Skip page header and navigation

Mae Joseph Morris, o Lanelli, wedi ennill Gwobr Tudor Bevan am ei gyfraniad i’r Celfyddydau Creadigol yng Nghymru gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

James Morris

Bydd Joseph, sy’n graddio o’r BA mewn Gwneud Ffilmiau Antur, yn derbyn ei wobr yn y Seremoni Raddio a gynhelir yng nghampws Caerfyrddin y Brifysgol ddydd Mawrth, 9 Gorffennaf.

Roedd y cwrs Ffilmio Antur yn ddewis naturiol i Joseph gan ei fod yn caniatáu iddo gyfuno ei gariad at yr awyr agored yn ogystal â bod yn egnïol. Dywed:

“Mae bod yn yr awyr agored ac yn gwneud ymarfer corfforol bob amser wedi bod yn bwysig iawn, ac roedd creu ffilmiau antur bob amser yn ddiddordeb mawr ac, o weld mai dyma’r unig gwrs Gwneud Ffilmiau Antur yn y DU, roeddwn i eisiau cael y sgiliau greu fy ffilmiau antur fy hun. Yn byw yn Llanelli doeddwn i ddim yn gallu credu pa mor lwcus oeddwn i allu ymuno â chwrs a oedd yn ymddangos yn berffaith ar gyfer fy ffordd o fyw, yr unig un yn y DU a dim ond 30 munud i ffwrdd o fy nghartref roedd yn rhaid i mi ymuno.

“Cyn y cwrs roeddwn dim ond wedi defnyddio GoPro i wneud ffilmiau byr ac felly roedd cael y sgiliau a’r wybodaeth i ddefnyddio offer camera safonol proffesiynol i safon uchel yn nod mawr ac rwy’n bendant yn teimlo’n hyderus fy mod yn gallu gwneud hynny nawr.”

Un o uchafbwyntiau’r cwrs oedd pan oedd ef a’i gyd-fyfyrwyr yn cynllunio ac yn cynnal sioe diwedd blwyddyn i drafod a chyflwyno eu prosiectau terfynol i gynulleidfa fawr. 

Roedd gwaith Joseph yn cynnwys creu Cardiau Tarot a ysbrydolwyd gan Gymru a saethwyd ar leoliad o amgylch Cymru ac roedd yn cynnwys gweithio gyda modelau, gwneuthurwyr gwisgoedd a ffrindiau i wneud cyfres o ffotograffau, a chyd artistiaid eraill, yn cynnwys Emily Scandone a Rachel Morris , fe aeth ati i’w golygu, dylunio ac argraffu.  Ar ôl cwblhau 9 cerdyn ar gyfer ei brosiect terfynol, mae bellach yn gobeithio gorffen y set lawn o 78 o gardiau tarot.  Dywedodd am ei brosiect terfynol:

“Fe wnes i ymdrochi mewn ymchwil ar gyfer y prosiect terfynol gan ddefnyddio dylanwad mawr ar hanes celf, yn benodol oes celf Cyn-Raphaelite i ddylanwadu ar ystumiau a delweddau’r modelau. Hefyd, cwrddais â sawl person creadigol ac artistiaid lleol llwyddiannus, Kathryn Campbell-Dodd, Peter Finnemore a Seren Stacy i enwi ond rhai, pob un ohonynt yn rhagorol ac yn rhoi mewnwelediadau gwych i Gymru, celf, ac arweiniad ar gyfer fy mhrosiect fy hun”. 

Ar ddechrau ei yrfa yn y Brifysgol, cafodd Joseph ddiagnosis o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio (ADD) a Dyslecsia a eglurodd ei ymddygiad a’r anhawster a brofodd wrth astudio yn yr ysgol a’r coleg. Roedd y diagnosis yn caniatáu iddo fod yn realistig gyda’i lwyth gwaith, yn ogystal â bod yn fwy caredig a mwy amyneddgar pan gafodd drafferth wrth ganolbwyntio ac ysgrifennu. 

Mae’n llawn canmoliaeth am y gefnogaeth a gafodd gan dîm Cymorth Dysgu y Brifysgol.  Dywed:

“Yr help mwyaf i oresgyn heriau personol - bywyd, iechyd meddwl, ADD, Dyslecsia, llwyth gwaith - oedd fy swyddog cefnogi astudio, Gabriel Fisher.  Roedd yn rhan gadarnhaol iawn o fy mhrofiad yn y brifysgol, yn frwdfrydig, yn gyfeillgar ac yn adnodd ardderchog ar gyfer celf, ffotograffiaeth, cerddoriaeth, diwylliant, a hanes Cymru. Fyddwn i ddim wedi gwneud cystal yn y brifysgol oni bai am y gefnogaeth gan Gabriel”. 

Mae Joseph hefyd yn llawn canmoliaeth i’w diwtoriaid Matthew Jones a Brett Aggersberg a oedd, meddai, yn ganolog ac o gymorth mawr. 

Meddai: “Rhoddodd Matthew arweiniad a mewnwelediad i greadigrwydd, hanes celf, y broses greadigol, ffotograffiaeth, a phwysigrwydd archwilio diwylliant Cymru ac roedd yn eithriadol o ran cyfleu syniadau a chysyniadau creadigol yn ymwneud â’r prosiect. Roedd yn caniatáu i mi ddeall a chyfeirio at y themâu, y teimlad a’r cyd-destun cyffredinol yr oeddwn am ei bortreadu. Roedd Brett yn ardderchog ar ganlyniad terfynol y prosiect sut y byddai’n edrych ac yn teimlo yn ogystal â’n cadw ni i gyd yn canolbwyntio ar gynllunio a chysondeb y gwaith sydd ei angen i orffen ein prosiectau i safon uchel. 

“Mae’r ddau yn arbennig am ganolbwyntio ar y myfyrwyr, bob amser yn hygyrch ar gyfer cyfarfodydd 1 i 1 ac yn wirioneddol frwdfrydig ac â diddordeb yn ein syniadau ar gyfer prosiectau. Rwy’n credu ei fod yn amgylchedd gwych i ddysgu a thyfu fel person creadigol ac mae’n caniatáu i’r myfyrwyr archwilio ac mae’r dystiolaeth yn ein holl brosiectau terfynol.  Roedd safon y ffilm/cyfryngau yn uchel iawn, ac roedd pob prosiect yn teimlo’n unigryw a chwaethus i’r unigolyn”. 

Dywedodd Dr Brett Aggersberg, Rheolwr Rhaglen BA Gwneud Ffilm Antur a BA Cynhyrchu Cyfryngau Digidol, hyn am brosiect Joseph:

“Efallai nad yw prosiect cardiau Tarot Chwedloniaeth Cymru yn swnio fel Gwneud Ffilmiau Antur ar y dechrau, ond dylanwadwyd yn uniongyrchol ar y sgiliau dan sylw gan ddulliau cynhyrchu awyr agored. Mae gan y radd BA Gwneud Ffilmiau Antur lawer o angerdd am yr awyr agored gan gynnwys gweithgareddau anturus, yr amgylchedd a bywyd gwyllt. Gan eu bod wedi’u lleoli yng Ngorllewin Cymru mae ein myfyrwyr yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol y wlad, ac iaith, trwy amrywiaeth o weithgareddau creadigol. Galluogodd y prosiect hwn i Joseph i ddilyn ei angerdd o weithio gyda delweddu ffotograffig, yr awyr agored, creadigrwydd, a pharchu treftadaeth lle mae’n byw. Roeddem yn hynod ddiolchgar am yr amser a’r arbenigedd a ddarparwyd gan staff a gweithwyr proffesiynol y diwydiant a helpodd i lywio datblygiad y prosiect. Rydym yn falch iawn i Joseph dderbyn Gwobr Tudor Bevan am ei gyfraniad i’r Celfyddydau Creadigol yng Nghymru”.

Mae Joseph yn argymell y cwrs yn fawr: 

“Mae’n gwrs gwych sy’n eich arfogi’n dda iawn fel gwneuthurwr ffilmiau/ffotograffydd yn yr awyr agored. Mae’n ymdrin ag ystod eang o bynciau a gwybodaeth sy’n eich cymhwyso i safon  uchel mewn ystod eang o sgiliau-  o gymorth cyntaf yn yr Awyr Agored, cyfraith dronau, gweithrediad camera, ffotograffiaeth bywyd gwyllt, asesiad risg awyr agored - byddai’n rhestr hir pe bawn i’n rhestru’r cyfan ond mae’n cwmpasu ystod eang iawn o sgiliau i fod yn greadigol annibynnol sy’n gallu gweithio mewn llawer o leoliadau gwahanol”.

“Roedd gennym brosiect cleient lle buom yn gweithio gyda chwmni goleuo o’r enw Nanlite a oedd yn ddefnyddiol iawn i ddeall sut i weithio a rhyngweithio â busnes mawr. Gan ddefnyddio eu goleuadau, rydym i gyd wedi creu hysbysebion byr o leoliadau anturus gyda’u Goleuadau. Aeth yn dda iawn ac fe wnaethon nhw fynd ati i bostio ein gwaith ar eu Instagram yn y DU oedd yn teimlo’n eithaf gwerth chweil”. 


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon