Skip page header and navigation

Y mae gan Remiel Wharton lawer i’w ddathlu. Mae’r dyn ifanc o Fynydd y Garreg, Sir Gâr, newydd raddio o’r cwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac mae hefyd wedi ennill Gwobr Goffa Dr Howard Tanner i fyfyrwyr TAR Uwchradd Mathemateg.

Remiel Wharton playing touch rugby for Wales in the World Cup 2024 and scores against Sinagpore.  Picture credit sportphoto.wales

Llun: sportphoto.wales.  Remiel Wharton yn scorio cais i dîm Agored Dynion Rygbi Cyffwrdd Cymru yn erbyn Sinagpore yng Nghwpan y Byd, 2024

Ond, ni chafodd Remiel y cyfle i fynychu ei seremoni raddio a gynhaliwyd yn ddiweddar gan ei fod yn cynrychioli Tîm Dynion Agored Cymru yng Nghwpan Rygbi Cyffwrdd y Byd a gynhaliwyd yn Nottingham rhwng 15 a 21 Gorffennaf.

Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin ac Ysgol y Gwenllian, Cydweli, aeth Remiel ymlaen i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn dewis cwrs TAR yn y Drindod Dewi Sant. Dywed:

Symudais o Loegr yn ifanc i Sir Gar gyda dim cysywllt na phrofiad o’r iaith Cymraeg. Fe fynychais ysgolion cyfrwng Cymraeg trwy gydol fy amser yn yr ysgol a chyflawni fy arholiadau TGAU a lefel A trwy’r Gymraeg. Yna, fe es ati i gyflawni gradd Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd. Cefais fy nenu i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar ôl cael cyfweliad gydag aelod o staff, Jessica Roberts. Gwnaeth ei phersonoliaeth a’i brwdfrydedd am addysg gadarnhau fy mhenderfyniad i astudio yma”. 

Fe ddewisodd astudio’r cwrs TAR oherwydd ei fod wedi mwynhau cyflawni modiwl ‘cyflwyniad i addysgu mathemateg’ yn ei flwyddyn olaf yn y brifysgol. Fe gyflwynodd y modiwl damcaniaeth addysg ac addysgeg iddo gan rhoi persbectif hollol newydd ar y gwaith a’r dulliau y tu ôl i’r gwersi a gafodd pan yn ddisgybl yr ysgol.

Yn ystod ei gyfnod yn y Drindod Dewi Sant aeth ar leoliad i ddwy ysgol yn Sir Gaerfyrddin sef Ysgol Maes y Gwendraeth ac Ysgol Bro Dinefwr, lle cafodd y cyfle i addysgu disgyblion o oedrannau gwahanol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Dywed:

Yn ystod y flwyddyn rwyf hefyd wedi cwblhau pedwar aseiniad yn ymchwilio i agweddau amrywiol addysgu mewn ysgolion ac mae hyn wedi rhoi’r cyfle i mi fyfyrio ar fy nulliau i o addysgu. 

“Fy mhrif fwriad wrth ymuno â’r cwrs oedd i sicrhau fy mod yn drefnus. Roeddwn hefyd am sicrhau fy mod i’n broffesiynol wrth wneud lleoliadau. Rwyf yn angerddol dros sicrhau fod disgyblion wedi eu paratoi at fywyd go iawn erbyn iddynt adael yr ysgol ac felly roeddwn yn awyddus i geisio cynnwys hyn yn fy nysgu.

Uchafbwynt y cwrs oedd y cyfleodd pontio; lle roeddem yn cwrdd fel grwp o fyfyrwyr TAR ac yn rhannu ein profiadau a syniadau er mwyn i ni gallu dysgu o’n gilydd a datblygu fel myfyrwyr TAR. Roedd hi hefyd yn gyfle neis i gael cymdeithasu gyda’r myfyrwyr eraill ar y cwrs”.

Aeth Remiel yn ei flaen:

Mae yna llwyth gwaith trwm iawn gyda myfyrwyr TAR, felly mae’n bwysig iawn i fod yn drefnus wrth ei gwblhau. Y peth pwysicaf yw cyfathrebu gyda chyd-myfyrwyr er mwyn sicrhau eich bod ar y trywydd iawn ac eich bod yn gallu helpu eraill pan mae’n nhw’n gofyn hefyd – rhannu’r baich fel petai”.

“Fe fydden i yn argymell y cwrs yma i unrhyw ddarpar athrawon; pan mae gwers yn mynd yn dda a chi’n gweld cynnydd a dealltwriaeth yn y plant, mae’n teimlad gwych.  Rwyf wedi datblygu fy hyder, sgiliau hunanwerthuso, a proffesiynoldeb yn ystod y cwrs

A bellach, mae’r dathlu yn parhau wrth i Remiel sicrhau swydd ar gyfer ei flwyddyn ANG (Athro Newydd Gymwysoli) yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd.

Meddai Jessica Roberts, Uwch-ddarlithydd Maths a Rhifedd: “Roedd Remiel yn fyfyriwr TAR Mathemateg rhagorol yn ei astudiaethau academaidd a’i ddatblygiad addysgeg, gan sicrhau graddau A ym mhob aseiniad. Daeth yn wybodus am addysgu mathemateg effeithiol ac arloesol, a thrwy gydol holl fodiwlau a phrofiadau’r brifysgol roedd yn awyddus i gynnig syniadau ac yn awyddus i ddysgu. Roedd yn bleser mawr fel darlithydd Mathemateg Remiel; i fod yn rhan o’i daith i ddod yn athro Mathemateg llwyddiannus, a dymunaf y gorau iddo ar gyfer ei yrfa yn y dyfodol yn Ysgol Plasmawr lle mae wedi sicrhau swydd athro”.

A beth am ei yrfa rygbi? Mae Remiel yn Is-Gapten Tîm Dynion Agored Rygbi Cyffwrdd sydd wedi ennill 31 cap a sgorio 33 cais dros ei wlad mewn tair cystadleuaeth – dau bencampwriaeth Ewrop yn 2022 a 2023 a Chwpan y Byd eleni. 

Llun: sportphoto.wales.  Remiel Wharton yn scorio cais i dîm Agored Dynion Rygbi Cyffwrdd Cymru yn erbyn Sinagpore yng Nghwpan y Byd, 2024

Remiel Wharton

Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon