Yr Egin yn cydweithio gyda Chwmni Theatr Menter Cwm Gwendraeth Elli i lwyfannu 'Anni'.
Mae’r Egin wedi bod yn cydweithio fel partner gyda chwmni Theatr Menter Cwm Gwendraeth Elli ers blwyddyn bellach er mwyn ail-sefydlu’r theatr ieuenctid ôl-covid a meithrin talent y dyfodol. Mae’r bartneriaeth hon wedi bod yn hynod o llwyddiannus gyda’r Egin yn rhannu arbenigedd, trosglwyddo sgiliau, a rhoi cyfleoedd digidol a thechnegol i bobol ifanc Sir Gaerfyrddin.
Yr Egin sy’n gyfrifol am sicrhau gwireddu gofynion technegol y sioe, ac yn sgil hyn wedi rhoi cyfle i ddau berson ifanc sy’n aelodau o’r cwmni theatr i ddatblygu eu sgiliau gyda’r technegydd proffesiynol James O’Neill. Mae hyn wedi bod yn gyfle hyfforddiant ac adnabod llwybrau gyrfaol gwerthfawr i’r bobl ifanc mewn maes sy’n crefu am fwy o dalent i fod yn dechnegwyr.
Mae Llinos Jones, Rheolwr Ymgysylltu Yr Egin hefyd wedi bod yn mynychu’r ymarferion yn wythnosol, yn cynnal gweithdai perfformio a darparu cefnogaeth cynhyrchu.
O ganlyniad i’r bartneriaeth hon, mae Sam Measor, myfyrwraig o’r cwrs B.A Dylunio Set a Chynhyrchu yn y Brifysgol wedi cael y cyfle i greu pyped arbennig ar gyfer y sioe. Rhoddwyd briff i Sam i ddylunio pyped o’r ci enwog sy’n berchen i Anni, Sandy ar gyfer y cynhyrchiad. Meddai:
“Roeddwn i wrth fy modd yn creu Sandy y ci ar gyfer y sioe ‘Anni’. Roedd yn gyfle gwych i mi ddatblygu fy sgiliau a gweithio ar brosiect proffesiynol. Rwy’n gyffrous iawn i weld y pyped terfynol ar y llwyfan.”
Mae’r cyfle hwn wedi rhoi golygu bod Sam wedi ymateb i ofynion client o fewn fframwaith amser a chyllideb ac wedi gwneud hynny’n llwyddiannus.
Dywedodd Alaw Davies, Prif Swyddog Menter Cwm Gwendraeth Elli:
“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Sam a’r Egin. Mae Sam yn dalentog iawn ac wedi creu pyped a fydd yn cwblhau ein perfformiadau o’r sioe gerdd ‘Anni’. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn agor drysau ac yn creu cyfleoedd i weithio mewn partneriaeth â’r Egin a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i ddangos talent y bobl ifanc sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin.”
Yn ogystal, mae’r cyfle hwn wedi cyflwyno Sam i ddiwylliant Cymreig yr ardal, a dangos iddi fod yna alw am waith creadigol safonol yn lleol. Ychwanegodd Llinos Jones, Rheolwr Ymgysylltu Canolfan S4C Yr Egin:
“Mae wedi bod yn bleser gweld ffrwyth ein partneriaeth gyda’r Fenter yn tyfu dros y flwyddyn diwetha’. Cynifer o bobl ifanc yn cael cefnogaeth a mewnbwn proffesiynol i’w profiad bydd gobeithio yn ei ysbrydoli am y cyfleon sydd yn y maes yn y rhanbarth. Bu rhoi cyfle i fyfyrwraig sydd yn astudio yn y brifysgol i greu a chydweithio efo Theatr Menter Cwm Gwendraeth Elli yn esiampl o’r cydweithio ac mae Sam wedi creu pyped o’r radd flaenaf sy’n adleisio safon y cwrs Prifysgol. . Mae cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ymwneud â’r gymuned yn Sir Gâr yn bwysig iawn i ni yn Yr Egin, ac mae plethu cymuned Cymraeg i fywydau’r myfyrwyr yn hynod werthfawr.”
Bydd Cwmni Theatr Menter Cwm Gwendraeth Elli yn perfformio ‘Anni’ ar y
- 3ydd o Orffennaf yn Neuadd Glenalla, Llanelli;
- 5ed o Orffennaf yn Neuadd Goffa Pontyberem,
- 12fed o Orffennaf yng Nghanolfan S4C Yr Egin.
Mae modd prynu tocynnau drwy ymweld â’r safle www.ycwtsh.com
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476