Skip page header and navigation

Mae Oliver Rye, myfyriwr BA Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth, y mae ei angerdd am y broses greadigol yr un mor gryf â’i gariad at geir cyflym a chychod hwylio crand, yn gosod safonau yn y byd dylunio ac arloesi pwrpasol wrth iddo raddio yr haf hwn.

young man graduating

Dechreuodd taith ddylunio Oliver gyda Lefel-A mewn Ffotograffiaeth, Celf Gain a Dylunio Cynnyrch yn ei ddinas enedigol, Caergrawnt. Dewisodd ddilyn ei ddawn a’i awydd creadigol ar lefel addysg uwch a daeth o hyd i’r amgylchedd perffaith iddo ar raglen  BA Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth Y Drindod Dewi Sant.

Roedd Y Drindod Dewi Sant yn sefyll allan i Oliver oherwydd y cyfleusterau rhagorol a’r awyrgylch dysgu clos, sydd, yn ei farn ef, yn meithrin profiad creadigol effeithlon ac ysbrydoledig. Yn ystod ei astudiaethau, gwerthfawrogai yn arbennig y stiwdio Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth sy’n cynnig gofod desg unigol a gweithdy pwrpasol ar gyfer cydweithredu ac astudio â ffocws. 

Dywedodd: “Gyda chysylltiad uniongyrchol â pheirianneg a’r gallu i addasu fy nesg, roedd y stiwdio’n darparu’r amgylchedd perffaith i efelychu lleoliad gwaith yn y byd go iawn. Roeddwn i’n gallu gweithio’n gyfforddus ac yn effeithlon, gyda fy nghyd-fyfyrwyr o’m hamgylch a oedd yn darparu cefnogaeth werthfawr ac yn rhannu syniadau.”

Dyn yn sefyll ar bwys i fodel cwch hwylio
Oliver yn arddangos ei brosiect yn sioe radd Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth

Pan nad oedd yn y stiwdio yn gweithio ar ddyluniadau modurol a thrafnidiaeth, byddai Oliver yn manteisio i’r eithaf ar draethau godidog Abertawe a’r llwybrau beicio mynydd cyffrous yn y bryniau lleol, a oedd yn darparu cydbwysedd perffaith i’w fywyd academaidd prysur.

Ar ôl graddio, mae Oliver yn edrych ymlaen at gystadlu yng Nghystadleuaeth fawreddog Superyacht UK Young Designer 2024. Enillodd le yn y gystadleuaeth trwy ei ddyluniad trawiadol o gwch hwylio yn rhan o’i brosiect diwedd blwyddyn. Mae’n un o ddeuddeg yn unig o fyfyrwyr yn y DU a fydd yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth a gynhelir yn Sioe Gychod Ryngwladol Southampton ym mis Medi. Yn yumno ag Oliver bydd ei gyd-fyfyrwyr Archie Ritchie a Philip Rawlins-Grundy sydd hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer.

Bydd y cyfle’n caniatáu i Oliver arddangos y sgiliau a’r wybodaeth a enillodd ar ei radd a bydd hefyd, heb os, yn agor drysau pwysig iddo i’r diwydiant. Edrychwn ymlaen at ddilyn ei daith y tu hwnt i’r gystadleuaeth.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon