Skip page header and navigation

Gan dderbyn Bwrsariaeth Gweithgareddau Allgyrsiol, mae Morgan Thomas, myfyriwr BA Addysg Gynradd gyda SAC, yn dathlu llwyddiant dwbl wrth raddio’r wythnos hon. Trwy gydol ei amser yn y Drindod Dewi Sant, mae wedi cydbwyso ei angerdd am addysgu gyda chariad at rygbi, gan ei wneud yn fyfyriwr amlwg ar y cae ac oddi arno.

Student in cap and gown

Wedi’i ysbrydoli gan draddodiad teuluol o addysgwyr, nid oedd yn syndod bod Morgan wedi dewis dilyn ei uchelgais cynnar o ddod yn athro. Ar ôl argymhellion gan weithwyr addysgu proffesiynol a sgyrsiau gyda’r staff darlithio, dywedodd Morgan: “Roeddwn i’n gwybod y byddai mynychu’r Drindod Dewi Sant yn rhoi’r cyfle i mi fod yr athro gorau y gallwn i fod.”

Mae Morgan yn chwaraewr rygbi brwd wedi chwarae ar lefelau oedran a chlwb, ac ar hyn o bryd mae’n chwarae i Glwb Rygbi Castell-nedd a Chlwb Rygbi Athletig Castell-nedd. Pan gafodd y cyfle i ymuno ag Academi Chwaraeon y Drindod Dewi Sant ochr yn ochr â’i astudiaethiaeth, roedd Morgan yn awyddus i fwrw iddi, gan gyfuno ei ddau angerdd.

Yn ystod ei dair blynedd yn y Drindod Dewi Sant, bu’n jyglo ei astudiaethau gydag ymrwymiadau rygbi, gan wneud defnydd llawn o adnoddau’r Brifysgol fel y llyfrgell, y gampfa, a’r gefnogaeth gan staff darlithio a hyfforddwyr. 

“Roedd yn bendant yn heriol ar adegau, yn enwedig tua’r diwedd, ond roedd y gefnogaeth yma yn gwneud byd o wahaniaeth,” meddai Morgan.

Un o uchafbwyntiau cwrs Morgan oedd y lleoliadau addysgu. Cwblhaodd Morgan dri lleoliad mewn gwahanol ysgolion cynradd a chafodd gyfnod unigryw yn Amgueddfa Genedlaethol Sain Ffagan lle bu’n archwilio sut maent yn ymgysylltu â chwricwlwm Cymru a chynnig mewnwelediadau ar wella. 

Meddai: “Roedd cwrdd â phobl anhygoel, dysgu plant gwych, a mireinio fy sgiliau addysgu yn ystod y lleoliadau hyn yn fythgofiadwy.”

Roedd ei ymchwil i arferion addysgu hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio ei arddull addysgu, gan ei wneud yn fwy hyderus ac arloesol yn yr ystafell ddosbarth. Er gwaethaf y rhwystrau, llwyddodd Morgan i gadw popeth mewn cydbwysedd, diolch i’r gymuned fywiog yn y Drindod Dewi Sant a’i grŵp agos o ffrindiau a wnaeth trwy ei gwrs a’r tîm rygbi.

Chwaraewyr rygbi yn dathlu
Morgan yn arwain Tîm Rygbi Dynion PCYDDS i fuddugoliaeth yn Rowndiau Terfynol Cynhadledd Gorllewinol BUCS

Wedi’i enwebu gan ei ddarlithwyr, dyfernir Bwrsariaeth Gweithgareddau Allgyrsiol i Morgan pan fydd yn graddio am ei rôl flaenllaw ym mherfformiad tîm rygbi y Brifysgol yn ystod ei dair blynedd yma. Arweiniodd y garfan i nifer o fuddugoliaethau fel capten yn ystod ei drydedd flwyddyn gan arwain at iddo ennill gwobr Myfyriwr y Flwyddyn yr Academi Chwaraeon.

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Morgan yn bwriadu cwblhau ei flwyddyn Athro Newydd Gymhwyso (ANG) a’i freuddwydion o addysgu dramor, yn y Dwyrain Canol neu Ganada. Yn y cyfamser, mae’n awyddus i barhau â’i daith rygbi yn Uwch Gynghrair Cymru.

Mae stori Morgan yn enghraifft berffaith o sut mae’r Brifysgol hon yn caniatáu ac yn annog cyfuno sawl angerdd. Mae’r Drindod Dewi Sant wedi ei siapio’n athro medrus ond hefyd yn athletwr ymroddedig.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon