Skip page header and navigation

Mae Pwysigrwydd Gwenyn wedi bod yn brosiect amlgyfrwng cyffrous a ddatblygwyd gan fyfyrwyr trydedd flwyddyn a staff o gwrs BA (Anrh) Gwneud Ffilmiau Antur Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gampws Caerfyrddin.

A group of school children sitting in the immersive room

Roedd y prosiect yn golygu cydweithio rhwng Tîm Cynaliadwyedd PCYDDS, Gwenynwyr lleol, a disgyblion Blwyddyn 6 o Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model. Gyda’i gilydd, aethant ar daith i daflu goleuni ar fioamrywiaeth y campws, gan arddangos gwaith Tîm Tiroedd y brifysgol a Gwenynfa Llambed, wrth fynd ati i ennyn diddordeb plant ysgol gynradd trwy ddatblygu asedau amlgyfrwng.

Gyda briff i egluro pwysigrwydd gwenyn i blant blwyddyn 6, datblygodd y myfyrwyr gasgliad o ddeunyddiau dysgu ac addysgu a oedd yn ymgorffori technolegau digidol megis dylunio apiau, fideos, ymarferion ymarferol, a chwarae rhyngweithiol.

Yn ystod ymweliad arbennig â’r campws, cafodd disgyblion o Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model eu difyrru gan brofiad ymgolli yn ystafell drochi Samsung arloesol y Brifysgol. Yma, cyflwynodd y myfyrwyr eu creadigaethau amlgyfrwng, gan addysgu’r plant am gadwraeth bioamrywiaeth, ac ysbrydoli stiwardiaid amgylcheddol y dyfodol.

Interactive lesson about bees

Bu’r prosiect hefyd yn cydweithio â Mêl Gwenyn Gruffydd, a ddarparodd asedau fideo o’u sianel YouTube boblogaidd, a bu modd iddynt roi adborth yn seiliedig ar eu harbenigedd a’u profiad yn y diwydiant o gadw gwenyn.

Dywedodd Dr Brett Aggersberg, Rheolwr Rhaglen BA (Anrh) Gwneud Ffilmiau Antur PCYDDS, am y cyfle:

“Mae’r prosiect hwn yn un o’n hasesiadau trydedd flwyddyn fwyaf cyffrous a heriol. Mae wedi esblygu i fodloni anghenion diwydiant cyfoes, ac mae’n archwilio technolegau newydd mewn ffordd greadigol. Mae’r myfyrwyr sy’n dilyn y cwrs hwn yn graddio gyda chasgliad o sgiliau sy’n eu gwahaniaethu rhag rhaglenni eraill yn y maes pwnc. Maen nhw’n gallu cydbwyso anghenion cleientiaid a’r gynulleidfa trwy eu dealltwriaeth o ymchwil, creadigrwydd, a chynaliadwyedd.” 

Immservie room experience for Model School Children

Mae ymdrechion cydweithredol y rhanddeiliaid amrywiol yn taflu goleuni ar y fioamrywiaeth gyfoethog sy’n bresennol ledled campysau PCYDDS, gan bwysleisio pwysigrwydd arferion rheoli campws cynaliadwy. Trwy asedau amlgyfrwng, mae harddwch ac arwyddocâd ecosystemau’r campws yn cael eu rhannu â chynulleidfa ehangach, gan hybu gwerthfawrogiad ac ymdrechion cadwraeth.

Meddai Kate Williams, Pennaeth Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd ar gyfer Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Mae’r bartneriaeth gydweithredol rhwng y cwrs Gwneud Ffilmiau Antur a’r Tîm Cynaliadwyedd yn tanlinellu ymrwymiad y brifysgol i gynaliadwyedd, cadwraeth bioamrywiaeth, ac ymgysylltu â’r gymuned. Trwy ddefnyddio gwneud ffilmiau a chynhyrchu’r cyfryngau fel adnodd i arddangos bioamrywiaeth y campws, ac ennyn diddordeb plant ysgolion cynradd, mae PCYDDS yn dangos ei hymroddiad i stiwardiaeth ac addysg amgylcheddol. Trwy gydweithio ac arloesi parhaus, bydd PCYDDS yn parhau i ysbrydoli a grymuso cenedlaethau’r dyfodol i ofalu am a diogelu bioamrywiaeth am flynyddoedd i ddod.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon