Skip page header and navigation

Datblygu Menter Gynaliadwy (Gwledig) (CertHE)

Dysgu o Bell
Amser llawn: 1 flwyddyn
32 o Bwyntiau UCAS

Bydd myfyrwyr ar y rhaglen yn ystyried yr heriau sy’n wynebu’r rhai sy’n sefydlu ac sy’n rhedeg busnes mewn ardal wledig.

Mewn byd sy’n newid, rydym yn cydnabod bod yn rhaid i fusnes addasu a dod yn rhan o’r ateb, yn hytrach na’r broblem, trwy gymryd cyfrifoldeb dros bobl a lle. Mae meddwl cynaliadwy a moesegol wrth wraidd ein rhaglenni, ac mae ein dysgwyr yn herio modelau busnes presennol ac yn trafod atebion busnes ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy. 

Mae ein myfyrwyr yn rhan o gymuned o fyfyrwyr a staff lle mae dysgu mewn grwpiau bach sy’n seiliedig ar broblemau yn eu galluogi i ennill y sgiliau sydd eu hangen i ddatrys problemau busnes y dyfodol yn greadigol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Dysgu o bell
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
SEM1
Hyd y cwrs:
Amser llawn: 1 flwyddyn
Gofynion mynediad:
32 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Astudio busnes o safbwynt cyfoes gyda modylau a luniwyd i roi i chi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i arwain busnes yn y dyfodol.
02
Ymuno ag amgylchedd cefnogol lle byddwch yn trafod pynciau mewn grwpiau bach mewn cymuned ddysgu o staff a myfyrwyr
03
Cynyddu eich cyflogadwyedd trwy gysylltiadau cryf sydd wedi eu sefydlu ers tro â diwydiant a’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector a thrwy brosiectau byw, interniaethau, darlithoedd gwadd a gwaith maes.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Os ydych chi am fod yn barod am ddyfodol busnes ac am ymateb i heriau a chyfleoedd byd-eang a lleol, yna’r rhaglenni arloesol hyn, sydd wedi’u hadeiladu ar egwyddorion moesol a chynaliadwy, yw’r dewis i chi.

Yn fyfyriwr yn Ysgol Fusnes Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant byddwch yn rhan o gymuned dysgu cefnogol gyda staff brwdfrydig, sy’n ymchwil weithgar ac sy’n gwneud eu gorau i’ch helpu i wneud yn fawr o’ch amser yn Y Drindod Dewi Sant.  Mae gennym ymagwedd drawsffurfiol at ddysgu sy’n adeiladu annibyniaeth a hunan-benderfyniad yn ein dysgwyr.

Yn rhan o’ch astudiaethau cewch gyfle i gyflawni interniaeth, cymryd rhan mewn gwaith maes ac elwa o ystod o ddarlithwyr gwadd gan entrepreneuriaid ac arweinwyr busnes.  Mae gennym gysylltiadau ag amrywiaeth eang o sefydliadau, y mae llawer ohonynt yn cynnig cyfle i’n myfyrwyr fod yn rhan o waith prosiectau byw yn rhan o’u hastudiaethau.

Y tu allan i’ch cwrs, mae campws Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant yn darparu amgylchedd dysgu gwefreiddiol a chefnogol lle mae mannau dysgu o’r radd flaenaf ac adnoddau o ansawdd uchel yn cyfuno ag lawntiau gwyrdd, mannau wedi’u tirlunio a lleoedd cymdeithasol hyblyg.

Rheolaeth Ariannol ar gyfer Cynaliadwyedd Busnes

(20 credydau)

Arbenigrwydd ac Adfywio

(20 credydau)

Marchnata Digidol

(20 credydau)

Dysgu a Chydweithio ar gyfer Dinasyddiaeth Fyd-eang

(20 credydau)

Menter Gynaliadwy

(20 credydau)

Datblygiad Cymunedol

(20 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae gennym ddiddordeb mewn ymgeiswyr sydd eisiau cyfrannu at ddyfodol Menter Gymdeithasol.  Nid oes angen astudiaeth flaenorol o fusnes ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o ystod eang o gefndiroedd.

    Ar gyfer ymgeiswyr o dan 21 oed, mae angen un Lefel A neu NVQ lefel 3 arnom.  Derbynnir gwobrau eraill gan gynnwys dyfarniadau Edexcel,  yn ogystal ag ystod o dystysgrifau eraill ar y lefel hon gan  gyrff y DU, yr UE a chyrff Rhyngwladol.

    Derbynnir nifer o gymwysterau cyfatebol eraill hefyd mewn cyfraniad at eich  pwyntiau tariff UCAS a bydd y panel derbyn yn ystyried pob cais yn unigol.

    Sylwer hefyd nad yw ein cynigion wedi’u seilio ar eich cyraeddiadau academaidd yn unig; byddwn yn cymryd i ystyriaeth ystod lawn eich sgiliau, profiad a chyflawniadau wrth ystyried eich cais.

  • Caiff y rhaglen Datblygu Mentrau Cynaliadwy (Gwledig) ei hasesu drwy gyfuniad o ddulliau arloesol a mwy traddodiadol sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu dealltwriaeth, datrys problemau a meddwl creadigol myfyrwyr yn ystod eu blwyddyn astudio.

    Mae asesiadau wedi’u cysylltu’n agos â gweithgareddau dysgu, lle mae myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth a sgiliau mewn sesiynau wythnosol ac yn gallu dysgu o asesiadau ffurfiannol drwy gydol y rhaglen. 

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.

  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.

  • Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i amrywiaeth o feysydd yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol mewn meysydd megis arweinyddiaeth gynaliadwyedd, rheolaeth ariannol, marchnata, rheoli adnoddau dynol, rheoli prosiectau, datblygu cymunedol ac adfywio. 

    Gall graddedigion ddefnyddio eu sgiliau a’u profiad newydd i ddatblygu eu sefydliad chwaraeon cymunedol ymhellach, gallai hyn gynnwys ffocws newydd, ehangu neu drawsnewid. 

    Mae pwyslais ar entrepreneuriaeth ac arloesedd o fewn y rhaglen hefyd wedi golygu bod nifer o’n graddedigion diweddar wedi gadael i sefydlu eu mentrau eu hunain yn llwyddiannus ac mae Ysgol Fusnes Caerfyrddin yn rhagweithiol wrth gyfeirio myfyrwyr at gymorth mewnol ac allanol ar gyfer datblygu busnes.

    Mae nifer o’n graddedigion hefyd yn dewis symud ymlaen i astudio ymhellach ar lefel Israddedig, Meistr a Doethuriaeth naill ai yn Y Drindod Dewi Sant neu mewn prifysgolion eraill.  Yn Ysgol Fusnes Caerfyrddin rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni ôl-raddedig ac mae gennym nifer o fyfyrwyr doethuriaeth gweithredol.

    Gall myfyrwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus wneud cais i ‘ychwanegu’ at y BA Rheoli Menter Wledig.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau