Llun a Chyflwyniad
![Silwét pen ac ysgwyddau dynes.](/sites/default/files/styles/media_item_uncropped/public/2023-06/Staff-Silhouettes-female-0_0.jpg?itok=d4SC14l7)
Cymrawd Ymchwil
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (CAWCS)
Ffôn: 01970 636543
E-bost: j.day@cymru.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
Mae Jenny Day yn gymrawd ymchwil yn y Ganolfan ers 2015, ac yn gweithio ar hyn o bryd ar brosiect ‘Barddoniaeth Myrddin’.
Mae hi’n dysgu ar y modiwlau ‘Cyflwyniad i Lenyddiaethau Celtaidd’ (HPCS4005) a ‘Canu Mawl yr Oesoedd Canol’ (HPCS5018), ac mae hi’n goruchwylio myfyrwyr ôl-raddedig.
Cefndir
Fel rhan o dîm prosiect ‘Barddoniaeth Myrddin’, a ariennir gan yr AHRC, mae Jenny wedi bod yn astudio ac yn golygu corpws o gerddi sydd heb gael llawer o sylw o’r blaen, sef y canu a briodolir i Fyrddin mewn llawysgrifau o’r bymthegfed ganrif i c.1800.
Bu’n gweithio cyn hynny ar brosiect ‘Tirweddau Cysegredig Mynachlogydd Canoloesol’ (AHRC). I’r prosiect hwn golygodd gerddi a ganodd Gutun Owain i ddau o abadau Glyn-y-groes yn y bymthegfed ganrif, gan archwilio’r hyn y mae’r rhain, ynghyd â cherddi eraill, yn ei ddweud wrthym am yr abaty Sistersaidd pwysig hwn.
Bu Jenny’n rhan o dîm golygyddol Geiriadur Prifysgol Cymru o 2013 i 2022, ac mae hi wedi gweithio hefyd ar nifer o brosiectau eraill y Ganolfan. Bu’n golygu ac yn cyfieithu bucheddau Martin o Tours, Dewi Sant a Mair o’r Aifft yn rhan o brosiect ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ (AHRC, 2015–17), ac ar gyfer y prosiect ‘Llif a Llifogydd’ (Leverhulme, 2017–18) bu’n casglu ac yn dadansoddi enwau lleoedd o Lyfr Llandaf sy’n ymwneud â dŵr, gan ddefnyddio’r rhain ar y cyd â ffynonellau llenyddol i archwilio sut y câi adnoddau dŵr eu defnyddio a’u canfod yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol. Ar gyfer prosiect ‘Barddoniaeth Guto’r Glyn’ (AHRC, 2008–2012), cyfrannodd hi at ddatblygiad y gwefannau gutorglyn.net a ‘Cymru Guto’. Mae ganddi ddiddordeb ymchwil ym maes rhyfel ac arfau yng Nghymru’r Oesoedd Canol hefyd, yn sgil ei hastudiaethau doethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ‘Arfau yn yr Hengerdd a Cherddi Beirdd y Tywysogion’.
Diddordebau Academaidd
- ‘Cyflwyniad i Lenyddiaethau Celtaidd’ (HPCS4005)
- ‘Canu Mawl yr Oesoedd Canol’ (HPCS5018)
- Goruchwylio myfyrwyr ôl-raddedig
Meysydd Ymchwil
Un o brif ddiddordebau ymchwil Jenny yw barddoniaeth Gymraeg a’r hyn y gall ei ddatgelu ynghylch amryw agweddau ar fywyd yn yr Oesoedd Canol. Mae hi wedi cyhoeddi nifer o erthyglau ar bortread y beirdd o arfau ac arfwisgoedd mewn cerddi o wahanol gyfnodau, o’r ‘Gododdin’ i waith y cywyddwyr, ac yn ddiweddar mae hi wedi archwilio’r darlun o fynachlog ac ystadau ehangach Glyn-y-groes a geir yng ngherddi Gutun Owain a’i gydoeswyr.
Mae ganddi brofiad helaeth mewn golygu a chyfieithu rhyddiaith a barddoniaeth ganoloesol, a diddordeb arbennig yn y newidiadau sy’n digwydd o ganlyniad i gamddehongli, ailddehongli ac addasu wrth i destunau gael eu trosglwyddo. Ar gyfer prosiect ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ astudiodd hanes testunol bucheddau’r seintiau a sut y cawsant eu haddasu ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol, ac ar hyn o bryd, ar gyfer prosiect ‘Barddoniaeth Myrddin’, mae hi’n archwilio cydberthnasau cymhleth a chynnwys cyfnewidiol y cerddi darogan diweddarach.
Arbenigedd
- Golygu a dehongli barddoniaeth a rhyddiaith Gymraeg o’r Oesoedd Canol a’r cyfnod Modern Cynnar
- Beirdd ac ysgrifwyr yng Nghymru’r Oesoedd Canol a’r cyfnod Modern Cynnar
- Ysgolheictod a mynachlogydd yng Nghymru’r Oesoedd Canol
- Bucheddau’r seintiau a hanes eu cyltiau yng Nghymru
- Arfau a rhyfel yn yr Oesoedd Canol
Cyhoeddiadau
- “The Houses of the Old Cross”: Valle Crucis Abbey in the poems of Gutun Owain’, Cîteaux – Commentarii cistercienses, 73 (2022), ISSN 0009-7497, 255–76.
- ‘The later Lives of St David in NLW MSS Peniarth 27ii, Llanstephan 34 and Peniarth 225’, yn David Parsons a Paul Russell (goln), Seintiau Cymru, Sancti Cambrenses: Astudiaethau ar Seintiau Cymru (Aberystwyth, 2022), pennod 6.
- ‘The later Lives of Mary of Egypt in NLW MS Llanstephan 34 and Cardiff, Central Library MS 2.633’, yn David Parsons a Paul Russell (goln), Seintiau Cymru, Sancti Cambrenses: Astudiaethau ar Seintiau Cymru (Aberystwyth, 2022), pennod 9.
- ‘Buchedd Martin’ [golygiad newydd a chyfieithiad], gwefan ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ (2020)
- ‘Ewin o ddur, onn a ddwg: y rhest gwaywffon a’r beirdd’, Dwned, 25 (2019), 11–45
- ‘Llachar fy nghleddau, lluch ydd ardwy—glew: rhai agweddau ar ddelweddaeth y cleddyf ym marddoniaeth yr Oesoedd Canol’, Dwned, 23 (2017), 41–77
- ‘Agweddau ar gwlt Martin o Tours mewn llenyddiaeth Gymraeg hyd c.1525’, Llên Cymru, 40 (2017), 3–39
- ‘Weapons and fighting in Y Gododdin’, Studia Celtica XLIX (2015), 121–47
- ‘Brigandines in two fifteenth-century request poems’, Studia Celtica XLVII (2013), 167–82
- “Arms of stone upon my grave”: weapons in the poetry of Guto’r Glyn’, yn Dylan Foster Evans, Barry J. Lewis ac Ann Parry Owen (goln.), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru’r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, 2013), 233–81
- ‘Shields in Welsh poetry up to c.1300: decoration, shape and significance’, Studia Celtica XLV (2011), 27–52