Skip page header and navigation

Mae ein rhaglenni Hanes ac Archaeoleg yn archwilio’r profiad dynol yn ei grynswth. Mae’n mynd i’r afael â’r materion sylfaenol a’r cysyniadau blaengar, gan ddisgrifio cymdeithasau’r gorffennol. 

Bydd ein hystod eang o raglenni o Hanes ac Archaeoleg a Rhyfel a Chymdeithas yn rhoi’r cyfle i chi astudio hanes byd-eang o’r hen fyd hyd heddiw. 

Rydym yn cynnig amrywiaeth hynod ddiddorol o fodiwlau, gydag opsiynau i astudio graddau anrhydedd sengl a chydanrhydedd, gan gynnig ffordd hyblyg a chyffrous o astudio trwy ein system addysgu arloesol a throchol. Bydd ein dulliau gweithredu’n caniatáu i chi lunio eich astudiaethau i’ch siwtio chi fel unigolyn, gan ategu eich diddordebau, eich cryfderau academaidd, a’ch gobeithion ar gyfer y dyfodol. 

Wedi’u lleoli ar ein campws hardd yn Llambed, mae ein rhaglenni’n cynnig profiad ac amgylchedd dysgu cynhwysol gydag agwedd ymarferol ar y campws. Mae opsiynau dysgu o bell ar gael hefyd; gweler tudalennau’r rhaglen am y manylion.  

Mae ein dull addysgu trochol arloesol yn cynnwys dysgu bloc, seminarau mewn grwpiau bach a thiwtorialau un-i-un. Mae’n cynnig dealltwriaeth lawn o’r cysyniadau rydych chi’n ymwneud â nhw. 

Mae addysgu bloc (dolen ar gael isod), gan astudio un modiwl ar y tro, yn caniatáu i chi ymgolli’n llwyr yn y pwnc dan sylw wrth gydweithio gyda’ch cyfoedion o ddisgyblaethau eraill ar draws y dyniaethau. Mae’r dull unigryw hwn yn eich helpu i archwilio syniadau a chysyniadau o nifer o wahanol safbwyntiau.  

Gyda phwyslais ar dreftadaeth, mae ein rhaglenni yn archwilio’r gorffennol mewn perthynas â’r presennol. Rydym yn tynnu sylw at ba mor berthnasol yw hanes yn y byd sydd ohoni a phwysigrwydd treftadaeth ar gyfer y dyfodol. Mae cysylltu hanes a threftadaeth gyda diwydiant, cadwraeth a’r amgylchedd yn caniatáu i’n myfyrwyr ddysgu sgiliau deallusol a throsglwyddadwy gwerthfawr. 

Diddordebau proffesiynol ac arbenigedd y darlithwyr ynghyd ag ethos ymchwil cryf sy’n sail i’n haddysgu. Fel myfyriwr, byddwch yn elwa o gael staff addysgu gweithredol ym maes ymchwil (dolen isod) a siaradwyr gwadd rheolaidd.

Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan yng nghystadleuaeth flynyddol ‘Posters in Parliament’ - cystadleuaeth genedlaethol sy’n arddangos ac yn dathlu ymchwil israddedig.

Pam Astudio Hanes ac Archaeoleg yn PCYDDS?

01
Cyfleoedd i gyfuno eich astudiaethau â phynciau eraill yn y dyniaethau trwy ein portffolio helaeth o fodiwlau.
02
Mae opsiynau dysgu hyblyg, gan gynnwys graddau cydanrhydedd, ar gael ar y campws a trwy ddysgu o bell
03
Wedi’i leoli ar ein campws hardd yn Llambed, mae’r lleoliad yn cynnig profiad dysgu campws trochi unigryw.
04
Mae addysgu mewn grwpiau bach a thiwtorialau un-i-un yn caniatáu i fyfyrwyr elwa o'n dull ymarferol a'n haddysgu trochi arloesol.
05
Diddordebau proffesiynol ac arbenigedd y darlithwyr ynghyd ag ethos ymchwil cryf sy’n sail i’n haddysgu.
06
Roedd 100% o’n myfyrwyr Hanes ac Archaeoleg yn cytuno eu bod wedi gallu cysylltu â staff pan oedd angen (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022).

Spotlights

Grŵp o fyfyrwyr y tu allan i gampws Llambed

Cyfleusterau

Fel myfyriwr gyda ni, byddwch yn elwa ar amrywiaeth o gyfleusterau yn cynnwys labordai Archaeoleg arbenigol a sawl llyfrgell, man astudio ac adnoddau cyffredinol y campws. 

Mae llyfrgell Llambed yn darparu mynediad i amrywiaeth o fannau dysgu hyblyg i gefnogi ein holl fyfyrwyr ac mae hefyd yn gartref i Lyfrgell ac Archifau Roderic Bowen, sy’n cynnwys Casgliadau Arbennig Prifysgol Y Drindod Dewi Sant. Mae’r casgliad, sydd wedi’i gaffael ar hyd y 200 mlynedd diwethaf, yn cynnwys mwy na 35,000 o weithiau argraffedig, 8 llawysgrif o’r Canol Oesoedd, tua 100 o lawysgrifau o’r cyfnod wedi’r Canol Oesoedd, a 69 o incwnabwla, ac mae’n un o’r prif adnoddau ar gyfer ymchwil academaidd yng Nghymru.  

Dau fyfyriwr yn eistedd o flaen y ffynnon ar gampws Llambed

Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?

Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.

Testimonial

“Mae’r holl ddarlithwyr yn anhygoel! Maen nhw’n wastad yn ateb fy nghwestiynau ac yn gefnogol iawn. Mae’r staff a’r gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr yn wych. Drwy gydol fy amser yn Llambed, cefais o leiaf 1 awr yr wythnos o gymorth astudio ac mae hynny wedi fy helpu i ddysgu cymaint am y ffordd rwy’n gweithio orau, fy nghryfderau, a chydnabod a gweithio ar fy ngwendidau mewn amgylchedd cefnogol.”

Debby Mercer – BA Celfyddydau Breiniol