Skip page header and navigation

Gyda chefndir mewn gwasanaeth cwsmeriaid, roedd penderfyniad Ashlee Ryan Rose i astudio am radd BSc mewn Seicoleg a Chwnsela yn y Drindod Dewi Sant yn ganlyniad i newid annisgwyl mewn cyfeiriad ar ôl dioddef profedigaeth deuluol. Gwnaeth y digwyddiad trasig hwn aildanio’i huchelgais o’i harddegau i ddilyn gyrfa fel seicolegydd cwnsela. 

photo of student in cap and gown

Meddai Ashlee: “Gan i mi gael fy mwlio yn yr ysgol oherwydd fy hunaniaeth LHDTC+, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd ymwneud â gwaith academaidd, felly roeddwn i bob amser yn meddwl bod y dyhead gyrfa hwnnw allan o’m cyrraedd.  O’r diwedd, yn 25 oed, cymerais y cam o gofrestru ar gwrs mynediad yn y Dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol, a helpodd i ailadeiladu fy hyder academaidd.” 

Dywedodd Ashlee fod y rhaglen yn y Drindod Dewi Sant wedi dal ei sylw gan ei bod yn cyd-fynd â’i nod o eisiau bod yn ffynhonnell cymorth i’r rhai heb rwyd ddiogelwch gref gan berthnasau. 

Meddai: “Yn benodol, mae’r cwrs yn cyd-fynd â’m dyhead gyrfa o ddod yn seicolegydd cwnsela – mae’n gymysgedd perffaith o theori seicolegol a’i ddefnydd mewn bywyd go iawn, a  theori a sgiliau seicotherapi ar waith.”

“Fy nod cychwynnol oedd ennill y sgiliau i helpu pobl yn uniongyrchol, fodd bynnag, sylweddolais yn fuan ei bod yn bosibl cyfrannu at newid cymdeithasol ehangach drwy’r maes astudio hwn.”

Dywedodd Ashlee fod llawer o uchafbwyntiau i edrych yn ôl arnynt yn ystod ei chyfnod yn y Brifysgol.

“Ym mhob darlith datgelwyd damcaniaethau a chysyniadau newydd y gallwn eu cymhwyso’n rhwydd i’r byd o’m cwmpas. Yr hyn a wellodd y profiad fwy fyth oedd dull personol y Drindod Dewi Sant – roedd y darlithoedd yn teimlo’n debycach i drafodaethau academaidd difyr na sesiynau trosglwyddo gwybodaeth un ffordd. Roedd yr arddull hon yn ategu fy newisiadau dysgu yn berffaith. 

“Uchafbwynt mawr arall oedd pob person anhygoel sy’n rhan o’r garfan ddarlithio Seicoleg a chwnsela, sydd yno i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd. Mae eu hangerdd am seicoleg a seicotherapi yn ysbrydoledig!”

Dywedodd Ashlee fod ei thraethawd hir, o dan arweiniad Dr Judith Marshall, ar y testun ‘Unveiling the Media Narrative: A qualitative exploration of student perceptions of bullying, victim, and perpetrator representation within the media,’  wedi caniatáu iddi archwilio sut mae dull y cyfryngau o bortreadu bwlio yn effeithio ar ddioddefwyr a throseddwyr.

“Mae hyn yn rhywbeth sy’n agos at fy nghalon o brofiad personol fel rhywun a gafodd ei bwlio drwy gydol ei chyfnod yn yr ysgol gyfun,” ychwanegodd.

“Yn ystod fy lleoliad yn yr ail flwyddyn, cefais y cyfle anhygoel i roi theori ar waith wrth weithio ochr yn ochr ag ymarferwyr iechyd meddwl yn Mind Abertawe. Oherwydd fy ymrwymiad i’r achos a’r wybodaeth a roddwyd i mi gan y garfan seicoleg ragorol, cefais gynnig contract 10 mis fel ymarferydd iechyd meddwl.”

Yn fwy diweddar, mae Ashlee wedi defnyddio sgiliau a ddatblygodd yn rhan o’i gradd wrth weithio fel gweithiwr cymorth arbenigol LHDTC+ a hwylusydd rhaglen ar gyfer un o elusennau trais domestig mwyaf Cymru, Calan DVS’. 

“Ar hyn o bryd rwy’n hwyluso eu rhaglen lles, adfer a pherthynas iach ar gyfer pobl LHDTC+ sydd wedi goroesi trais domestig – rhaglen a luniwyd mewn cydweithrediad â goroeswyr LHDTC+ a Phrifysgol De Cymru; rhywbeth sy’n agos at fy nghalon fel aelod o’r gymuned LHDTC+. 

“Yn ogystal â hyn, fi yw arbenigwr LHDTC+ Calan DVS ac rwy’n gyfrifol am ddarparu cefnogaeth ac adnoddau i sicrhau gofal cynhwysol a phriodol i ddefnyddwyr gwasanaethau LHDTC+ ac arwain staff o ran arferion gorau.”

Dywedodd Ashlee fod unrhyw heriau ar hyd y ffordd wedi’u goresgyn, diolch yn rhannol i gefnogaeth agos staff y Drindod Dewi Sant.

“Ar ôl bod allan o’r amgylchedd academaidd am gyfnod hir cyn fy nghwrs mynediad, roedd gen i bryderon ynglŷn â bodloni disgwyliadau. 

“Cafodd yr amheuon hyn eu tawelu gan yr amrywiol weithdai a gwasanaethau cymorth sydd ar gael i gefnogi myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau yn y Drindod Dewi Sant, ochr yn ochr â’m dyfalbarhad a’m hymrwymiad i gyflawni fy nodau.

“Heb amheuaeth, byddwn yn argymell y cwrs hwn yn llwyr. Mae wedi bod yn brofiad sydd wir yn newid bywyd, gan fy arwain at lwybr gyrfa pwrpasol lle gallaf gyfrannu at fywydau’r rhai rwy’n dod ar eu traws a chyfrannu at newid cymdeithasol yn ddyddiol. 

“Yn ogystal â thyfu’n broffesiynol, mae ymgymryd â’r astudiaethau hyn wedi meithrin mewnwelediadau personol a’r arfer o hunanadfyfyrio ynof – gan fy mharatoi ar gyfer llwyddiant parhaus ym mhob agwedd ar fywyd. I unrhyw un sy’n ystyried gwneud cwrs mynediad, mae fy nghyngor yn syml: ewch amdani! Anelwch yn uchel a dewiswch gwrs rydych chi’n angerddol amdano.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon