Skip page header and navigation

Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gyhoeddi cyraeddiadau hynod Susan Hirschson, a gafodd radd Meistr yn ddiweddar, ac sydd wedi ymestyn ei harbenigedd ym maes hyfforddi yn sylweddol, gyda ffocws arbennig ar Theori Gyfannol a chefnogi unigolion â gorbryder.

Susan Hirschson in her cap and gown

Dechreuodd Susan, Datblygwr ac Asesydd i’r Ganolfan Hyfforddi yn Ne Affrica, ar ei thaith gyda’r Brifysgol gyda’r gobaith y byddai’n dyfnhau ei dealltwriaeth o hyfforddi, yn arbennig mewn perthynas â dulliau Theori Gyfannol i gefnogi pobl â gorbryder trwy ymchwil. Mae ei phrofiad yn amlygu grym trawsnewidiol dysgu hunangyfeiriedig a’r cymorth diwyro y mae tîm Arfer Proffesiynol PCYDDS yn ei ddarparu. Meddai: 

“Teimlais y buaswn yn cael fy nghefnogi a’m tywys yn ffurfiol ac yn anffurfiol trwy’r broses hon. Dyma’n wir a ddigwyddodd, ac roedd y tîm yn amyneddgar, yn gefnogol ac yn barod iawn i helpu drwy gydol y broses o’m cynorthwyo i ddeall sut i ymchwilio i’m pwnc yn gywir ac yn drwyadl.”

Trwy gydol ei hastudiaethau, archwiliodd Susan i’r croestoriad rhwng Theori Gyfannol a gofal iechyd meddwl, gan ffocysu ar ddulliau arloesol i gefnogi unigolion sydd â gorbryder. Mae ei hymchwil wedi ehangu ei safbwynt, dyfnhau ei dealltwriaeth, ac atgyfnerthu ei hymrwymiad i arfer ffyrdd newydd o gefnogi pobl trwy hyfforddi. Ychwanega: 

 “Does dim amheuaeth gen i fod cael y dyfarniad MA mewn Hyfforddi a Mentora wedi dyfnhau fy nealltwriaeth o hyfforddi. Yn y dyfodol, fe fydd yn fy nghefnogi wrth i mi rannu’r arferion hyn gyda fy nghydweithwyr, myfyrwyr a chleientiaid.”

Mae profiad Susan yn PCYDDS wedi bod yn drawsnewidiol diolch i arweiniad a chymorth y tîm Arfer Proffesiynol. 

“Roedd fy mhrofiad cyffredinol yn bositif. Derbyniais arweiniad, cymorth a chyngor pryd bynnag roedd arna’i eu hangen. Roedd agwedd amyneddgar, cadarnhaol Sarah Loxdale a Lowri Harris yn hanfodol wrth fy ngalluogi i gwblhau’r astudiaeth hon. Cefais fy annog i ‘obeithio’ bob tro ac ni theimlais ddim un tro fy mod ar fy mhen fy hun.”

Wrth edrych i’r dyfodol, mae Susan yn gyffrous ynglŷn â pharhau gyda’i hymchwil, gan chwilio am ffyrdd arloesol i ymgorffori’r safbwyntiau hyn yn ei harfer. Mae hi’n awyddus i gyfrannu at sgyrsiau ac ymdrechion ymchwil parhaus sydd wedi’u hanelu at ymestyn dealltwriaeth o orbryder a chyfoethogi ymdrechion i gefnogi’r rheiny y mae’n effeithio arnynt.

 “Bu fy nhaith trwy’r traethawd hir hwn yn brofiad trawsnewidiol. Fy ngobaith yw y bydd y mewnwelediadau a gafwyd drwy’r ymchwil hwn yn cyfrannu at y corff o wybodaeth am ddulliau Cyfannol i gefnogi cleientiaid.”

Lleisiodd Sarah Loxdale, Uwch Ddarlithydd yn PCYDDS, ei brwdfrydedd am gyraeddiadau Susan, gan ddweud, “Mae ymroddiad Susan i’w hymchwil a’i hymrwymiad i ddatblygu’r ddealltwriaeth am arferion hyfforddi yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae ei thaith yn dangos potensial trawsnewidiol dysgu hunangyfeiriedig o fewn ein Fframwaith Arfer Proffesiynol.” 

Ategodd Lowri Harris, Rheolwr Rhaglen y FfAP eiriau Sarah, “Rydym yn eithriadol o falch o gyraeddiadau Susan ac effaith ein Fframwaith Arfer Proffesiynol wrth hwyluso profiadau dysgu mor ddwys. Mae taith Susan yn pwysleisio ethos PCYDDS – sef grymuso unigolion i wireddu eu potensial trwy ddysgu arloesol a hunangyfeiriedig.”

Mae Susan yn annog unrhyw un sydd eisiau dyfnhau eu dealltwriaeth o’u pwnc trwy weithio gyda chymheiriaid yn eu maes i ymgymryd â’r daith rymus hon.

 “Dysgu i fwynhau’r profiad o syntheseiddio, arholi, cymharu a gwerthuso gwybodaeth yw’r peth mwyaf grymus rwyf wedi’i ddysgu. Rwy’n ymwybodol o ba mor bwysig fydd yr arf yma i mi yn fy mywyd personol a phroffesiynol yn y dyfodol.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon