Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gyhoeddi bod yr Hybarch Randolph Thomas wedi derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd.

Elwen Evans KC, Randolph Thomas and Emlyn Dole in their gowns on graduation day in Carmarthen

Cyflwynwyd y Ddoethuriaeth er Anrhydedd yn ystod seremoni raddio heddiw yng Nghaerfyrddin, lle cyflwynwyd y gydnabyddiaeth hon i Randolph Thomas gan Is-ganghellor PCYDDS, Elwen Evans CB.

Wrth gyflwyno’r wobr, dywedodd yr Is-ganghellor Elwen Evans CB, “Fel Is-Ganghellor, mae’n bleser mawr gennyf gyflwyno’r Hybarch Randolph Thomas gyda gradd Doethur mewn Diwinyddiaeth Honoris Causa. Yn gyn gadeirydd o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Cymru, mae Randolph wedi gweithio’n ddiflino ar ran y ddau sefydliad, drwy gyfnod sydd wedi bod yn hynod heriol i’r sector addysg uwch yng Nghymru. Rwy’n falch iawn bod gennym gyfle heddiw i gydnabod ei ymrwymiad eithriadol, arweinyddiaeth, a gwasanaeth i’r ddau Gyngor a Grŵp ehangach PCYDDS.”

Wedi’i eni a’i fagu yn Llangennech, mae gwerthoedd a threftadaeth Randolph wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn ei gymeriad. Wedi’i addysgu yn Ysgol Ramadeg i Fechgyn Llanelli ac yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, sydd bellach yn rhan o’r Brifysgol hon, graddiodd Randolph gyda gradd mewn diwinyddiaeth. Gyda bendith Archesgob Caergaint, ef oedd yr offeiriad ieuengaf erioed, yn 22 oed, i’w ordeinio o fewn yr Eglwys yng Nghymru.

Ar ôl curadiaethau yng Nghydweli a Chaerfyrddin, daeth Randolph yn Ficer Tîm Aberystwyth o 1976 i 1981 ac yn ddiweddarach yn ficer Betws-cum-Rhydaman o 1981 tan 1993 ac Eglwys Sant Pedr yng Nghaerfyrddin rhwng 1993 a 1996. Yna fe’i penodwyd yn Ganon Eglwys Gadeiriol Tyddewi ac, yn 2002, daeth yn Archddiacon Aberhonddu, rôl y bu’n ei gwasanaethu hyd 2013.

Creodd magwraeth Randolph yn Llangennech ymdeimlad cryf o gyfiawnder cymdeithasol ynddo. Yn eiriolwr ymroddedig dros gymorth cymunedol, mae wedi cyfrannu’n sylweddol at sefydliadau amrywiol, gan gynnwys sefydlu Cymdeithas Tai Cartrefi Cymru ar gyfer pobl ag anghenion ychwanegol, gwasanaethu fel Cadeirydd Grŵp Tai Gwalia, sefydlu Canolfannau Teulu yn Llanelli, Caerfyrddin ac Aberhonddu, a chychwyn Menter Busnes Aman i gefnogi cymunedau yr effeithiwyd arnynt gan gau pyllau glo yng nghanol yr wythdegau.

Yn 2014, penodwyd Randolph yn Gadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a, thair blynedd yn ddiweddarach, cymerodd rôl ychwanegol Cadeirydd Prifysgol Cymru. Gwasanaethodd y ddau sefydliad i safon rhagorol nes iddo ymddeol o’r ddwy swydd ym mis Awst 2023. Mae ei ddyletswyddau llywodraethu, ei ddiddordeb brwd mewn datblygiadau cwricwlaidd, a’i ymroddiad i brofiad cyffredinol myfyrwyr wedi bod yn amhrisiadwy i’r Brifysgol.

Ychwanegodd yr Is-ganghellor, “Er i’w gyfnod fel Cadeirydd ddod i ben wrth i mi ddechrau fy nghyfnod fel Is-Ganghellor, rwy’n ymwybodol iawn o ymdrechion diflino Randolph ar ran y sefydliad hwn drwy gydol y degawd diwethaf a thu hwnt. Bu’n gweithio’n agos gyda fy rhagflaenydd, yr Athro Medwin Hughes, i sefydlu prifysgol newydd i Gymru ynghyd â model addysg newydd ar gyfer rhanbarth De Orllewin Cymru. Hefyd penodwyd Randolph yn un o gyfarwyddwyr cyntaf y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, rôl y mae wedi ymgymryd â hi angerdd ac ymroddiad mawr.”

Ac yntau’n hoff o chwaraeon, mae gan Randolph gysylltiad cryf â thîm rygbi’r Scarlets a Chlwb Pêl-droed Lerpwl. Roedd yn cael ei adnabod fel chwaraewr cystadleuol yn ei ddydd, gan ragori mewn rygbi a chriced.

Mae arweinyddiaeth Randolph, ei ymrwymiad i wasanaeth, a chefnogaeth i’w gydweithwyr yn adnabyddus. Mae’n cael ei ddathlu nid yn unig am ei gyflawniadau proffesiynol ond hefyd am ei natur garedig, hael a thosturiol.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Randolph Thomas, “Mae’n anrhydedd mawr i mi fod yma gyda chi heddiw i dderbyn y ddoethuriaeth hon.

Mae’n rhaid imi gynnig teyrnged i rywun sydd ddim yma ac a fu’n sylfaen ac yn gefnogwr ac anogwr ar hyd fy oes, fy niweddar wraig. Roedd hi’n ysbrydoliaeth. Roedd hi’n gefnogwr gwych y gwnaeth ei gwerthoedd drawsnewid fy mywyd a bywyd ein teulu. Fyddwn i ddim yn sefyll yma heddiw yn derbyn y ddoethuriaeth hon heb ei chefnogaeth a’i hanogaeth aruthrol.

I chi raddedigion, rydych chi’n dechrau ar eich taith fel graddedigion y brifysgol hon - am fraint i chi ond am fraint i ni hefyd. 

Mae’n bleser mawr bod yn rhan o’r brifysgol hon ac wrth i chi fynd a dechrau eich gyrfa dymunaf bob llwyddiant ichi.  Rwyf hefyd yn dymuno pob llwyddiant i’r Is-ganghellor newydd, fy olynydd fel cadeirydd a’r staff academaidd yma yn y dyfodol oherwydd yr hyn sy’n bwysicach na dim i mi yw gweld y brifysgol hon yn tyfu, yn dylanwadu ac yn trawsnewid bywydau.”

Wrth grynhoi, ychwanegodd Elwen Evans CB, “Gyda balchder mawr yr wyf yn cyflwyno’r Hybarch Randolph Thomas i dderbyn gradd Doethur mewn Diwinyddiaeth Honoris Causa.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon