwyr fydd yn perfformio fydd Holly Grace Collins, meddai: 

“Mae ymgymryd â rôl Hyde wedi bod yn ganfyddiad a phrofiad trawsnewidiol. Fe wnaeth portreadu cymeriad mor gymhleth a thywyll fy ngwthio ymhell y tu hwnt i’m parth cysur, gan fynnu dyfnder o ddwyster emosiynol a chorfforol nad oeddwn i erioed wedi’i archwilio o’r blaen. Drwy gydol y daith hon, rwy wedi mwynhau pob eiliad o’r broses ymarfer, a wnaed yn llawer haws ac yn fwy pleserus diolch i gymorth ac amynedd fy nghyd-aelodau o’r cast. Yn bwysicaf oll, mae’r arweiniad a’r ddealltwriaeth y mae ein cyfarwyddwr Kev McCurdy wedi’u rhoi nid yn unig i mi fy hun ond i’r cwmni cyfan wedi bod yn amhrisiadwy, gan roi’r hyder a’r offer y mae eu hangen arnaf i ddod â Hyde yn fyw ar y llwyfan. Mae’n anrhydedd i mi fod rhai wedi ymddiried y rôl hon i mi dwi’n methu ag aros i rannu ein holl waith caled â’n cynulleidfaoedd!”

Meddai’r Cyfarwyddwr Kevin McCurdy: 

“Mae’r fersiwn hon o Jekyll a Hyde the Musical yn mynd i fod yn dra gwahanol i’r gwreiddiol.  Felly i ddechrau, mae gennym Jekyll a Hyde sy’n cael eu chwarae gan ddau berfformiwr, mae’r byd yn dywyll, mae’n steampunk, mae’n dreisgar a does dim byd mor llawn ag y mae’n ymddangos… Mae’r cast wedi bod yn anhygoel! Rydyn ni wedi cael llawer o hwyl yn ystod y broses.

“Mae wedi bod yn daith iddyn nhw, dwi wedi eu gwthio nhw mor galed ac mae pawb wedi codi’r her. Mae eu techneg actio mor gadarn, mae perfformiadau wedi tyfu gyda phob ymarfer a dwi mor falch o bawb!

“Fe wnes i’r sioe hon am y tro cyntaf yn Llundain 18 mis yn ôl yn yr Academi Gerdd Frenhinol mewn stiwdio fach… Nawr mae wedi tyfu ar ei chanfed!!

“Diolch i WAVDA am roi’r cyfle i mi uwchraddio’r sioe. Dewch i wylio a chefnogi’r actorion hyfryd hyn yn mynd amdani ar lwyfan. Mae pawb yn wych!”

I archebu tocynnau ar gyfer Jekyll & Hyde, ewch i www.shermantheatre.co.uk neu ffoniwch 029 2064 6900


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon