Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o ddathlu camp academaidd a phroffesiynol eithriadol Angie Kelly, sydd wedi cwblhau’r MA mewn Hyfforddi a Mentora yn ddiweddar, a gynigir drwy’r ddarpariaeth Ymarfer Proffesiynol. Mae ei thaith drwy’r radd hon nid yn unig wedi gwella ei gallu unigol ond mae hefyd wedi cael effaith sylweddol ar rwydwaith hyfforddi mewnol a gweithrediadau adrannol yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).

An image of Angie Kelly wearing her cap and gown

Dewisodd Angie, Rheolwr Newid Busnes a Hyfforddwr Mewnol yn yr FCA, ddilyn cwrs MA mewn Hyfforddi a Mentora yn Y Drindod Dewi Sant lle llwyddodd i adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan ei diploma hyfforddi Ymarferydd Integredig blaenorol a defnyddio ei phrofiad hyfforddi proffesiynol i hawlio credydau academaidd ar gyfer hyd at ddwy ran o dair o’r MA. Meddai Angie:

“Roeddwn i’n teimlo mai hwn oedd y cam nesaf pwysig yn fy natblygiad yn hyfforddwr, yn enwedig gan fy mod i bellach yn rhan o rwydwaith hyfforddi mewnol yr FCA. Penderfynais i hefyd fy mod i’n barod i fy herio fy hun yn academaidd.”

Mae cymhwyso ymchwil Angie, a gynhaliwyd yn rhan o’i gradd, yn ymarferol wedi arwain at ganfyddiadau nodedig yn ei hadran yn yr FCA. Mae’r uwch dîm arwain wrthi’n ystyried yr argymhellion sy’n deillio o’i phrosiect Dysgu Seiliedig ar Waith (WBL), sy’n canolbwyntio ar integreiddio hyfforddiant proffesiynol gyda hyfforddiant rheolaethol, mentora a hyfforddiant i feithrin twf a datblygiad gweithwyr. Mae mentrau allweddol, megis datblygu diwylliant hyfforddi, wedi cael eu cynnig i wella’r amgylchedd gwaith cyffredinol.

Yn ogystal, mae rôl Angie yn Rhwydwaith Hyfforddi Mewnol yr FCA wedi’i chyfoethogi’n sylweddol gan ei chanfyddiadau ymchwil. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno bywgraffiadau coetsys, mireinio’r broses hyfforddi a pharu cleientiaid, a diweddaru dogfennau hanfodol. Mae’r gwelliannau hyn wedi’u hanelu at broffesiynoli’r rhwydwaith a gwneud yn fawr o’r cymorth a ddarperir i weithwyr.

Mae Angie yn myfyrio ar sut mae’r MA mewn Hyfforddi a Mentora yn Y Drindod Dewi Sant wedi effeithio’n fawr ar ei datblygiad personol a phroffesiynol. Esbonia: 

“Mae’r cwrs wedi cynyddu fy ngallu adfyfyriol yn sylweddol, a gyda hynny fy ymchwil adfyfyriol yn hyfforddwr. Mae hyn wedi cryfhau fy ymarfer hyfforddi ac wedi dyfnhau fy lefel o hunanymwybyddiaeth, sydd, yn ei dro, yn helpu fy nghleientiaid i estyn y tu hwnt i’w lefel ymwybyddiaeth bresennol a gwneud y newidiadau y maen nhw’n eu dymuno. “

Yn ei rôl newid busnes, mae Angie wedi mireinio galluoedd meddwl strategol a chymhleth, ac wedi datblygu rhagor o hunangred, ac wedi ennill ymdeimlad o ddifrifoldeb. Mae’r cwrs wedi ei grymuso i herio rhagor, ymddiried yn ei greddf, a gweithredu’n hyderus yn ei hymdrechion proffesiynol.

Gan ddisgrifio’r cwrs, tynnodd Angie sylw at y cydrannau deuol: y modwl Cydnabod Dysgu Achrededig (RAL) a’r modwl Prosiect Ymchwil yn y Gwaith. 

“Mae RAL yn cynnig cyfle i chi’ch herio’ch hun yn feddyliol ac yn emosiynol, gan fyfyrio ar y dysgu sydd wedi dod â chi i’r pwynt hwn yn eich gyrfa. Mae’r prosiect ymchwil yn eich galluogi i gynnal ymchwil yn y gweithle sy’n cyflwyno argymhellion y gellir eu gweithredu er budd eich sefydliad.”

Mae Angie yn argymell yn gryf yr MA mewn Hyfforddi a Mentora yn Y Drindod Dewi Sant i hyfforddwyr proffesiynol sy’n ceisio tyfu a datblygu eu hymarfer. 

“Mae’n brofiad amhrisiadwy i unrhyw hyfforddwr sy’n ceisio dyfnhau ei sgiliau ac ehangu ei effaith broffesiynol.”

Wrth adfyfyrio ar ei thaith, mynegodd Angie ei diolchgarwch enfawr i’w goruchwylwyr, Sarah Loxdale a Lowri Harris. Meddai: 

 “Fe wnaethon nhw fy herio i, cynnig arweiniad, ac roedden nhw’n hwb aruthrol i mi. Roedden nhw’n oleudai i fi pan aeth pethau’n anodd, ac alla i ddim diolch digon iddyn nhw.”

Canmolodd Sarah Loxdale, Uwch Ddarlithydd ar gyfer darpariaeth Ymarfer Proffesiynol yn Y Drindod Dewi Sant, Angie Kelly am ei hymroddiad eithriadol i hyrwyddo hyfforddiant yn ei sefydliad. Meddai:

 “Mae taith Angie drwy’r rhaglen nid yn unig wedi gwella ei galluoedd yn hyfforddwr, ond mae hefyd wedi darparu manteision diriaethol i rwydwaith a gweithrediadau hyfforddi mewnol yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Mae ei hymroddiad a’r canfyddiadau gweithredadwy o’i hymchwil yn dyst i bŵer trawsnewidiol ein cwricwlwm. Rydyn ni’n hynod falch o’r hyn y mae hi wedi’i gyflawni a’r newidiadau cadarnhaol y mae’n parhau i’w gweithredu yn ei sefydliad.”

Meddai Lowri Harris, Rheolwr Rhaglen y Fframwaith Ymarfer Proffesiynol:

 “Mae ymrwymiad diwyro Angie i hyfforddi yn ei sefydliad i’w edmygu’n fawr iawn. Mae ei hymdrechion nid yn unig yn tynnu sylw at effaith sylweddol y Fframwaith Ymarfer Proffesiynol ond hefyd yn cyd-fynd â chenhadaeth y Brifysgol i roi i weithwyr proffesiynol y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i annog newid cadarnhaol.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon